Dros £1 miliwn wedi ei ddyfarnu i brosiect compostio sy’n ysbrydoli cymunedau i leihau gwastraff bwyd

  • Dyfarnwyd dros £1m o arian y Loteri Genedlaethol i Compost Culture i greu 'pentrefi compost' ar draws Birmingham i helpu i fynd i'r afael â’r broblem gwastraff bwyd
  • Mae’r arian yn dod o’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd sy’n werth £100 miliwn dros 10 mlynedd
  • Dros y 12 mis diwethaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dosbarthu £5.7 miliwn ledled y Deyrnas Unedig i brosiectau sy'n mynd i'r afael â gwastraff bwyd.

Mae newid hinsawdd yn fater i bawb, a dyna pam yr ydym yn cefnogi cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i weithredu ar yr hinsawdd.

Un o'r ffyrdd hawsaf a mwyaf effeithiol y gallwn ni i gyd wneud hyn yw trwy leihau faint o fwyd rydyn ni’n ei daflu i safleoedd tirlenwi..

Mae Incredible Surplus CIC, sydd wedi’i leoli yn Birmingham, yn gweithio’n galed i frwydro yn erbyn yr epidemig o wastraff bwyd yn y Deyrnas Unedig ac maen nhw wedi derbyn dros £1 miliwn i sefydlu ‘pentrefi compost’ ar draws Birmingham, a fydd yn cael eu defnyddio i dyfu bwyd ffres, maethlon yn lleol, yn ogystal ag addysgu’r gymuned am bŵer compost.

Mae ymchwil gan WRAP , y grŵp sy’n ymgyrchu ar wastraff bwyd ac sydd y tu ôl i’r Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd a gynhelir bob mis Mawrth, yn dangos bod 6.4 miliwn tunnell o wastraff bwyd a diod yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn gan gartrefi’r Deyrnas Unedig, sy’n cyfateb i 341kg fesul aelwyd o bedwar o bobl – neu bwysau piano cyngerdd!

Meddai Elizabeth Rowe, Rheolwr Prosiect Incredible Surplus: “Mae yna ddyfyniad gan WRAP rydyn ni’n ei ddefnyddio, gan ei fod yn crynhoi’r broblem gwastraff bwyd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn ffordd mor syml a phwerus: ‘Pe bai gwastraff bwyd byd-eang yn wlad, dyma fyddai’r trydydd allyrrwr mwyaf o nwyon tŷ gwydr, y tu ôl i UDA a Tsieina’.

“Tra bod Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd yn gyfle i ni amlygu maint y broblem hon, hoffwn hefyd i bawb sylweddoli fod compostio yn weithredu ar yr hinsawdd. Mae’n rhywbeth y gallwch ei wneud bob dydd gartref a fydd yn cefnogi’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Bob tro y byddwch yn taflu rhywbeth y gellir ei gompostio i’ch bin, rydych yn cyfrannu at newid hinsawdd. Gyda’r technegau cywir, gallwch leihau’n sylweddol faint rydych yn ei roi yn y bag bin du heb feddwl.”

Bydd sefydliadau o Birmingham, sef y General Public, The Active Wellbeing Society, St Paul's Community Development Trust, Birmingham Friends of the Earth, a Crick Gardens yn cefnogi'r pentrefi compost ac yn cefnogi rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol ar sut y gall pobl fynd i'r afael â chompostio gartref.

Mae Incredible Surplus hefyd yn gweithio gydag archfarchnadoedd a bwytai i ailddosbarthu bwyd a fyddai fel arall yn mynd yn wastraff, gan ei roi i unigolion a sefydliadau cymunedol ar sail ‘talu beth y maen nhw’n ei deimlo sy’n briodol’. Drwy ymestyn eu gwaith i gompostio, mae'r grŵp bellach yn gweithio gyda sector manwerthu Birmingham i sicrhau bod cyn lleied o fwyd â phosibl yn cael ei wastraffu.

Disgwylir i wahanu gwastraff bwyd ddod yn ofyniad cyfreithiol i fanwerthwyr sydd â mwy na 10 o staff – megis archfarchnadoedd, caffis, a bwytai – ddiwedd mis Mawrth 2025. Gallai methu â gwneud hynny arwain at hysbysiad cydymffurfio gan Asiantaeth yr Amgylchedd a dirwy fawr o bosibl.

Meddai Elizabeth Rowe: “Mae sefydlu ‘diwylliant compostio’ da yn eich sefydliad yn gyraeddadwy os yw pawb – o’r gwaelod i fyny – yn cymryd rhan. Gydag arweiniad clir, y seilwaith cywir gan awdurdodau lleol, a gwerthfawrogiad gan berchnogion busnes o’r amser ychwanegol sydd ei angen ar eu staff, dylai fod yn hawdd i’r rheini yn y sector manwerthu a gwasanaethau wahanu eu gwastraff bwyd.”

Y flwyddyn nesaf, bydd y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd yn canolbwyntio ar gartrefi domestig, gyda chynghorau ar hyd a lled y wlad yn cyflwyno biniau gwastraff bwyd pwrpasol fel y gall teuluoedd sicrhau bod eu bwyd dros ben yn cael ei gompostio yn rhywle arall os nad yn eu gerddi eu hunain.

Dywedodd Elizabeth Rowe: “Roedd holl bartneriaid y prosiect yn falch o glywed y newyddion bod Cyngor Dinas Birmingham am gyflwyno cynllun casglu gwastraff bwyd. Mae casglu gwastraff bwyd gan ddinas o dros 1 miliwn o bobl yn dasg enfawr. Byddwn yn parhau i gefnogi’r broses hon drwy gynnig cyngor, adnoddau, a rhaglen gyhoeddus brysur o weithgarwch wythnosol, lle gall pobl ddod i ddysgu am gompostio.”

Mae Mita yn un sydd wedi cael agoriad llygad o ran y broblem gwastraff bwyd ers dod yn wirfoddolwr gyda Incredible Surplus ar ôl symud i'r Deyrnas Unedig o'i chartref ym Mangladesh.

Meddai: “O’r blaen ro’n i’n arfer taflu holl sbwriel y tŷ, nawr dw i’n casglu’r croen llysiau a bwyd dros ben dros ben mewn potyn ac yn gwneud compost. Dydw i ddim yn prynu unrhyw gompost o gwbl nawr - mae’r cyfan wedi ei wneud gartref. Y llynedd fe wnes i ei ddefnyddio i dyfu courgette, pwmpenni a thatws!

“Mae bod yn rhan o Incredible Surplus wedi bod yn hynod werth chweil ac wedi dysgu cymaint i mi am effaith gwastraff bwyd a sut y gallaf gyfrannu at ddyfodol mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy. Gyda chymorth y grant newydd, bydd mwy o bobl fel fi yn gallu torchi eu llewys a dechrau compostio.”

Mae’r grant newydd gwerth £1 miliwn a gafodd Incredible Surplus yn rhan o Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, cronfa sy’n werth £100 miliwn dros 10 mlynedd. Dros y 12 mis diwethaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dosbarthu £5.7 miliwn trwy bron i 100 o grantiau ledled y Deyrnas Unedig i brosiectau sy'n ymwneud â mynd i'r afael â gwastraff bwyd.

Meddai Mel Eaglesfield, Cyfarwyddwr Strategaeth Ariannu, Cyfathrebu ac Effaith Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd yn ein hatgoffa ar adeg amserol y gallwn ni i gyd chwarae rhan mewn gweithredu ar yr hinsawdd fel rhan o’n bywydau bob dydd. Dyna pam rydyn ni’n falch o ariannu prosiect fel Compost Culture, sy’n cael effaith hynod gadarnhaol ar ymddygiadau o fewn cymuned Birmingham.

“Trwy weithio gyda chymunedau amrywiol fel y rhai a geir yn Birmingham, mae prosiectau’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn helpu i greu newid parhaol am genedlaethau i ddod.”

Gallwch gyflwyno cais nawr i’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd - Ein Dyfodol Ni.