Plant hapus, rhieni hapus: byd hudol Gympanzees
“Mae ychydig iawn o leoedd yn y byd sydd wedi'u dylunio ar gyfer pobl awtistig neu bobl anabl,” meddai Jade, “ond diolch byth mae Gympanzees yn wahanol.”
Mae gan Jade, sydd o Fryste, ddau fab — Joe, 6 oed, sydd ag awtistiaeth ac sy'n ddi-eiriau, a James, 4 oed, sydd ag awtistiaeth hefyd. Roedd ymaddasu i'r cyfnod clo'n anodd ar gyfer Joe a James, gyda newidiadau llym i'w trefnau bob dydd yn rhoi straen ar y teulu.
“Mae'r cyfnod clo wedi bod yn anodd i ni, yn enwedig i Joe, sy'n profi anhawster difrifol gyda newid,” meddai Jade. “Am gyfnod, ni allem gerdded yn y parc gan na allai Joe a James ddeall pam roedd y siglenni ar gau.
“Doedden nhw ddim yn gallu mynd i chwarae meddal neu i'r ysgol ychwaith... roedd yn anodd.”
Bywyd o dan y cyfyngiadau
O dan amgylchiadau arferol, mae'r teulu'n mynychu sesiynau chwarae rheolaidd yn Gympanzees, sy'n gweithio i sicrhau bod gan blant ag anableddau fynediad i ymarfer corff, chwarae a chyfeillgarwch cynhwysol mewn amgylchedd o fatiau meddal, padin a theganau.
Fodd bynnag, oherwydd y gofynion cadw pellter cymdeithasol, roedd angen i Gympanzees ailystyried sut i gefnogi teuluoedd fel un Jade yn ystod y cyfnod clo COVID-19.
Dyfarnwyd £10,000 i'r fenter gymdeithasol trwy raglen Arian i Bawb Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i sefydlu Our Home. Trwy'r prosiect, gall plant sydd ag anableddau a'u teuluoedd gael mynediad i becyn o fideos ymarfer corff a chwarae, cefnogaeth un i un o bell gyda therapydd cymwysedig, a llyfrgell fenthyg o gyfarpar chwarae arbenigol.
Hefyd, gall teuluoedd neilltuo - heb unrhyw gost iddynt - cyfarpar chwarae ac ymarfer corff arbenigol, fel blychau synhwyraidd a chyfarpar chwarae meddal, y mae Gympanzees yn ei gludo gan ddefnyddio cyngor cadw pellter cymdeithasol a hylendid y Llywodraeth.
Magu plant a chwarae
“Mae'r llyfrgell fenthyg yn anhygoel,” meddai Jade. “Rydym wedi cael rhywfaint o gyfarpar chwarae meddal ers pythefnos ac mae'r plant yn dwlu arno. Yn fuan byddwn ni'n cael hamog."
Mae eitemau fel siglenni a hamogau'n bwysig ar gyfer adborth synhwyraidd y plant ac yn helpu nhw i gadw'n llonydd.
Mae gan Gympanzees adran ar eu gwefan hefyd, sy'n rhoi syniadau ar gyfer gweithgareddau.
“Maen nhw'n cynnal gweithdai Zoom ar-lein ar gyfer rhieni, sydd wedi bod yn llawn gwybodaeth hefyd," meddai Jade. “Mae wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt i fedru siarad â gweithiwr proffesiynol a dweud 'mae fy mhlentyn yn gwneud hyn' ac maen nhw'n dod yn ôl gyda chyngor defnyddiol. Fel rhiant i blant sydd ag awtistiaeth, mae cymaint i'w ddysgu - mae'n gallu mynd yn drech na chi.”
Arian y Loteri Genedlaethol
Meddai Stephanie Wheen, Prif Weithredwr a Sefydlydd Gympanzees: “Creodd COVID-19 don o anawsterau a heriau ar gyfer y plant a'r teuluoedd rydym yn eu cefnogi. Ond diolch i arian gan y Loteri Genedlaethol, gallwn ddod ag ychydig o fyd hudol Gympanzees i mewn i gartrefi ein plant a'n teuluoedd.
Mae'r prosiect yn cefnogi teuluoedd trwy hyb adnoddau ar-lein gyda gweithgareddau a fideos, sesiynau therapi arbenigol ar-lein a llyfrgell benthyg cyfarpar.
“Mae'r defnydd ohoni wedi bod yn eithriadol,” meddai Stephanie. “Neilltuwyd popeth yn y llyfrgell fenthyg o fewn 48 awr - yn awr mae rhestr aros 24 wythnos am rai eitemau - roedd y sesiynau therapi ar-lein yn boblogaidd iawn gyda'r rhai'n rhedeg ar eu capasiti llawn ac mae cynnwys ein hyb adnoddau ar-lein wedi cael ei wylio dros 50,000 o weithiau. Mae ein gwasanaethau'n cael eu hargymell i deuluoedd gan weithwyr iechyd proffesiynol eraill hefyd.
“Hoffem ddweud diolch yn fawr enfawr i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sydd wedi ei wneud yn bosib i ni barhau â'n gwaith yn ystod y cyfnod anodd yma.”
Y teulu sy'n bwysig
“Fel teulu, rydym wedi caffael dealltwriaeth well o anghenion synhwyraidd Joe a James a sut i ddiwallu'r anghenion hynny," meddai Jade. “Fel rhieni rydym yn cael gweld ein plant yn rhyngweithio â'r cyfarpar ac os byddant yn mynnu mynd yn ôl i un peth, rydym yn gwybod mai dyna rhywbeth y byddwn efallai eisiau buddsoddi ynddo.”
Ei chyngor hi i rieni eraill sy'n magu plant awtistig yn ystod y cyfnod clo?
“Byddwn i'n dweud yn bendant i unrhyw deulu ym Mryste i fynd i Gympanzees. Ewch â'ch plant a phrofwch ef eich hun. Maent yn dod adref wedi blino'n lân ac yn mynd i'r gwely yn hapus, a dyna'r hyn rydych ei eisiau. Plant hapus, rhieni hapus.”
----
Dysgwch fwy am Gympanzees yn www.gympanzees.org