Gweithrediad Cymunedol dros yr Amgylchedd – sut y gall elusennau a sefydliadau cymunedol helpu i adeiladu symudiad gwyrdd cynaliadwy
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod yn cefnogi prosiectau amgylcheddol yn y gymuned ers blynyddoedd, ac rydym wedi bod yn ymwybodol ers tro byd o'r rôl bwysig y mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn ei chwarae wrth wneud newid ar lefel leol.
Yn y digwyddiad lansio ar gyfer ein hadroddiad newydd, Gweithrediad Cymunedol dros yr Amgylchedd: Digon bach i ofalu, digon mawr i wneud gwahaniaeth, clywsom gan gydweithwyr yn y Gronfa a deiliaid grant am eu profiadau a'u cynghorion ar gyfer gweithrediad cymunedol yn yr hinsawdd.
Dyma rai o'm pwyntiau allweddol o'r digwyddiad:
Pwysigrwydd cyd-fanteision
Soniodd ein siaradwyr am lwyddiant prosiectau sy'n gwrando'n gyntaf ar y pryderon sydd gan bobl yn eu cymunedau, cyn cynnig atebion a fyddai'n ecogyfeillgar. Nid oes gan bawb ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn mentrau amgylcheddol, ond pan fyddant yn deall y manteision – er enghraifft manteision economaidd gwneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni – maent yn fwy tebygol o benderfynu cymryd rhan. Dywedodd ein Rheolwr Gwybodaeth a Dysgu Zoe Anderson wrthym am Transition Streets yn Dorset, a sefydlwyd i rannu cyngor ar drafnidiaeth, ynni, bwyd a dŵr. Roeddent yn cyflwyno eu grŵp cymunedol yn bennaf fel cyfle i bobl ddod i adnabod eu cymdogion. Roedd aelodau o'r gymuned yn cael eu hysgogi i gymryd rhan o awydd i gysylltu ag eraill, ac roedd y cydberthnasau hyn yn helpu i gynnal eu hymrwymiad i ymddygiadau ecogyfeillgar.
Arianwyr yn rhoi cyfle i sefydliadau roi cynnig ar bethau newydd
Siaradodd Jemma Nurse, un o'n Rheolwyr Ariannu, am ein menter beilot ar gyfer ychwanegiadau hinsawdd yng Nghymru. Nod y prosiect hwn oedd rhoi cyfle i ddeiliaid grantiau presennol na fyddent fel arfer yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol ddod o hyd i'w ffyrdd eu hunain o ymateb i newid hinsawdd. Roedd gan lawer o'r grwpiau y gweithiodd tîm Jemma gyda nhw syniadau am sut i wneud eu gweithgareddau'n fwy ecogyfeillgar, ond nid oeddent wedi cael amser i'w symud ymlaen o'r blaen. Roedd y cyfuniad o grant a chyngor gan bartneriaid y Gronfa yn caniatáu iddynt ganolbwyntio ar y syniadau hyn, fel y gallent wneud gwahaniaeth yn eu sefydliadau eu hunain. Roedd y prosiectau'n cynnwys uwchraddio i inswleiddio adeiladau'n fwy effeithlon, gosod bwyleri newydd yn ogystal â thyfu perllannau a gerddi. Yn dilyn llwyddiant y rhaglen beilot, byddwn yn cyhoeddi grantiau newydd cyn bo hir ar gyfer 34 o sefydliadau cymunedol eraill yng Nghymru, gan eu cefnogi i leihau eu heffaith amgylcheddol.
Dechrau’n fach a thyfu’n fwy
Myfyriodd ein siaradwyr ar sut yr oedd prosiectau llwyddiannus wedi tyfu o fentrau bach i gwmpas ehangach. Dywedodd Gwydion ap Gwynn o'r Dref Werdd, prosiect a ariannwyd gennym yng Ngogledd Cymru, wrthym sut yr oedd y prosiect wedi tyfu o ddarparu cyngor ar arbed arian ac ynni i amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar les a'r amgylchedd gan gynnwys glanhau afonydd, lleihau gwastraff bwyd a gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol. Disgrifiodd Gwydion sut yr oedd trafodaethau mewn ysgolion yn ffordd hanfodol o gael aelodau o'r gymuned i ymuno â'r prosiectau.
Adeiladu symudiad gweithredu hinsawdd cynhwysol
Rhannodd Lizzie Testani fewnwelediad o waith Partneriaeth Cyfalaf Gwyrdd Bryste. Adlewyrchodd Lizzie nad oedd mentrau amgylcheddol blaenorol yn y ddinas wedi bod mor gynhwysol ag y gallent fod wedi bod, ond bod yn rhaid i bawb gymryd rhan i wneud newid gwirioneddol. Nod y prosiect Llysgenhadon Du a Gwyrdd oedd rhoi profiad proffesiynol i lysgenhadon o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Bryste i arwain gweithrediad cymunedol ar anghydraddoldebau amgylcheddol a hiliol. Adlewyrchodd Lizzie y gallai negeseuon amgylcheddol nad oeddent wedi'u datblygu gyda gwahanol gymunedau mewn golwg ymddangos yn amherthnasol neu heb eu cynnwys. Gall prosiectau amgylcheddol a gynhyrchir gyda chymunedau amrywiol a chan gymunedau amrywiol ac felly sy'n ymddangos yn berthnasol i'w bywydau alluogi adeiladu symudiad cynaliadwyedd mwy cynhwysol. Bydd cam nesaf y prosiect Llysgenhadon Du a Gwyrdd, a ariennir gennym ni, yn ein helpu i weld sut y gallai symudiad amgylcheddol mwy cynhwysol edrych.
"Dylai prosiectau amgylcheddol cymunedol fod yn ddigon bach i fod yn bersonol, ond yn ddigon mawr i wneud gwahaniaeth go iawn."
- Zoe Anderson, Rheolwr Gwybodaeth a Dysgu, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Mae'r adroddiad llawn, sy'n cynnwys ffyrdd y gall gweithrediad cymunedol helpu'r amgylchedd ac enghreifftiau gan ein deiliaid grantiau, ar gael yma: Gweithrediad Cymunedol dros yr Amgylchedd: Digon bach i ofalu, digon mawr i wneud gwahaniaeth.
Mae mwy o wybodaeth am ein digwyddiadau sydd ar y gweill yma.