Natur a’r Hinsawdd: Rhoi cymunedau’n gyntaf i weithredu yn erbyn newid hinsawdd

Hen flog yw hwn. Mae'r cyllid bellach wedi cau.

Mae’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd bellach ar agor i geisiadau gyda ffocws cychwynnol ar fyd natur a’r hinsawdd. Mae pandemig COVID-19 wedi dangos yn eglur y cysylltiad rhwng cymdeithas, yr economi a’r byd naturiol. Mae hyn yn cyflwyno cyfle mawr a gweddol ddigyffwrdd i gymunedau chwarae rôl ganolog wrth weithio â byd natur i fynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau newid hinsawdd.

Pam rydym ni’n canolbwyntio ar fyd natur a’r hinsawdd

Mae’r DU wedi colli llawer o’i amgylchedd naturiol i weithgarwch dynol – mwy na’r rhan fwyaf o wledydd eraill yn y byd. Mae’r DU 189fed yn y byd ar gyfer bioamrywiaeth. Mae’r effeithiau hyn yn aml yn cael eu teimlo mwyaf mewn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig.

Wedi’i ddisgrifio fel y ‘lladdwr distaw’, mae colled bioamrywiaeth yn derbyn llai o sylw gan y cyfryngau na chynhesu byd-eang er gwaethaf ei effaith fwy. Mae’r newyddion yn canolbwyntio ar effeithiau dinistriol llifogydd, sychder a thanau; ond mae gan golled bioamrywiaeth effeithiau mwy hirdymor ar gyfer dyfodol ein planed.

Mae tri chwarter o wlypdiroedd y Ddaear wedi cael eu colli ers dechrau’r chwyldro diwydiannol, ac mae gostyngiad o 68% wedi bod ym mhoblogaeth mamaliaid, adar, amffibiaid, ymlusgiaid a physgod y byd dros y 50 mlynedd diwethaf.

Mae’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng byd natur yn gysylltiedig iawn. Mae prosiectau sy’n canolbwyntio ar natur yn cynnig ffyrdd effeithiol o amddiffyn, adfer a rheoli ecosystemau gan fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholled bioamrywiaeth hefyd. Ond, yr un mor bwysig, mae prosiectau o’r fath yn gallu cynnig nifer o fanteision i bobl leol, gan gynnwys y potensial i hybu cyflogaeth a dysgu sgiliau newydd i bobl, gan gefnogi cymunedau i fachu ar gyfleoedd a gynhyrchwyd gan y trosglwyddiad i’r economi werdd.

Mae’r elfen ddynol hon yn bwysig wrth ddylunio prosiectau newydd. Mae mynediad gwell at fyd natur yn cael effaith arwyddocaol ar ein hiechyd a lles. Mewn astudiaeth ddiweddar gan RSPB (Y Gymdeithas Frenhinol dros Warchod Adar), dywedodd 63% o bobl fod gwylio a gwrando ar yr adar yn ychwanegu at eu mwynhad bywyd ers dechrau COVID-19. Mae treulio amser ym myd natur yn cynnig amrywiaeth eang o fanteision iechyd a lles sy’n cynnwys gwell cwsg, lleihad mewn gorbryder ac iselder, pwysedd gwaed is a lefelau straen is.

Er bod natur yn ymddangos yn hygyrch i bawb, canfuodd adolygiad gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn 2020 fod pobl hŷn, y rhai hynny sydd ag iechyd gwael, pobl o statws economaidd-gymdeithasol is, pobl ag anabledd corfforol, lleiafrifoedd ethnig, a phobl sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig i gyd yn llai tebygol o ymweld â mannau gwyrdd. Yn ystod y pandemig, roedd 73% o blant o aelwydydd incwm is yn treulio llai o amser yn yr awyr agored o gymharu â 57% mewn aelwydydd incwm uwch (Natural England).

Mathau o brosiectau y gallem eu hariannu

Mae diddordeb gennym i ddarparu cyllid y Loteri Genedlaethol i brosiectau sy’n defnyddio natur i annog gweithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned yn y mannau yr ydym ni’n byw ac yn gweithio ynddynt, ac sy’n gallu cynnig manteision cymdeithasol ac economaidd pwysig eraill, fel iechyd gwell ar draws cymunedau neu ddatblygiad sgiliau neu swyddi ‘gwyrdd’.

Yn benodol, rydym ni’n ceisio adnabod a chefnogi prosiectau a fydd yn ysbrydoli cymunedau i weithredu yn erbyn newid hinsawdd ac:

  • Sydd â photensial i dyfu
  • Sy’n ymgysylltu â phobl o wahanol lefelau o’u hecosystem (cymunedau, y sector preifat, y byd academaidd, y cyfryngau, polisi ac ymarfer) i greu amodau ar gyfer newid systemig
  • Sy’n defnyddio straeon neu ddulliau creadigol i ymateb i newid hinsawdd trwy natur
  • Sy’n profi naratifau newydd am fyd natur i hyrwyddo newid ymddygiad ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd nad ydynt yn ymgysylltu â gweithredu hinsawdd
  • Sy’n dangos eu heffaith amgylcheddol a charbon
  • Sydd ag awydd ac agwedd cryf tuag at rannu dysgu a chysylltu ag eraill i rannu arferion a chydweithredu

Hoffem ariannu partneriaethau a arweinir gan y gymuned sy’n cynnwys pobl leol sy’n deall yr hyn sydd ei angen yn eu hardal leol, ac sydd wedi’u dylunio a’u darparu ganddynt. Rydym ni hefyd yn chwilio i gefnogi partneriaethau DU-cyfan sy’n cael eu cynnal ar draws o leiaf dwy wlad yn y DU.

Dylai fod gan brosiectau gynlluniau eglur sy’n mynd i’r afael â rhwystrau cyfranogi ar gyfer pobl a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli. Dylen nhw geisio ymgysylltu â’r cyhoedd, gan gynnwys y rhai hynny nad ydynt yn gweithredu yn erbyn newid hinsawdd eisoes.

Hoffem ariannu rhai prosiectau a arweinir gan bobl a chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio’n fwy niweidiol gan newid hinsawdd hefyd, er enghraifft, cymunedau sy’n byw mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd.

Mewn ardaloedd trefol, ystyrir prosiectau sy’n adeiladu toeon gwyrdd, plannu coed, adfer perthi, gwella rheolaeth llifogydd, neu’n sefydlu draenio cynaliadwy yn berthnasol. Mae prosiectau sy’n adfer gwlypdiroedd, adfywio morfeydd heli, neu gynefinoedd ein rhywogaethau sy’n dirywio hefyd yn gallu gwneud cyfraniad mawr.

Darllenwch y meini prawf cyfan ar gyfer y rhaglen ac ymgeisiwch yma

Enghreifftiau o brosiectau sy’n canolbwyntio ar natur

Mae’r prosiectau canlynol, rhai a ariannwyd diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a rhai arall heb, yn cynnig ysbrydoliaeth i gymunedau sy’n meddwl am ymgeisio ar gyfer rhaglen y Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Rydym ni hefyd yn agored i glywed am syniadau a dulliau newydd i gymunedau, yr hinsawdd a byd natur.

Defnyddio byd natur i fynd i’r afael â phroblemau cynyddol yr hinsawdd: Rhaglen gwytnwch cymunedol cenedlaethol yw Communities Prepared, prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sy’n rhoi gwybodaeth a hyder i Wirfoddolwr Argyfwng Cymunedol (CEV) a grwpiau Warden Llifogydd i baratoi, ymateb ac adfer o amrywiaeth o sefyllfaoedd argyfwng, o lifogydd a digwyddiadau tywydd difrifol i bandemigau.

Yn y South Downs, mae Ouse Valley CARES (Gweithredu Hinsawdd, Ecosystemau Gwydn a Chynaliadwyedd) wedi bod yn defnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol i geisio gweithredu datrysiadau naturiol i secwestru carbon a ‘gwneud lle i ddŵr’ yn nalgylch Ouse, gan helpu lleihau perygl llifogydd a gwella gwytnwch sychder; cysylltu cynefinoedd, gwella ansawdd dŵr, hybu mannau gwyrdd a magu addysg.

Archwilio systemau cynhyrchu bwyd sy’n llai niweidiol i fyd natur: Ar Ynys Skye, mae Climavore, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, wedi creu platfform sy’n dod â phob lefel o’r ecosystem ynghyd. Mae Climavore yn cydweithredu gydag arbenigwyr mewn sawl maes, o ecoleg, bywydeg forol, agronomeg, maeth, a pheirianneg i ffermwyr lleol, pysgotwyr, haneswyr a phlant ysgol i hyrwyddo systemau bwyd arfordirol amgen ac adfywiol.

Mae Zero Carbon Guildford yn treialu dulliau ffermio fertigol yng nghanol y dref, gan gydweithio gyda’r farchnad ffermwyr leol a phartneriaid eraill i arddangos cynhyrchu bwyd lleol a symud tuag at ‘sofraniaeth bwyd’.

Creu mannau naturiol newydd, hygyrch yn y llefydd yr ydym ni’n byw ac yn gweithio: Mae Backyard Nature yn ysbrydoli plant a theuluoedd i helpu planhigion ac anifeiliaid i ffynnu ar ddarn o natur eu hunain – boed ydyn nhw’n byw yng nghanol dinas neu yng nghefn gwlad.

Ymateb a arweinir gan y gymuned oedd The Wildflower Alleys in the Heart of Belfast er mwyn mynd i’r afael â lefelau llygredd a throsedd uchel trwy drawsffurfio strydoedd cefn eu cymdogaethau i erddi blodau gwyllt sy’n ffynnu.

Annog ymwybyddiaeth amgylcheddol trwy gynyddu cyfleoedd dysgu awyr agored: Wedi’i gefnogi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, defnyddiodd y rhaglen beilot My School, My Planet ddysgu awyr agored i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig i ymgysylltu â dysgu unwaith eto yn dilyn y cyfnod clo COVID-19 cyntaf. Anogodd y rhaglen gysylltiad ehangach i ddisgyblion gyda’u treftadaeth naturiol a newid hinsawdd.

Yng Ngorllewin Swydd Efrog, mae’r rhaglen Growing Resilience a arweinir gan Gyngor Calderdale ac a ariennir diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn canolbwyntio ar weithio gyda chymunedau gwledig i ddarparu rheolaeth tir cynaliadwy a thyfu migwyn – planhigyn pwysig wrth reoli llifogydd yn ogystal â ffurfio mawnogydd dros amser, dalfa garbon hanfodol. Mae 70 o bobl ifanc o ysgolion lleol yn arbrofi â thyfu migwyn yn eu dosbarthiadau ac mae 37 o wirfoddolwyr cymunedol pellach yn tyfu migwyn yn weithredol.

Defnyddio dulliau creadigol i ymgysylltu cymunedau â’r hinsawdd a byd natur: Gan ddefnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol, cefnogodd brosiect WWF y DU ‘Mobilising UK Communities to Tackle the Climate and Nature Crisis’ o leiaf 250 o arweinwyr cymunedol lleol o gefndiroedd amrywiol i gynnal sgriniadau cymunedol digidol o ‘David Attenborough: A Life on Our Planet’. Galluogodd cyfres hyfforddi a gweithdai ar-lein gamau gweithredu newid hinsawdd sy’n briodol ar gyfer yr ardal leol.

Mae Manchester Climate Change Agency (MCCA), prosiect sydd hefyd yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol, yn gweithio â phartneriaid lleol a Hubbub ar ‘In our Nature’, ymgyrch sy’n cefnogi grwpiau lleol i ddod â datrysiadau hinsawdd creadigol eu hunain yn fyw. Hyd heddiw, mae’r prosiect wedi lansio prosiectau gwyrddu trefol arloesol sy’n archwilio sut mae treulio amser ym myd natur yn helpu cysylltu newid hinsawdd â’n bywydau bob dydd, gan gynnwys siop ‘pop up’ yng nghanol dinas Manceinion.

Dysgwch ragor am y meini prawf ar gyfer y Gronfa Gweithredu Hinsawdd ac am fanylion sut i ymgeisio

Gan Nicolas Croll