Ynni a Hinsawdd: Rhoi cymunedau’n gyntaf i weithredu ar yr hinsawdd

Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd bellach ar agor i geisiadau sy'n canolbwyntio ar brosiectau ynni sydd wedi’u llywio gan y gymuned. Hoffem ddarparu arian y Loteri Genedlaethol i brosiectau sy’n seiliedig ar lefydd ac ar gyfer y DU gyfan sy’n dangos rôl weithredol cymunedau wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd tra’n taclo heriau ynni sy’n wynebu pobl.

Pam ein bod yn canolbwyntio ar Ynni a Hinsawdd

Mae cynhyrchu a defnyddio ynni yn cyfrannu dros ddau draean o allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang. Mae'r DU wedi ymrwymo i leihau ei hallyriadau carbon 78% erbyn 2035, ac i gyflawni allyriadau Sero Net erbyn 2050. Mae defnydd ynni mewn cartrefi ledled y DU, o wresogi, dŵr poeth a defnyddio offer trydan, yn cyfrif am tua 20% o allyriadau carbon y wlad.

Pe bai pob cartref yn cymryd mesurau effeithlonrwydd ynni, gallai gyrraedd 11% o darged carbon y DU ar gyfer 2050. Ar ddiwedd 2022, lansiodd llywodraeth y DU ei hymgyrch arbed ynni £18 miliwn ‘It All Adds Up’ i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gamau cost isel neu rhad y gall pobl eu cymryd i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae biliau ynni cynyddol wedi amlygu heriau ein dibyniaeth ar farchnadoedd tanwydd ffosil byd-eang ar gyfer pŵer a gwres. Mae ymchwil yn dangos bod y prisiau ynni cynyddol hyn yn debygol o daro aelwydydd incwm is yn anghymesur, gan eu bod yn gwario mwy o’u hincwm ar filiau cyfleustodau ac efallai eu bod yn profi tlodi tanwydd yn barod.

Creating Enterprise CIC

Bydd newid sut rydym yn defnyddio ynni yn cael effaith fawr ar ein hinsawdd gan hefyd sicrhau manteision economaidd, iechyd a lles sylweddol i bobl a chymunedau. Gall mesurau effeithlonrwydd ynni sy'n gwella fforddiadwyedd ynni gael effaith fesuradwy ar wella lles meddyliol ac iechyd corfforol, megis lleihau symptomau cyflyrau anadlol a chardiofasgwlaidd, gwynegon, arthritis ac alergeddau.

Gall prosiectau ynni cymunedol ddod â buddion niferus, gan gynnwys datblygu sgiliau newydd o fewn cymunedau, cefnogi'r newid i systemau ynni newydd, ysgogi'r economi leol, a gostwng biliau ynni yn ogystal â lleihau allyriadau carbon. Credwn y gall prosiectau ynni cymunedol llwyddiannus ysbrydoli gweithredu ar raddfa, datblygu ymddygiad cynaliadwy hirdymor ar lefel leol ac yn hollbwysig, sicrhau bod y cyd-fuddiannau hyn o brosiectau ynni cymunedol yn cael eu dosbarthu a’u cyrchu’n deg ar draws cymunedau yn y DU.

Y mathau o brosiectau y byddwn yn eu hariannu

Rydym yn cydnabod bod rhai grwpiau'n wynebu rhwystrau sylweddol i gymryd rhan mewn prosiectau ynni cymunedol; mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer aelwydydd incwm is, pobl â chyflyrau iechyd, trigolion gwledig a rhentwyr, sydd i gyd yn cyfrannu at y rhaniad cynyddol rhwng mynediad i drosglwyddo i systemau ynni newydd, a fforddiadwyedd i wneud hynny.

Ymhlith y rhwystrau ychwanegol a allai effeithio ar gyfranogiad mewn prosiectau ynni y mae mynediad cyfyngedig at wybodaeth ddibynadwy, arferion hirsefydlog sy'n anodd eu newid, a chamsyniadau ynghylch effeithlonrwydd ynni.

Drwy’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd, hoffem gefnogi mentrau Ynni a Hinsawdd yn enwedig sy’n deall ac yn helpu tynnu’r rhwystrau hyn i gyfranogiad ac sy’n cynnwys y rhai sydd â’r risg fwyaf o gael eu hepgor o’r sgwrs hinsawdd.

Nid yw’r gronfa hon ar gyfer prosiectau ar raddfa fach sydd â photensial cyfyngedig i dyfu, ac yn anffodus, ni allwn gefnogi prosiectau sy’n chwilio am arian cyfalaf i raddau helaeth. Yn hytrach, rydym yn bwriadu cefnogi prosiectau uchelgeisiol sydd â hanes cryf a’r potensial i adeiladu momentwm ac ysbrydoli eraill i weithredu ledled y DU. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau a all ddod â gwahanol chwaraewyr ynghyd i gyflawni trawsnewidiad mwy hirdymor.

Darllenwch y meini prawf llawn ar gyfer Y Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ynni a Hinsawdd a sut i gyflwyno cais.

Enghreifftiau o brosiectau sy'n canolbwyntio ar Ynni a Hinsawdd

Os ydych chi'n ystyried gwneud cais i'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd, mae'r prosiectau canlynol - rhai wedi'u hariannu diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ac eraill ddim - yn cynnig ysbrydoliaeth ar gyfer y math o brosiectau rydyn ni'n bwriadu eu hariannu (er nad yw hon yn rhestr gyflawn).

Prosiectau arddangos y gall pobl eu gweld, eu teimlo a chael eu hysbrydoli ganddynt:

Mae Futureproof, yn Ne-orllewin Lloegr, yn ceisio gwneud gwelliannau carbon isel i gartrefi yn ddewis naturiol. Dan arweiniad y Ganolfan Ynni Cynaliadwy (CSE) ynghyd â’i bartneriaid Cyngor Dinas Bryste, y Gofrestr Werdd a Greenhouse PR, mae’r prosiect yn cynnig ystod o weithgareddau gan gynnwys gwasanaeth cyngor dros y ffôn, hyfforddiant i gwmnïau lleol, ac arddangosiadau Green Open Homes sy’n galluogi perchnogion tai i ddysgu a chael eu hysbrydoli gan enghreifftiau go iawn o fesurau cartrefi carbon isel. Maent yn cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan gynnwys astudiaethau achos ôl-osod cartref a gyflwynir gan berchnogion tai.

Mae zero carbon house yn Birmingham wedi’i gynllunio i stopio’r defnydd o danwydd ffosil. Nid oes unrhyw garbon yn cael ei ryddhau i'r atmosffer o'r cartref teuluol unigryw hwn ac nid oes unrhyw filiau tanwydd chwaith. Dyma’r ôl-osod di-garbon cyntaf yn y DU – yr unig dŷ presennol sydd wedi’i uwchraddio i un o’r safonau mwyaf manwl gywir mewn dylunio gwyrdd, sef Lefel 6 Cod gwreiddiol y DU ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy. Mae diwrnodau agored zero carbon house yn rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb mewn ôl-osod a byw â llai o garbon i weld a chyffwrdd â’r tŷ a siarad â pherchnogion i ddarganfod sut mae’n gweithio.

Prosiectau sy’n sicrhau buddion cymdeithasol ac economaidd ychwanegol:

Mae Healthy Homes yn defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i sicrhau bod pobl yn Frome sydd mewn perygl o gael cartrefi oer yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae llythyrau a gweminarau yn cyfeirio trigolion at gyngor dibynadwy i helpu gwella eu hiechyd, arbed arian a lleihau eu hôl troed carbon. Gyda 30% o allyriadau Frome yn dod o ddefnydd ynni cartrefi, mae gwella effeithlonrwydd ynni yn hanfodol i leihau'r ôl troed carbon lleol a chadw pobl fregus yn iach trwy'r misoedd oerach.

Nod The Cold Homes Energy Efficiency Survey Experts (C.H.E.E.S.E.) Project, CIC dielw o Fryste a phrosiect a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol yn flaenorol, yw lleihau colledion ynni domestig trwy ddefnyddio offer delweddu thermol unigryw i ddangos i bobl o ble maent yn colli gwres o’u cartrefi. Mae’r arolygon hyn, sydd am ddim i aelwydydd ar incwm is, yn rhoi gwybodaeth i breswylwyr am ddatrysiadau cost isel effeithiol er mwyn arbed arian, gwella eu cysur a lles, a lleihau eu defnydd ynni a’u hôl troed carbon.

Prosiectau sy’n hybu newid ymddygiad:

Gan ddefnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol, mae Climate Action Fife yn gweithio ar draws sectorau a rhanddeiliaid allweddol i feithrin gallu a gwytnwch yn Fife. Mae Climate Action Fife yn datblygu ymgyrchoedd newid ymddygiad newydd ar y cyd â rhaglen o sgyrsiau ymgysylltu effeithlonrwydd ynni, gweithdai a digwyddiadau gyda ffocws ar newidiadau ymddygiad hirdymor. Gan flaenoriaethu’r grwpiau sydd â’r angen mwyaf, mae Climate Action Fife yn defnyddio dull dyfnach i ymgysylltu â gweithredu hinsawdd, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu hepgor o’r sgwrs hinsawdd ar hyn o bryd.

Mae Warmworks Scotland, menter ar y cyd rhwng Changeworks, Energy Saving Trust ac Everwarm, yn darparu Warmer Homes Scotland. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth yr Alban, mae’r cynllun yn tynnu ar y ddamcaniaeth newid ymddygiad ddiweddaraf, gan gynnwys model ISM Llywodraeth yr Alban (Unigol, Cymdeithasol a Materol), i helpu teuluoedd bregus ac incwm is. Mae’r prosiect yn rhoi cyngor cam wrth gam ar effeithlonrwydd ynni, gan annog newid ymddygiad yn y tymor hir a chynnig cymorth o’r dechrau i’r diwedd i wneud gwelliannau fel inswleiddio gwell a gwresogi newydd neu wedi’i atgyweirio.

Prosiectau meithrin capasiti sy’n helpu cymunedau i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau:

Mae Green Meadows, prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, yn gweithio gyda phobl leol i adeiladu cymuned, trwy ddysgu ymarferol, hyfforddiant a chyngor, i weithredu gyda'i gilydd ar newid hinsawdd. Mae eu harolygon rhad ac am ddim Future-Fit Homes yn rhoi cynlluniau arbed ynni wedi’u teilwra i breswylwyr i leihau allyriadau carbon, lleihau biliau ynni a gwella cynhesrwydd cartrefi. Mae Green Meadows yn dangos yr hyn sy’n bosibl o ran effeithlonrwydd ynni pan fydd cymdogaeth wedi’i grymuso i liniaru newid hinsawdd a meithrin gwytnwch trwy weithredu unigol a chyfunol.

Mae Community Energy Pathways, a ddarperir gan Community Energy South, yn darparu’r sgiliau a’r offer i grwpiau ynni cymunedol ddatblygu, adeiladu gwytnwch lleol a chreu swyddi ar draws cymunedau. Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i nodi sut y gellir ymgorffori ynni cymunedol yng nghynlluniau gweithredu hinsawdd cynghorau i adeiladu newid systemig gyda chymunedau'n arwain o'r blaen.

Nod y Retrofit Engagement Programme, a ddarperir gan Zero Carbon Harrogate, yw lleihau’r effaith ar yr hinsawdd o ddefnyddio ynni domestig drwy gyflymu’r broses o ddarparu gwasanaethau ôl-osod lleol. Mae'r prosiect, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, yn gweithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Harrogate i gynnal arolwg manwl a fydd yn nodi bylchau gwybodaeth trigolion ar fesurau arbed ynni domestig ac ôl-osod. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn diogelu adeiladwyr a masnachwyr yr ardal at y dyfodol trwy ddarparu hyfforddiant ôl-osod.

Prosiectau sy’n galluogi cymunedau i ddeall ac ymgysylltu â chyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni glân, nad ydynt yn defnyddio tanwyddau ffosil:

Mae’r prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol Ynni Lleol yn defnyddio data mesuryddion clyfar a phartneriaethau gyda chwmnïau manwerthu ynni i greu ‘clybiau ynni’ – grwpiau o gymunedau lleol sy’n cytuno i geisio cyfateb eu galw i’r adegau pan mae cynhyrchiant adnewyddadwy lleol ar ei uchaf. Mae’r model Ynni Lleol yn gwneud pŵer yn wirioneddol leol, gan fuddio economi’r gymuned tra’n datgarboneiddio’r system bŵer. Mae hyn yn galluogi pobl i fanteisio ar ynni di-garbon lleol i’r eithaf, cynyddu refeniw ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa fach i ganolig a gwneud arbedion ar filiau ynni.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn disgwyl ymrwymo dros £75 miliwn i gefnogi cymunedau gyda chostau byw yn ystod y flwyddyn nesaf. Gweler rhestr o'n holl raglenni ariannu sydd ar agor ar hyn o bryd ac sydd ar gael ledled y DU.

Os nad yw'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn addas i chi, efallai y byddwch am ystyried cyllidwyr eraill. Mae ein Hwb Hinsawdd yn cynnwys cyllidwyr posibl eraill y gallech gysylltu â nhw.

Noder, mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn dal i fod ar agor i geisiadau sy'n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng Natur a Hinsawdd hefyd. Dysgwch ragor am y meini prawf ar gyfer y thema hon ac Ynni a Hinsawdd ar Cronfa Gweithredu Hinsawdd gan gynnwys manylion ar sut i wneud cais.