Cysylltwch â’ch gwleidydd lleol

Downpatrick Mens Club

Mae sicrhau bod eich gwleidyddion etholedig lleol yn gwybod am eich prosiect Jiwbilî Platinwm a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn ffordd wych o amlygu newyddion am eich prosiect yn lleol ac i gael rhagor o bobl yn rhan ohono.

Mae cysylltu â gwleidyddion etholedig lleol yn hawdd. Gallwch anfon llythyr neu e-bost at eich Aelod Seneddol (MP) neu Aelod o’r Senedd (MS) i’w diweddaru am y grant yr ydych wedi’i dderbyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn cysylltiad â Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines.

Gallwch ddefnyddio ein llythyr templed

Rydym wedi creu llythyr templed gyda chyfarwyddiadau a chanllawiau i’ch helpu i wneud hyn. Os nad ydych chi’n sicr pwy yw eich rhanddeiliaid gwleidyddol, gallwch ddod o hyd i hyn drwy nodi cod post eich prosiect neu ddigwyddiad cymunedol yma.

Dyma bethau allweddol i’w cofio pan fyddwch chi’n ysgrifennu:

  • Dywedwch wrthyn nhw faint o arian rydych wedi’i dderbyn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
  • Disgrifiwch yr effaith gadarnhaol y bydd eich prosiect neu ddigwyddiad cymunedol yn ei chael yn eich cymuned leol.
  • Gofynnwch a fyddai diddordeb ganddynt i ymweld â’r prosiect neu ddigwyddiad i ddysgu rhagor.

Dywedwch wrthym am eich ymweliadau

Os oes unrhyw ymweliadau’n cael eu trefnu, rhowch wybod i dîm Materion Cyhoeddus Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar public.affairs@tnlcommunityfund.org.uk