Afraid pob afrad: Sut mae pantrïoedd cymunedol wedi’u hariannu gan y Loteri Genedlaethol yn lleihau gwastraff bwyd
"Mae newid yn yr hinsawdd yn argyfwng byd-eang a gallwn deimlo'n ddi-rym yn hawdd i wneud unrhyw beth yn ei gylch. Ond gallwn weithredu ar lefel leol."
Saskia McCracken, Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol Inverclyde a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
Ar draws y wlad mae grwpiau cymunedol lleol fel Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol Inverclyde yn dangos ffyrdd arloesol i ni leihau ein hôl troed carbon, ac yn benodol, helpu i leihau gwastraff bwyd yr Alban.
Yn ôl y WWF, amcangyfrifir bod 40% o'r holl fwyd sy’n cael ei dyfu yn mynd i wastraff bob blwyddyn. Pan fydd y bwyd hwn yn pydru, mae llawer iawn o nwy methan yn cael ei ryddhau, sy'n un o brif achosion newid yn yr hinsawdd.
Gyda hynny mewn golwg, buom yn siarad â'r bobl y tu ôl i ddau bantri a bwtri cymunedol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol i ddarganfod sut maen nhw’n rhoi bwyd dros ben a chynnyrch a dyfir yn lleol i ddefnydd da.
Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol Inverclyde
Mae'r pantrïoedd yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac yn gwerthu bwyd dros ben o ansawdd da am brisiau fforddiadwy.
Yn dilyn llwyddiant eu Pantri Dim Gwastraff yn Greenock, bydd Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol Inverclyde yn agor pantri arall yn Port Glasgow diolch i ddyfarniad diweddar gan y Loteri Genedlaethol o £149,456.
Bydd y pantri yn cael ei arwain gan aelodaeth, yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac yn gwerthu bwyd dros ben o ansawdd da am brisiau fforddiadwy. Gall unrhyw un yn Inverclyde ddod yn aelod a byddant yn gallu prynu tua deg eitem am £2.50 bob tro byddan nhw’n siopa – sydd fel arfer yn cyfateb i siopa gwerth £10 i £15. Mae hyn yn golygu y gall y gymuned arbed arian tra'n cefnogi cynaliadwyedd drwy brynu bwyd lleol a bwyd fyddai fel arall wedi mynd i wastraff.
Wrth fyfyrio ar lwyddiant a heriau model pantri'r grŵp, meddai Saskia McCracken, Cydgysylltydd Gwirfoddolwyr yn Ymddiriedolaeth Gymunedol Inverclyde:
"Ar hyn o bryd rydym yn bartner gyda phrosiect arall a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, Inverclyde Shed, sy'n cyflenwi ffrwythau a llysiau ffres organig sy’n cael eu tyfu’n lleol i'n pantri Greenock, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu'r bartneriaeth hon pan fyddwn yn agor pantri Port Glasgow."
"Mae ein Pantri Greenock wedi ennill dros 650 o aelodau ers agor ym mis Rhagfyr 2020 ac rydym wedi llwyddo i ddosbarthu dros 25 tunnell o gynnyrch a fyddai fel arall wedi mynd i wastraff."
Er bod mwy o siopau 'diwastraff' yn agor, maen nhw’n aml yn anfforddiadwy gan eu bod yn gwerthu bwyd Masnach Deg, organig a bwyd maes, a all fod yn ddrud. Dywed Saskia y gall hyn eu gwneud yn "anhygyrch i'r cyhoedd ehangach". Felly mae'r Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod bwyd dros ben o ansawdd da ar gael i bawb drwy weithio gydag elusennau eraill a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a all ei gyflenwi, fel Inverclyde Shed a FareShare.
Drwy agor eu hail bantri byddant yn gallu gwneud siopa bwyd cynaliadwy yn hygyrch yn y ddwy dref fwyaf yn Inverclyde.
EATS Rosyth
Nod EATS Rosyth yw gwella addysg bwyd, lleihau gwastraff, tyfu a rhannu bwyd, ac yn ei dro helpu'r amgylchedd. Drwy eu gardd gymunedol, eu hwb cymunedol a'u perllan, mae EATS yn annog pobl i gymryd rhan mewn gwneud eu cymuned yn lle gwell i fyw ynddo, ac mae'n cynnig prydau wedi'u coginio gan ddefnyddio bwyd dros ben.
Maen nhw’n darparu cyngor a hyfforddiant pontio'r cenedlaethau i bobl dyfu eu gerddi eu hunain – gan eu dysgu sut i dyfu eu bwyd eu hunain a pharatoi prydau iach. Derbyniodd y grŵp £150,000 yn ddiweddar o grant y Loteri Genedlaethol i barhau â'u gwaith gwych, a bydd yn parhau i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli i gymuned Rosyth.
Mae Ethan Daish, Rheolwr Prosiect Bwyd EATS Rosyth yn dweud mwy wrthym am y prosiect:
"Mae pobl yn aml yn syrthio i'r fagl o brynu gormod o fwyd a chael gwared ar fwyd cwbl dda heibio ei ddyddiad ar ei orau cyn a byddem yn hapus i'w ailbwrpasu...Rydym yn cynnig gweithdai garddio a choginio ac yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol ar draws y gymuned gyfan."
Yn ogystal â'u gweithdai a'u gwaith pontio'r cenedlaethau, maen nhw hefyd yn canolbwyntio ar ddarparu bwyd i'w cymuned, a ddaeth yn fwyfwy pwysig drwy'r pandemig.
"Gallwch ddod i siopa gyda ni ar sail 'talu fel rydych chi’n teimlo'. Mae'n debyg ein bod yn achub dros 10 tunnell o fwyd dros ben y flwyddyn i'w rannu gyda'r gymuned, ynghyd â'r cynnyrch o'n gardd a'n perllan."
Teimlo wedi eich ysbrydoli? Cysylltwch â ni
Rydym yn falch o gefnogi cymunedau ledled yr Alban, a'r DU gyfan, sy'n gweithredu ar yr hinsawdd. Ac os yw'r prosiectau hyn wedi sbarduno syniad i chi – neu os oes gennych syniad prosiect mewn golwg yn barod – beth am gysylltu â ni?
Os oes gan eich grŵp cymunedol lleol syniad ar gyfer prosiect a fydd yn gweithredu ar fwyd, trafnidiaeth, ynni, gwastraff a defnydd neu'r amgylchedd naturiol, efallai y gallech gael grant drwy ein rhaglen Uno dros Ein Planed.
Ac os ydych chi'n chwilio am fwy o ysbrydoliaeth...
Mae pantrïoedd cymunedol yn un ffordd o weithredu ar yr hinsawdd ar lefel leol, y tro nesaf y byddwn yn sôn am yr hyn mae rhai grwpiau'n ei wneud i newid agweddau tuag at dyfu bwyd yn lleol.