Fy Nhaith gyda

Naomi Simpson, 17 oed, Leeds

Drwy'r ysgol roedd gen i ddiddordeb mewn cynaliadwyedd bob amser, ond methodd yr ysgol â'm hysbrydoli i wneud newid go iawn. Dim ond pan oeddwn, bum mis i mewn i'r pandemig byd-eang ac ysgolion yn cau ledled y wlad, cefais fy nhynnu i fyd Our Bright Future.

Roeddwn i'n sgrolio drwy Instagram ac yn mynd heibio hysbyseb ar gyfer cwrs o'r enw 'Bright Green Future', a drefnwyd gan Our Bright Green Future. Penderfynais gofrestru, ac er gwaethaf methu'r dyddiad cau, cefais le ar y cwrs cynaliadwyedd.

Nid oedd gennyf syniad y byddai ymuno â'r cwrs hwn yn fy arwain i fyd o weithredu yn yr hinsawdd ac yn rhoi gwir ymdeimlad o werthfawrogiad i mi am ein hamgylchedd. Ar ôl ychydig o sesiynau ar y cwrs a chlywed am y camau gweithredu yn yr hinsawdd yr oedd fy ffrindiau'n ymwneud â nhw, cefais fy ysbrydoli i fanteisio ar y cyfle i ymuno â Fforwm Ieuenctid Our Bright Future.

Nawr, flwyddyn yn ddiweddarach, rwy'n parhau i fynychu cyfarfodydd wythnosol y Fforwm Ieuenctid, tra byddaf yn paratoi ar gyfer graddio o'r cwrs 'Bright Green Future'.

Mae Our Bright Future yn rhaglen a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'r rhaglen yn cynnwys 31 o brosiectau ledled y DU sy'n anelu at annog pobl ifanc i weithredu ar newid yn yr hinsawdd yn gadarnhaol. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar dri prif nod, mae'r rhain yn cynnwys: dysgu mewn natur ac am natur, cefnogi pobl ifanc i gael gwaith sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd a dylanwadu ar gyflogwyr, busnesau, llunwyr polisïau, ysgolion ac elusennau i ganolbwyntio mwy ar yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar bobl ifanc.

I mi, fel person ifanc, mae'n amlwg bod Our Bright Future wir yn gwerthfawrogi fy llais. Mae staff a gwirfoddolwyr y prosiect yn gweithio tuag at roi llwyfan i genedlaethau'r dyfodol siarad am weithredu yn yr hinsawdd ac annog pobl nid yn unig i siarad, ond i weithredu. Nid oes unrhyw syniad yn un drwg, ac mae barn pobl ifanc yn bwysig iawn i Our Bright Future.

Dros y blynyddoedd, mae Our Bright Future wedi gweld dros 115,000 o bobl yn ymgysylltu â'u prosiectau. Yn bersonol, yr effaith fwyaf y mae'r rhaglen wedi'i chael arnaf yw'r dylanwad a'r anogaeth i chwilio am fwy o gyfleoedd, rwyf bellach yn cynorthwyo'n rheolaidd gyda'm grŵp Ieuenctid ar gyfer Yr Hinsawdd lleol, gan greu ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd a'r effaith y bydd dirywiad amgylcheddol yn ei chael ar ein cymunedau lleol.

Er mai dim ond yn fy arddegau ydw i, mae maes o weithgarwch hinsawdd yr wyf yn ei archwilio ar hyn o bryd yn sicrhau bod lleisiau cenedlaethau iau yn cael eu clywed. Mae llawer o grwpiau ieuenctid ond yn cymryd aelodau 16 oed ac i fyny, ond rwy'n credu'n wirioneddol ei bod yn bwysig cael sgyrsiau am yr hinsawdd gyda phlant a phobl ifanc hefyd.

Mae gweithredoedd pobl ifanc ddylanwadol yn parhau i ysgogi fy mhenderfyniad i wneud gwahaniaeth. Ochr yn ochr â'm hastudiaethau llawn amser, a chyda chefnogaeth barhaus gan Our Bright Future, rwy'n ennill sgiliau sy'n fy rhoi mewn cyflwr da i geisio gwneud newid.

Mae Our Bright Future wedi rhoi'r hyder a'r profiadau i mi i wneud cais fy hun a manteisio ar gyfleoedd newydd. Mae staff y prosiect yn gefnogol ac yn ein hannog i weithio'n agos gyda gweithredwyr hinsawdd ifanc eraill. Mae bod yn rhan o Our Bright Future wedi bod yn brofiad allweddol i mi ac mae wedi cadarnhau fy ymroddiad i gyfrannu at fudiad amgylcheddol a fydd, yn fy marn i, yn ganolog i sicrwydd ein dyfodol.