Gwerddon fach ar gyfer y Gymuned: Ffagl Gobaith - Mynd i'r Afael â Llifogydd yn Sir y Fflint
Sefydlwyd Cwmni Buddiannau Cymunedol Enbarr Foundation yn
2017 fel cangen o fudiad recriwtio masnachol i gefnogi pobl i ddod o hyd i gyflogaeth trwy farchnadoedd niche a sgiliau a hyfforddiant ychwanegol.
Yn 2020 roeddent yn llwyddiannus yn derbyn grant y Loteri Genedlaethol i helpu gwaith gyda'r gymuned leol ac adeiladu sgiliau o amgylch gardd gymunedol.
Siaradom â Vicki Roskams o Gwmni Buddiannau Cymunedol Enbarr Foundation am eu gwaith a'r grant Hwb i’r Hinsawdd i gefnogi'u hamgylchedd lleol.
Ymgysylltu
"Y peth cyntaf i ni wneud oedd cynnal digwyddiadau ymgysylltu gyda phobl yn ein cymuned i ddeall eu blaenoriaethau a beth fyddai'n gwneud ein cymuned yn well iddyn nhw. Fe sicrhaom ein bod yn estyn allan i'r holl gymuned gyfagos gan fod nifer o gymunedau bach gwledig wedi'u cysylltu â'i gilydd yn ymgorffori pobl o wahanol gefndiroedd. Aethom ati i geisio dod â phawb ynghyd gyda'r nod o ganolbwyntio ar, fel yr oeddem yn ei alw, y Ffagl Gobaith. Y Ffagl Gobaith yw'r clocdwr yng nghanol ein gerddi, a defnyddiwyd hwnnw fel sbardun newid ac i helpu pobl i feddwl yn wahanol, i ddod allan i natur, i wella eu llesiant, i ddod ynghyd ac i rannu amcan at y dyfodol."
Gerddi Cymunedol
"Bu i ni ddarganfod bod pobl eisiau gallu defnyddio'r gerddi ar ein safle eto. Nid oedd neb wedi eu cyffwrdd am 20 mlynedd ac roeddent wedi tyfu'n wyllt ac yn flêr, roedd y fflora a ffawna heb eu trin ac allan o reolaeth yn gwneud mwy o niwed na les i'r ardal.
Felly, fel cymuned penderfynom fynd i'r afael â hynny a thorri'r gordyfiant yn ôl i ddod â ni i sefyllfa lle gallem ddefnyddio'r gofod fel lle i bobl ymweld, i weld yr ardd dreftadaeth a'i nodweddion, i fwynhau eu hunain ac i deimlo cysylltiad â natur. Roeddem yn llwyddiannus yn derbyn arian y Loteri Genedlaethol i ddod â phobl ynghyd a gwneud i hynny ddigwydd gan roi cicdaniad mawr ei angen i'r ecosystem, tra'n cefnogi bioamrywiaeth y safle a chreu mannau i fflora a ffawna ffynnu."
Hwb i'r Hinsawdd
Wedi hynny cynigwyd cyfle i Gwmni Buddiannau Cymunedol Enbarr Foundation gymryd rhan yng nghynllun Hwb i'r Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol - rhaglen i gefnogi grwpiau cyfredol y Loteri Genedlaethol i wneud eu prosiectau'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd. Fe nodon nhw fod llifogydd yn broblem fawr yn eu hardal a gweithio gydag Adfywio Cymru i ddod o hyd i ddatrysiad.
"Mae gorlifdir y tu ôl i ni ac mae caniatâd cynllunio wedi cael ei roi i adeiladu arno sy'n achosi ymgodiad yn lefel y dŵr ac yn achosi i lawer o fywyd gwyllt symud i'r ystadau lleol. Siaradais ag Adfywio Cymru a thrafodon ni sut y gallem gasglu dŵr i roi mewn systemau lliniaru dŵr ar gyfer yr ardal i amddiffyn cartrefi pobl yn ogystal â'r bywyd gwyllt lleol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi dweud wrthym fod yna bosibilrwydd y gallai'r afon gorlifo a bod lefel y dŵr yn yr afon wedi codi 28% yn ystod y flwyddyn.
Rwy'n credu bod llawer o bobl yn erbyn yr hyn a wnaethom i gychwyn gan i ni gychwyn torri yn ôl rhai o'r coed hunan-hadu a'r fedw arian. Mae pobl yn dueddol o feddwl, "oni ddylech chi fod yn amddiffyn coed i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?" ond roeddem yn canolbwyntio ar ardal orboblog a oedd mewn perygl Mewn un ardal, fe gawsom wared ar thua 100 o goed a darganfod hen blanhigion anhygoel nad oeddem yn gwybod amdanynt cyn hynny. Roedd yna olewydden, coed afalau, coeden eirin Tsieineaidd a oedd wedi cael ei roddi yn y 1930au, perllan fach nad oedd wedi gallu tyfu oherwydd bod y tir wedi'i orboblogi - wedi i ni dorri'r planhigion yn ôl daethom o hyd i ffynnon a phwll nofio hyd yn oed.
Yna, fe roddom yr hyn i ni ei dorri i'r gymuned i'w defnyddio fel tanwydd mewn llosgwyr pren ac i gerfio cerfluniau er mwyn i blant allu rhyngweithio â'r ardd, gan ddefnyddio'r hyn a oedd gennym at ddibenion newydd er budd y gymuned ac i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn lleol.
Pan i mi siarad ag Adfywio Cymru, bu i ni hefyd drafod y syniad o gael tanc dŵr i dynnu dŵr o nant Shotwick sy'n rhedeg i'r Dyfrdwy oherwydd, yn sgil yr ymgodiad dros y blynyddoedd diweddar oherwydd y gwaith adeiladu ar orlifdiroedd, roedd yn cychwyn codi'r sylfeini a thorri'r ffos dan adeilad y garej nesaf at y clocdwr.
Mae ein prosiect yn rhedeg wrth ochr yr afon ac ar ei hyd mae yna rwystr sy'n cau llif y Dyfrdwy pan ddaw'r llanw i fyny'n uchel. Mae hwn wedyn yn gorlifo i fyny'r ffos a dan yr adeiladau cyfagos. Roedd y tanc dŵr yn syniad i helpu i leddfu hynny - trwy storio'r dŵr dros ben mewn tanc, gallwn ei ryddhau yn ôl i mewn i'r Dyfrdwy pan fo'r rhwystr llifogydd ar agor eto. Mae'r tŵr yn cymryd hyd at 10,000 troedfedd giwbig ar y tro ac rydym yn dargyfeirio tua 60,000 yr wythnos. Mae hynny'n ddigon i lenwi pwll nofio maint Olympaidd mewn mis. “
Effaith
"Nawr ein bod yn clirio ein gardd ac yn amddiffyn ein tir yn well rhag llifogydd, gallwn gael mwy o bobl yn rhan o ddysgu am eu hamgylchedd lleol. Pan rydym yn cynnal gweithgareddau megis waliau sychion er enghraifft, gallwn ddangos sut mae'r pryfed sy'n byw ym mhob twll a chornel y waliau'n buddio'r poblogaethau adar lleol, a gallwn ddysgu plant a'u teuluoedd am y byd o'u hamgylch. Ac mae hwn yn addysg ymarferol sy'n aros gyda phobl, a ddim yn rhywbeth rydych chi'n darllen am yn eistedd y tu ôl i gyfrifiadur.
Dyma'r math o addysg lle rydych chi'n gallu gweld pethau'n digwydd gyda'ch llygaid eich hunain a dros amser gallwch weld sut mae poblogaethau'r adar a gwenyn yn tyfu, sut mae adar newydd yn heidio yma, a sut maen nhw'n defnyddio gwahanol rannau o'r dirwedd. Mae'r rhain oll nawr, i nifer o bobl, yn bethau newydd i lawr yr heol nad oedd yma iddynt eu mwynhau o'r blaen. Mae fel gwerddon fach iddyn nhw."
Y Dyfodol
"Y cwbl ydyn ni yw hwylusydd ar gyfer y gymuned yn defnyddio ein sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau i wneud i hyn ddigwydd. Yna fe gymeron nhw'r prosiect hwn a'u syniadau nhw sy'n creu'r weledigaeth at y dyfodol. Mae gennym ein rhwydweithiau, ymgynghorwyr, ac ati ond ar ddiwedd y diwrnod mae'n ymwneud â chael syniadau'r gymuned a sicrhau ein bod nid yn unig yn eu hymgorffori yn y prosiect yn y dyfodol ond ein bod hefyd yn eu grymuso i ddod yn Eiriolwyr o'r hyn rydym yn gwneud a chreu newid cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Nhw yw gwarcheidwaid ein dyfodol - mae ganddyn nhw rôl hynod weithgar yn y newid, gan estyn allan i gymunedau eraill a chreu'r cysylltiad hwnnw.
Mae'n hanfodol na fod y cysylltiadau a gyflawnwn yn rhai digidol yn unig. Mae'n ymwneud â chysylltiadau sy'n pontio'r cenedlaethau a chysylltu pobl o un economi wledig â'r nesaf. Dyna beth sy'n cychwyn sgyrsiau a dyna sut mae pobl yn teimlo fel rhan o'u cymuned. Rwy'n teimlo bod angen clywed lleisiau pobl ifanc mwy mewn cymunedau a bod eu syniadau ac ymagwedd at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd heb gael eu cydnabod gan gymunedau eto, ac rwy'n credu bod dod â phobl ynghyd yn fodd o helpu i sicrhau bod y lleisiau hyn yn cael eu clywed.
Heb arian y Loteri Genedlaethol ni fyddem byth wedi gallu bod yn sefyllfa hon, mae'n ffantastig."
I ddysgu mwy am arian y Loteri Genedlaethol sydd ar gael i gefnogi cymunedau i fynd i'r afael â gweithredu dros yr hinsawdd, darllenwch hwn.