Gwneud gwyddoniaeth hinsawdd yn fwy hygyrch: Prosiect Collective Climate Repair The Sensory Trust

Mae The Sensory Trust yng Nghernyw wedi derbyn dros £850,000 i ysbrydoli pobl ledled Lloegr a'r Alban sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw, sy'n ddall neu'n rhannol ddall, sydd â chyflwr niwroamrywiol, neu sy'n awtistig, i wella bioamrywiaeth yn eu cymunedau.

Mae ei brosiect Collective Climate Repair yn canolbwyntio ar rôl dŵr wrth weithredu ar yr hinsawdd, gyda gweithgareddau'n cynnwys cynnal a chadw tir glaswellt, hau blodau gwyllt, plannu coed, a chreu gwlyptiroedd newydd yn Nyfnaint a Chernyw, Caeredin, Lerpwl, a Llundain.

Bydd yr arian yn helpu datblygu adnoddau, canllawiau a gweithgareddau ar y safle sy'n lleihau cymhlethdod ac anhygyrchedd gwyddoniaeth hinsawdd.

Dywedodd Victoria Hutchinson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Ymddiriedolaeth Synhwyraidd: "Mae gwybodaeth am yr hinsawdd a byd natur yn aml yn gymhleth ac anaml y mae ar gael mewn fformatau cyfathrebu cynhwysol, megis Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a braille. Mae diffyg cyfle i gymryd rhan yn uniongyrchol drwy'r ieithoedd hyn yn eithrio pobl rhag datblygu ymdeimlad personol o berchnogaeth ar gyfer gofalu am yr amgylchedd yn well. Bydd yr arian hwn yn ein galluogi ni a'n partneriaid i lansio dull newydd, arloesol a fydd yn cael effaith wirioneddol ar atgyweirio hinsawdd, wrth roi ymdeimlad o asiantaeth i bobl ymylol dros yr argyfwng hinsawdd."

Eleni, mae £20 miliwn arall wedi cael ei ddarparu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU, fel rhan o'i Gronfa Gweithredu Hinsawdd gwerth £100 miliwn.

Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni yn anelu at gynnwys mwy o bobl yng ngweithredu hinsawdd, gan gefnogi cydweithio i ddod â chymunedau at ei gilydd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae ceisiadau bellach yn agored i bartneriaethau sy'n gweithio gyda chymunedau a allai fod yn newydd i weithredu hinsawdd, yn enwedig prosiectau sy'n cynnwys pobl, llefydd a chymunedau sy'n profi tlodi, gwahaniaethu ac anfantais.

Dywedodd Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Rydyn ni'n gwybod bod newid hinsawdd yn bwysig i gymunedau, felly mae'n bwysig i ni. Nod y rhaglen ariannu newydd hon yw dod â phobl ynghyd i gyflawni prosiectau uchelgeisiol ar raddfa fawr a fydd yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd.

"Byddem wrth ein boddau i dderbyn ceisiadau gan bartneriaethau sydd â syniadau mentrus a chyffrous, wedi'u hysbrydoli gan ddiddordebau a bywydau beunyddiol pobl, gan helpu creu rhwydweithiau ledled y DU a chyrraedd cymunedau a grwpiau a allai fod yn newydd i weithredu hinsawdd."

Ychwanegodd Victoria: "I unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd, byddwn i'n dweud ewch amdani!"

Dysgwch ragor ac ymgeisiwch ar-lein: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/programmes/climate-action-fund-our-shared-future