Students Organising for Sustainability: Rhoi myfyrwyr wrth wraidd ein dyfodol ynni gwyrdd

Mae’r elusen Students Organising for Sustainability (SOS-UK) wedi derbyn £1.25 miliwn gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd i helpu myfyrwyr a phobl ifanc o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i ddod yn ddylanwad pwysig dros newid.

Mae’r elusen yn gweithio gydag ysgolion a phrifysgolion i roi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ym maes defnyddio ynni, gan eu grymuso i wneud newidiadau cadarnhaol a dod yn bencampwyr amgylcheddol y genhedlaeth nesaf.

Mae SOS-UK hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â National Energy Action, elusen sy’n arwain ar dlodi tanwydd yn y Deyrnas Unedig, i uwchsgilio myfyrwyr a staff i fynd i’r afael a’u hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth eu hunain. Bydd yr ariannu yn targedu bwlch pwysig mewn cefnogaeth i fyfyrwyr sy’n mynd i addysg uwch, yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth ymysg landlordiaid am y ddeddfwriaeth gyfredol a’r datrysiadau effeithlonrwydd ynni sydd ar gael iddynt.

Students-Organising-for-Sustainability-ambassadors

Roedd prosiect blaenorol gan SOS-UK yn cynnwys archwiliad ynni cartref gan gyfoedion i dros 1,700 o fyfyrwyr. Dywedodd 94% eu bod yn gwybod mwy am ddefnyddio ynni domestig ar ôl cymryd rhan, adroddodd 91% yn eu bod wedi gwneud newidiadau i’w defnydd o ynni, gyda 88% yn teimlo’n hyderus am annog eraill i weithredu ar gynaliadwyedd.

Mae Joanna Romanowicz, Cyfarwyddwr Ymgysylltu SOS-UK yn credu y gallai meithrin ymdeimlad cryf o frys amgylcheddol ac ymddygiad cadarnhaol ymysg ein poblogaeth o fyfyrwyr brofi’n sbardun allweddol wrth lywio agweddau tymor hir at gynaliadwyedd ynni.

Meddai hi: “Mae myfyrwyr a lleoliadau addysgu yn allweddol i wella ein hymdeimlad o lythrennedd amgylcheddol a llythrennedd ynni. Ein gweledigaeth yw gweld myfyrwyr yn gadael y byd addysg gyda’r datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd, ac nid y broblem! Felly, mae cynyddu eu hymdeimlad o lythrennedd amgylcheddol a llythrennedd ynni yn hanfodol i hyn.”

“Mae ymgysylltu â myfyrwyr ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni yn ystod cyfnodau o newid mawr, fel symud i ffwrdd o’u cartrefi a byw yn annibynnol am y tro cyntaf, yn gallu cael effaith hollbwysig ar eu harferion yn y dyfodol.”

Yn ôl un o’r myfyrwyr ar y rhaglen: ‘Roedd bod yn wirfoddolwr gyda SOS-UK yn brofiad gwerthfawr dros ben. Dw i wedi ei chael yn gyfle gwerth chweil i gyfrannu i arferion cynaliadwy a chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd.

“Mae wedi caniatáu i mi ymgysylltu’n weithredol ag unigolion eraill o’r un meddylfryd, dysgu am fyw yn gynaliadwy a hyrwyddo arferion ecogyfeillgar yn y gymuned. Mae’r profiad ymarferol o weithredu rhaglenni ailgylchu, trefnu mentrau arbed ynni, a chodi ymwybyddiaeth am arferion cynaliadwy wedi bod yn addysgiadol ac yn ysbrydoledig. Dw i’n ddiolchgar am y cyfle i fod yn rhan o ymdrech mor bwysig ac i gyfrannu tuag at greu dyfodol mwy cynaliadwy.”

Ychwanegodd Joanna: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn o dderbyn arian gan y Loteri Genedlaethol ac rydyn ni’n gyffrous ynglŷn â’r newidiadau trawsnewidiol a ddaw o’r prosiect.”