Cydweithrediad ag arianwyr eraill yng Nghymru sydd wedi bod yn hanfodol i sicrhau cefnogaeth i gymunedau
Mae John Rose, ein Cyfarwyddwr Cymru yn myfyrio ar ymateb arianwyr i heriau uniongyrchol COVID-19 a'r goblygiadau tymor hwy i gymdeithas sifil yng Nghymru.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi symud yn gyflym ac yn bendant yn ystod Pandemig COVID-19 yng Nghymru trwy gefnogi ein deiliaid grantiau a chadw arian i lifo i gymunedau ledled Cymru.
Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol a Pawb a'i Le yn helpu'r cymunedau a'r sefydliadau yr effeithiwyd arnynt fwyaf i ymateb i'r heriau a achosir gan COVID-19. Y mis diwethaf, gwnaethom ddyfarnu ychydig dros £5 miliwn i 164 o elusennau a phrosiectau cymunedol llai dan arweiniad gwirfoddol ledled Cymru, y mae llawer ohonynt yn helpu pobl i gefnogi ei gilydd, ac wrth wneud hynny yn dod â gobaith ar gyfer y dyfodol.
Fodd bynnag, y cydweithrediad ag arianwyr eraill yng Nghymru sydd wedi bod yn llinyn hanfodol i'n hymagwedd ac wedi helpu i sicrhau'r swm o arian mwyaf posibl gan y Loteri Genedlaethol ar draws cymunedau yng Nghymru.
Arweinyddiaeth ar y cyd mewn cyfnod o argyfwng
Er bod angen y gefnogaeth a gynigiwn ar lawer o sefydliadau a chymunedau, dim ond hyd yn hyn y mae ein harian yn cyrraedd. Dyma pam roeddem yn gyflym iawn i estyn allan at gydweithwyr mewn sefydliadau ariannu eraill i sicrhau bod ein hymatebion unigol yn gydlynol ac yn effeithiol. Trwy weithio gyda'n gilydd a dangos arweinyddiaeth ar y cyd rydym wedi gallu cryfhau ein hymatebion i effaith COVID-19 ar Gymdeithas Sifil a chymunedau yng Nghymru.
Trwy weithio drwy Fforwm ‘Arianwyr Cymru’, a gydlynir gennym ni a thrwy weithio’n agos gyda chydweithwyr yn CGGC, Sefydliad Cymunedol Cymru, Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu:
- cyfeirio sefydliadau at yr arianwyr gorau i ddiwallu eu hanghenion;
- rhannu gwybodaeth am y dyfarniadau i helpu i gynyddu effaith ein harian ar y cyd i'r eithaf
- rhannu mewnwelediad hanfodol i'r anghenion sy'n dod i'r amlwg yr ydym yn eu gweld fel y gallwn gyda'n gilydd feddwl am y ffordd orau i ymateb.
Mae'n lefel o gydweithredu a chydweithio sydd wedi gweld dros £10 miliwn wedi'i ddosbarthu i gymunedau ledled Cymru. Mae wedi bod yn ysbrydoledig, ac wedi ei groesawu gan Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC); “Mae gweithio gydag eraill fel rhan o Fforwm Arianwyr Cymru wedi ein helpu i sicrhau bod arian hanfodol yn cyrraedd cymaint o sefydliadau â phosibl ar yr amser hynod o heriol hyn.”
Wrth inni symud allan o'r argyfwng ac i'r cyfnod adfer, bydd cynnal y cydweithredu hwn yn parhau i fod yn hanfodol. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn ddechrau gobeithio darparu'r adnoddau i Gymdeithas Sifil yng Nghymru i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol y byddant yn eu hwynebu yn y dyfodol.
Yr heriau i gymdeithas sifil yng Nghymru
Mae Pandemig COVID-19 wedi rhoi pwysau digynsail ar sefydliadau i gynnig cefnogaeth ychwanegol i ddinasyddion bregus ar adeg pan maen nhw eu hunain yn mynd i’r afael â’r bygythiad dirfodol y mae’n ei beri iddynt. Yn wyneb colled sydyn a dramatig o refeniw o ganlyniad i’r cyfyngiadau, bydd goblygiadau hirdymor sylweddol i sefydliadau o bob maint, hyd yn oed y rhai sydd â ffynonellau incwm sylweddol ac amrywiol. Amcangyfrifir bod colled i’r sector wirfoddol a chymunedol yng Nghymru’n unig rhwng £200 miliwn a £230 miliwn (Papur Briffio CGGC i Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, Ebrill 29 2020).
Mae'n anodd tynnu sylw at ganlyniad tymor hwy cadarnhaol sy'n gysylltiedig â gwytnwch ariannol. Efallai’n wir fod y VCS yn llai, ac er bod lleisiau a fydd yn dadlau y gallai VCS main gyda llai o gystadleuaeth am arian fod yn fwy cynaliadwy yn y tymor hwy, byddai eu colled yn gadael ein cymunedau i gyd yn dlotach am eu habsenoldeb.
Ond nid gwallgofrwydd a gwawd mohono i gyd. Mae er clod i’r VCS ei fod wedi addasu’n gyflym i gynnal gwasanaethau cyfredol ac ymateb i uniongyrchedd Pandemig COVID-19 er gwaethaf y problemau y mae’n eu hwynebu. Mae llawer o sefydliadau wedi troi at dechnoleg ddigidol am y tro cyntaf i ddarparu gwasanaethau, tra bod eraill yn ceisio ateb y galw trwy gydweithio â'i gilydd pan fyddent fel arfer yn cystadlu am arian. Er nad ydynt yn tanamcangyfrif anferthwch y pwysau sy'n eu hwynebu, mae gwersi i'w defnyddio a fydd yn cryfhau sefydliadau yn y dyfodol. Fel arianwyr, mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithio gyda'n gilydd i gynorthwyo sefydliadau i sicrhau'r canlyniadau cadarnhaol mwyaf posibl wrth ddarparu rhywfaint o adnoddau iddynt i liniaru'r rhai negyddol. Rhaid inni, wrando, dysgu ac ymateb yn effeithiol i'r her tymor hwy.
Dysg a mewnwelediad ynghylch COVID-19
Ledled y DU rydym wedi dwyn ynghyd dysg gan ddeiliaid grantiau. Mae llawer ohono ar y tudalennau Mewnwelediadau o’n gwefan ac mae’n cyfleu dysgu o’r cyfnod ar ôl y cyfyngiadau. Mae ein Podlediad Trydydd Sector Mewn Golwg diweddar, a allwch wrando arno yma, yn tynnu ar ymateb COVID-19 o Invest Local, rhaglen 10 mlynedd sy'n adeiladu ar gryfderau unigolion, grwpiau a sefydliadau ar draws 13 cymuned i greu newid cadarnhaol a pharhaol, pob un wedi'i ariannu gan y Loteri Genedlaethol.
Mae'r mewnwelediad yr ydym yn ei gasglu mor arwyddocaol ac mor bellgyrhaeddol i ni ag ydyw i'r Gymdeithas Sifil. Mae COVID-19 wedi gwneud helpu cymunedau i ffynnu yn llawer anoddach. Mae'r Pandemig wedi dwysáu'r heriau presennol yn ogystal â chreu rhai newydd, a bydd yn siapio ymateb arianwyr am gryn amser i ddod.
Ewch yma am fanylion am arian ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys i gefnogi grwpiau ymateb i COVID-19.
********
Rydyn ni'n dwyn ynghyd yr hyn rydyn ni'n ei ddysgu gan ein deiliaid grant am eu hymateb i'r pandemig coronafeirws. Ewch i'n tudalen Mewnwelediadau COVID-19 i gael y wybodaeth ddiweddaraf.