Arian gan y Loteri Genedlaethol i Energising East Durham

Mae Ymddiriedolaeth East Durham wedi derbyn bron i £1.2 miliwn gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd i gefnogi eu prosiect, Energising East Durham, sydd â’r nod o leihau ôl troed ynni aelwydydd o dros 20% mewn 22 tref a phentref yn yr ardal dros bum mlynedd.

Bydd y prosiect trawsnewidiol hwn yn adeiladu rhwydweithiau ac isadeiledd ynni a berchnogir gan y gymuned, gan wneud aelwydydd a chyfleusterau cymunedol ledled East Durham yn fwy gwydn yn erbyn heriau hinsawdd ac ynni’r dyfodol.

East Durham Trust

Gyda’r nod o greu systemau ynni cynaliadwy a theg, bydd Energising East Durham yn grymuso trigolion i arwain y ffordd wrth fynd i’r afael ag argyfyngau deuol ansefydlogrwydd ynni a newid hinsawdd. Wedi’i lleoli yn Peterlee, bydd Ymddiriedolaeth East Durham yn sefydlu deg ‘Hwb Ynni’ lleol, yn ogystal â hwb blaenllaw, y Beacon Hub yn Horden, a fydd yn darparu cyngor a chymorth uniongyrchol i aelwydydd mewn angen, gan gynnwys cyngor ar sut i gael mynediad i raglenni’r Llywodraeth megis y Green Deal.

Mae’r prosiect yn ategu cynllun dŵr pyllau glo Horden, sy’n archwilio sut y gellir defnyddio dŵr o’r hen byllau glo i gynhesu cartrefi, ysgolion a busnesau, ac mae’n rhan o gynllun Cyngor Sir Durham i fod yn garbon niwtral erbyn 2045.

Gyda hyd at 29% o’r aelwydydd yn East Durham ar hyn o bryd yn cael eu hystyried mewn tlodi ynni, o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 13.1%*, nod y prosiect yw paratoi’r ffordd at ddyfodol gwyrddach, mwy ynni effeithlon i’r ardal.

Meddai Graham Easterlow, Prif Weithredwr East Durham Trust: “Mae’r ariannu yn newid y gêm i’n cymunedau. Mae llawer o bobl yn ein hardal ni yn wynebu tlodi ynni eithafol, ac mae’n hanfodol nad ydynt yn cael eu gadael ar ôl yn y trawsnewidiad gwyrdd. Nid yn unig y bydd y prosiect hwn yn lleihau costau ynni, ond bydd hefyd yn sicrhau fod ein cymunedau yn rhan o’r ateb i’r argyfwng hinsawdd.”

Yn ogystal â rhoi cyngor i aelwydydd am sut i arbed ar eu biliau ynni a lleihau eu hallyriadau, mae East Durham Trust yn cynnig help gyda phopeth o barseli bwyd i gyngor ar ddyledion fel rhan o’u cefnogaeth a arweinir gan y gymuned.

Mae’r ymddiriedolaeth yn gartref i weithwyr sy’n arbenigo mewn gwirfoddoli, llesiant ariannol a chefnogaeth sy’n seiliedig ar y gymuned, gyda Chaffi Celf ar y safle yn arddangos gwaith plant ysgol lleol.

Meddai Graham: “Diolch i’r ariannu sylweddol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd East Durham yn gosod esiampl o sut gall cymunedau ôl-ddiwydiannol sydd wedi ei hamddifadu arwain y gad wrth daclo heriau byd-eang.”