Ein helpu i ddangos tystiolaeth o effaith ein grantiau
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, credwn ei bod yn bwysig ein bod yn dysgu o'n grantiau fel y gallwn wella'r ffordd rydym yn cefnogi sefydliadau a chymunedau yn y dyfodol.
I wneud hyn, rydym yn aml yn comisiynu asiantaethau ymchwil annibynnol allanol i gynnal ymchwil a gwerthusiad. Yn ddiweddar, rydym wedi comisiynu IFF Research, yr asiantaeth ymchwil annibynnol, i wneud gwaith ymchwil gyda rhai o'n deiliaid grantiau i'n helpu i ddeall ein heffaith yn well a'n cefnogi i ddysgu o'n grantiau.
Ar gyfer yr ymchwil hwn byddwn yn cysylltu â deiliaid grantiau gyda grantiau a ddaeth i ben rhwng Ionawr 2019 a Mehefin 2020. Byddwn ond yn cysylltu â sampl o ddeiliaid grant felly os na fyddwch yn derbyn e-bost am hyn, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os byddwch yn derbyn e-bost, byddem yn ddiolchgar am eich cefnogaeth gyda'r ymchwil hon, gweler isod am ragor o wybodaeth.
Efallai y bydd IFF Research yn anfon arolwg atoch
O 4 Mai 2021, bydd IFF Research yn e-bostio'r deiliaid grant hynny yr hoffem gymryd rhan yn yr ymchwil hwn gyda dolen i gwblhau arolwg. Dylai'r arolwg gymryd tua 10 munud i'w gwblhau.
Ni fydd y gwahoddiad e-bost i'r arolwg yn cael ei anfon o gyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd yn dod o'r cyfeiriad TNLCFsurvey@iffresearch-dm.com a bydd yn esbonio'r wybodaeth sydd ei hangen.
Mae hwn yn ddarn dilys o ymchwil ac rydym yn rhannu'r wybodaeth hon i dawelu meddyliau'r rhai sy'n derbyn y gwahoddiad e-bost i gyflawni'r arolwg hwn a gomisiynwyd gan IFF Research. Rydym hefyd yn annog pobl i gwblhau'r arolwg a chymryd rhan lle bo hynny'n bosibl. Bydd IFF Research yn mynd ar drywydd y rhai nad ydynt yn ymateb drwy e-bost neu dros y ffôn.
Os oes gennych fwy nag un grant gyda ni, bydd yr e-bost gan IFF Research yn egluro pa grant y mae'r arolwg yn ymwneud ag ef.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, e-bostiwch: TNLCFsurvey@iffresearch.com
Efallai y bydd angen i chi ddwyn ynghyd rywfaint o wybodaeth i ateb yr arolwg
Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau ar y pynciau a restrir isod. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych yr holl wybodaeth hon, neu os nad yw rhywfaint o'r wybodaeth hon yn berthnasol. Gallwch gwblhau'r arolwg o hyd. Mae'r wybodaeth y gofynnir yn cynnwys:
- math o weithgaredd neu gymorth y gwnaethoch ddefnyddio'ch grant ar ei gyfer
- mathau o bobl y mae'r grant wedi helpu i'w cefnogi
- nifer y bobl a elwodd o'r prosiect neu a gymerodd ran mewn gweithgaredd yr oedd eich sefydliad yn ei redeg gan ddefnyddio'r grant ('buddiolwyr')
- y gwahaniaeth a wnaeth yr arian i'ch buddiolwyr a'ch cymuned
- os yw'n berthnasol, nifer y gwirfoddolwyr dan sylw a faint oedd yn newydd i wirfoddoli
- os yw'n berthnasol, nifer y staff a gafodd eu recriwtio neu eu cadw oherwydd y grant
Ac yn olaf…
Diolch am bopeth a wnewch i gefnogi eich cymuned.