Rhwydwaith Amgylcheddol Menywod (WEN)
Yn Tower Hamlets, mae arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi Rhwydwaith Amgylcheddol Menywod a phartneriaid i gefnogi cymunedau i weithredu dros blaned iachach.
Ers 1988, mae WEN wedi bod yn gweithio i greu mudiad, sy'n cynnig dull mwy gweithredol ac arloesol o fynd i'r afael â materion amgylcheddol, rhyw ac iechyd sy'n effeithio ar y rhai sy'n byw yn Tower Hamlets ac o'i amgylch.
Mae'r elusen bellach wedi cymryd cam ymhellach i sicrhau newid mwy systemig yn yr ardal leol. Gyda mwy na £2 filiwn o arian gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae WEN wedi creu prosiect newydd sy'n torri tir newydd, 'Just Food and Climate Transition' (Just FACT). Mae'r prosiect, sy'n dod â phartneriaid lleol at ei gilydd, yn gobeithio mynd y tu hwnt i newid ymddygiad unigol, a chreu system o weithredu a yrrir gan y gymuned. Mae'r partneriaid sy'n ymwneud â Just FACT yn cynnwys WEN, Blueprint Architects, Rhaglen Ieuenctid Be.Green, Parkview & Cranbrook Climate Taskforce, Cydweithfa Fwyd St. Hilda a nifer o ganolfannau cymunedol a marchnadoedd hinsawdd.
Esboniodd Rheolwr Rhaglen FACT, Elle McAll y gwahaniaeth y mae arian y Loteri Genedlaethol wedi'i wneud: "Ers derbyn y grant gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd, rydym wedi gallu mynd o nerth i nerth yn Tower Hamlets. Rydym wedi gallu archwilio sut beth fyddai cynhyrchu bwyd cynaliadwy a theg yn y fwrdeistref, yn ogystal â chanolbwyntio'n wirioneddol ar allgymorth ac ymgysylltu cymunedol.
"Mae'r partneriaethau rydym wedi'u ffurfio oherwydd y grant wedi bod yn gaffaeliad mawr i Just FACT a WEN. Rydym wedi gallu meithrin perthynas gref ag ystadau tai a archwilio a chanolbwyntio'n wirioneddol ar yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu a'r cyfleoedd sydd ar gael o fewn Tower Hamlets.
"Mae gweithdai coginio Bengali wedi bod, mae clwb compostio lleol wedi agor ac yn fwy diweddar, mae'r bobl ifanc o Raglen Ieuenctid Be.Green wedi bod yn dysgu am y cysylltiad rhwng bwyd a newid hinsawdd. Mae rhoi llais a llwyfan i bobl ifanc fel hyn wedi rhoi cyfle iddynt greu eu hymgyrchoedd hinsawdd eu hunain i gyrraedd cenedlaethau iau."
Gan weithio'n agos gyda Gardd Fwyd Gymunedol Cranbrook, mae Just FACT yn bwriadu plannu llwyni ffrwythau a fydd yn darparu ffynhonnell o ffrwythau am ddim i drigolion mewn ystadau lleol. Mae'r grŵp hefyd wedi gweithredu system ddŵr gynaliadwy drwy gynyddu'r gallu i gynaeafu dŵr glaw yn yr ardd.
Ychwanegodd Elle: "Yn fwy diweddar, daeth WEN â mwy na 50 o bobl o'r gymuned leol at ei gilydd i ddathlu dechrau swyddogol y rhaglen Just FACT. Gwnaethom annog pawb a oedd yn bresennol i ymuno â ni drwy blannu coed i'r gymuned leol eu mwynhau.
"Mae FACT yn fwy na dim ond meddwl am ffyrdd o wneud Tower Hamlets yn gynaliadwy. Mae'n ymwneud ag annog a chreu system o newid y gallwn ei rhannu o un fwrdeistref i'r llall. Mae'n creu system nad yw'n canolbwyntio ar weithredu unigol ar newid yn yr hinsawdd yn unig, ond sy'n canmol ac yn annog gweithredu yn yr hinsawdd a arweinir gan y gymuned."
Gallwch ddarllen mwy a chael gwybod beth mae Just FACT a'i bartneriaid wedi bod yn ei wneud yma: https://www.wen.org.uk/2021/09/07/launching-climate-action-in-tower-hamlets/