Safbwynt person ifanc ar weithredu cymdeithasol
Mae'r Loteri Genedlaethol a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn buddsoddi £20 miliwn yr un dros bedair blynedd i greu'r Gronfa #iwill, ochr yn ochr â grŵp o arianwyr a mudiadau sydd oll yn cyfrannu cyllid i ymwreiddio gweithredu cymdeithasol pwrpasol ym mywydau pobl ifainc. Mae'r Gronfa #iwill yn cefnogi nodau'r ymgyrch #iwill - gwneud cymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol yn rhan o fywydau pobl ifainc trwy gydnabod y buddion ar gyfer pobl ifainc a'u cymunedau. Mae'r Gronfa #iwill yn dod â grŵp o fudiadau ynghyd y maent oll yn cyfrannu cyllid i ymwreiddio gweithredu cymdeithasol pwrpasol ym mywydau pobl ifainc. Goruchwylir y Gronfa #iwill gan Fwrdd Arweinyddiaeth sy'n cytuno ar bartneriaethau gydag arianwyr a phartneriaid.
Mae Jenny Raw wedi bod yn un o'r bobl ifainc ar y Bwrdd Arweinyddiaeth ers mis Medi 2018.
Rydym yn siarad yn aml am fanteision dwbl gweithredu cymdeithasol; gan gynnig cyfleoedd i bobl ifainc ddatblygu eu galluoedd a phersonoliaethau, ac ar yr un pryd helpu'r bobl ifainc hynny i fuddsoddi yn eu cymunedau eu hunain. Mae'r effaith sydd gan weithredu cymdeithasol ar y bobl ifainc sy'n cymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol a'u datblygiad personol yn amlwg - nid oes angen ond i edrych ar y nifer eithriadol o lysgenhadon #iwill i weld trawstoriad o'r dawn, ymroddiad a brwdfrydedd sydd gan bobl ifainc dros weithredu cymdeithasol ar draws y Deyrnas Unedig.
Weithiau, fodd bynnag, mae'r fwy heriol i feintioli'r effaith sydd gan y bobl ifainc hynny ar eu cymunedau eu hunain. Mae'r wythnos #iwill hon yn gyfle i stopio ac edrych ar yr effaith sydd weithiau'n amlwg a weithiau'n isel ei phroffil y mae pobl ifainc yn ei chael ledled y Deyrnas Unedig. Mae'n rhywbeth y gallwn i gyd fod yn falch iawn ohono.
Fy nghyflwyniad I weithredu cymdeithasol
Mae fy mhrofiadau fy hun o weithredu cymdeithasol wedi dangos i mi sut y gall adeiladu cymunedau. A minnau'n 16 oed, doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd gweithredu cymdeithasol yn ei olygu. Pan ymunais â Sefydliad Anllywodraethol, National Council of Women GB, dechreuais feddwl am faterion a effeithiodd ar fenywod ifainc a merched - materion fel FGN, tlodi misglwyf a thrais yn y cartref. I ddechrau, dyna'r cyfan yr oedd e - meddwl am faterion , meddwl a allem wneud newid. Rydym yn byw mewn byd lle byddai'r mwyafrif o bobl yn ymwybodol o'r problemau sydd gan ein cymdeithas ond mae lefel sinigiaeth gyffredinol am weithredu newid go iawn. Fel person ifanc, teimlais yn ansicr ai dyma rywbeth y gallwn ei wneud mewn gwirionedd.
Ni chymerodd amser hir i mi newid fy meddwl. Yr ennyd y sylweddolais y gallwn fod yn rhan o newid go iawn oedd y diwrnod y ces i gyfle i siarad â grŵp o ferched ysgol iau am ystrydebau rhyw. Fel myfyrwyr hŷn, rhedodd rhai ohonom wasanaeth ar gyfer merched iau. Dangosom nifer o luniau o swyddi ystrydebol "wrywaidd" iddynt gan ofyn ai swyddi i ferched neu fechgyn oedd y rhain. Fe dorrodd fy nghalon ychydig i glywed natur ystrydebol rhai o'r atebion - merched hyderus oedd y rhain a oedd wedi'u cyfyngu gan ystrydebau rhyw heb roi bai arnyn nhw. Felly, dechreuom redeg gweithdy i ddangos i'r merched bod y swyddi hyn ar gyfer menywod yn gymaint ag ar gyfer dynion. Fesul tipyn, gwelsom eu barn yn newid. Prin yr oeddwn erioed wedi gweld rhywbeth mor foddhaus; dim ond newid bach yr oeddem wedi'i wneud - ond roedd yn newid go iawn.
Teimlodd y grŵp ohonom a oedd wedi meithrin y newid gymuned, yn sydyn roedd gennym gysylltiad â'r merched yr oeddem wedi gweithio gyda nhw. Er ei fod yn anodd esbonio, pan fydd pobl ifainc yn dod ynghyd i greu newid, crëir clymau na fyddent yn bodoli fel arall. Heddiw, fel ymddiriedolwr National Council of Women, mae gennyf y pleser o weithio gyda chymheiriaid o bob oedran a phob cwr o'r wlad. Mae amrywiaeth y bobl yr wyf wedi cwrdd â nhw trwy weithredu cymdeithasol yn syfrdanol. Cyn gwirfoddoli, efallai y byddai diffyg rhywbeth i greu cysylltiad drosto.
Ymuno â'r bwrdd #iwill
Rwy'n hynod ddiolchgar am y cyfle i ymuno â Bwrdd #iwill. Ers y diwrnod cyntaf, mae sut mae fy marn fel person ifanc wedi'i hystyried wedi gwneud argraff arnaf. Heb deimlo fel ffigur “tocynistaidd”, mae'n amlwg bod yr ymddiriedolwyr ifainc, aelodau bwrdd a minnau'n cael eu gwerthfawrogi; rydym i gyd wedi cymryd rhan yn y math o weithredu cymdeithasol pwrpasol ac wedi'i ymwreiddio yr ydym yn ceisio ei greu yn y Deyrnas Unedig ac felly mae gennym farn am yr hyn a ariennir yn y dyfodol. Yn ogystal â galluogi hyn i synhwyro'r hyn sydd wedi'i arwain yn ddilys gan ieuenctid, mae'n galluogi ni i gwrdd â rhai o'r bobl a mudiadau gwirioneddol ysbrydoliaethus y mae'r Gronfa #iwill wedi'u hariannu yn y gorffennol ac y gallai ei wneud yn y dyfodol.
Rwy'n teimlo'n lwcus iawn i weld y nifer o gymunedau cryfion y mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a'r Gronfa #iwill yn helpu eu creu.
Gweithredu cymdeithasol yn dod â phobl ynghyd
Nid yw adeiladu cymunedau'n digwydd dros nos. Mae'n cymryd amser. Weithiau mae'n anodd gweld o'r tu allan, weithiau gallwn weld cymuned dim ond mewn argyfwng. Fy mhrofiad yw bod cymuned yn ymwneud â sgwrs; gwên a rennir, ymdeimlad o gyd-gefnogaeth, wedi'u meithrin mor aml ar egwyddor trugaredd. Mae cymunedau'n dod ynghyd i greu'r newid y maent eisiau ei weld a chrëir y diwylliant hwn ar sail cymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol.
Mewn gwlad sy'n teimlo'n gynyddol ranedig, lle rydym wedi ein gwahanu ar faterion partisan niferus, yng nghanol argyfwng unigedd, gyda llawer ohonom â diffyg rhyngweithio dynol go iawn ar sail bob dydd - mae gweithredu cymdeithasol yn ffordd o ddod â phobl ynghyd. Oedran, cefndir cymdeithasol, rhyw - mae'r pethau hyn i'w gweld yn amherthnasol pan fydd pawb yn cymryd rhan i newid rhywbeth dros rywun arall. Mae canolbwyntio ar broblem rhywun arall, neu her sydd gan gymuned, yn eich helpu gwella'ch lles eich hun a chreu clymau sy'n ffurfio sail cymdeithas sifil.