“Rhoi gobaith yn ôl i bobl sydd hebddo” – Gwaith trawsnewidiol West Midlands Anti Slavery Network
Gyda’r nod o leihau caethwasiaeth fodern a rhoi cefnogaeth uniongyrchol a llety i’w ddioddefwyr, mae Hannah Periton yn ymfalchïo yn y gwaith y mae hi a phawb yn West Midlands Anti Slavery Network yn ei wneud.
Mae’r elusen, a leolir yn Birmingham, yn cynnig lle diogel pan fydd goroeswyr caethwasiaeth fodern yn cael eu hachub. Mae’n helpu bodloni anghenion y rhai hynny sy’n cyrraedd eu tŷ diogel – yr unig un o’i fath yn y DU ar gyfer gwrywod yn unig – gyda rôl Hannah fel arbenigwr iechyd a lles yn hollbwysig wrth gefnogi lles corfforol a meddyliol goroeswyr. Mae hyn i gyd yn cyfrannu at gynnig gobaith iddyn nhw a llwybrau allan o gaethwasiaeth.
Dywed Hannah: “Mae caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn dermau yr ydym oll yn gyfarwydd â nhw, ond nid yw llawer o bobl yn gwybod sut mae’r math hwn o gam-fanteisio yn gweithredu heddiw, heb sôn am y ffordd y mae’n effeithio ar y DU. Caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yw cam-fanteisio ar bobl yn anghyfreithlon er budd personol neu ariannol. Mae’r cam-fanteisio hwn yn digwydd ym mhob gwlad, dinas a rhanbarth yn y byd, ac yn effeithio ar filoedd o ddynion, menywod a phlant yn ein gwlad ein hunain. Mae cam-fanteisio’n aml yn gweithredu mewn llefydd amlwg a chyfarwydd, fel salonau ewinedd a golchfeydd ceir.”
Rhoi gobaith yn ôl
Dechreuodd Hannah ei rôl yn 2022, ac mae hi wedi gweld gwaith y sefydliad a pha mor bwysig y mae ei wasanaethau oherwydd y diffyg cymorth i ddynion ledled y wlad. Gyda’i diwrnodau’n amrywio’n fawr ac wedi’u hysbysu gan y goroeswyr sy’n dod trwy’r drws, mae hi a’i chydweithwyr yn gweithio tuag at dynnu’r rhwystrau y maen nhw i gyd yn eu hwynebu.
Dywed Hannah: “Dwi wir yn credu bod gen i un o’r swyddi gorau. Mae bob dydd yn wahanol oherwydd mae fy rôl yn addasu at anghenion pob goroeswr. Gall hyn gynnwys amrywiaeth o bethau, fel trefnu apwyntiadau meddygol, treulio amser gyda’r goroeswyr, caffael rhoddion a rhoi eitemau hanfodol i’r holl oroeswyr megis dillad a phethau ymolchi.
“Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn garddio gyda goroeswr sy’n mwynhau dihangfa gweithgareddau corfforol a’r awyr agored. Roedd cymorth y tŷ diogel yn hynod werthfawr, a dywedodd wrthym fod ei arhosiad yn y tŷ wedi rhoi ymdeimlad newydd o obaith iddo ar gyfer ei fywyd ac wedi trawsnewid ei iechyd meddwl. Mae eirioli dros iechyd meddwl dynion yn rhywbeth rydym i gyd yn angerddol drosto, oherwydd mae dynion yn aml yn gallu wynebu gwahanol rwystrau i dderbyn eu problemau a’u cyfathrebu.”
Yn ddibynnol ar gyllid
Mae West Midlands Anti Slavery Network wedi derbyn dros £500,000 o gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
“Mae’r gefnogaeth hon, gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ategu’r ffordd y mae’r tŷ diogel yn cael ei gynnal. Mae’r arian yn cyfrannu at gynnal y tŷ gan gynnwys biliau cyfleustodau, dodrefn a dillad gwely.
“Mae’n bwysig iawn i ni fod y tŷ diogel yn teimlo fel cartref, er mwyn i’r goroeswyr orffwys ac adfer mewn amgylchedd cyfforddus a diogel. Mae’r arian hefyd yn mynd tuag at sicrhau bod cyflenwad cyson o fwyd yn y tŷ ar gyfer yr holl oroeswyr, yn ogystal â digon o ddillad y mae nifer yn dibynnu arnynt” dywed Hannah.
Codi ymwybyddiaeth
Er bod gwaith y prosiect yn buddio goroeswyr yn uniongyrchol, maen nhw hefyd yn angerddol dros gryfhau llais y bobl maen nhw’n eu helpu i geisio codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl.
Dywed Hannah: “Mae’n bwysicach nawr nag erioed i fod yn wybodus a chodi ymwybyddiaeth am gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl. I ddirwyn caethwasiaeth fodern i ben, mae angen i ni sicrhau bod mwy o bobl yn gallu adnabod arwyddion y cam-fanteisio hwn, sy’n effeithio ar filiynau o bobl ar draws y byd.
Gwneud y gwahaniaeth
“Dwi wedi rhyfeddu ar yr effaith rydym ni’n ei chael ar fywydau goroeswyr; mae hyn i gyd diolch i ymroddiad a charedigrwydd holl aelodau ein tîm a’n sefydliadau partner.”
Diolch i angerdd Hannah a chefnogaeth ddiddiwedd tîm West Midlands Anti Slavery Network, mae pob goroeswr yn cael y cyfle a’r gobaith i ail-adeiladu eu bywyd.