Ariannwr cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig yn newid ei enw
I'w ryddhau ar unwaith: Dydd Gwener 28 Medi, 2018
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn newid ei henw yn y Flwyddyn Newydd. O 29 Ionawr enw ariannwr cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig, sy'n dosbarthu 40% o'r arian ar gyfer achosion da a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, fydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae'r Gronfa wedi bod yn gweithio i roi pobl a chymunedau wrth wraidd ei gweithgareddau gwneud grantiau ers cyflwyno ei Fframwaith Strategol Pobl yn Arwain yn 2015. Y llynedd yn unig dosbarthodd y Gronfa Loteri Fawr dros hanner biliwn o bunnoedd (£508.5 biliwn) gan y Loteri Genedlaethol i brosiectau cymunedol ar draws y Deyrnas Unedig. Elwodd dros 11,000 o brosiectau o hyn, gan alluogi pobl a chymunedau i wireddu eu syniadau.
Mae newid yr enw i Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ei wneid yn gliriach beth yw'r mudiad a beth mae'n ei wneud, a bydd yn cefnogi iechyd hir dymor y Loteri Genedlaethol. Bydd alinio enw'r Gronfa'n helpu chwaraewyr i ddeall y gwahaniaeth y maent yn ei wneud trwy brynu tocyn, gan gadarnhau'r dyhead i ddychwelyd mwy o arian i achosion da.
Meddai Dawn Austwick, Prif Weithredwr y Gronfa Loteri Fawr: “Ni waeth p'un ai £500 neu £500,000 ydyw, mae grwpiau ac elusennau'n defnyddio ein grantiau i ddod â phobl ynghyd, gwneud i bethau gwych ddigwydd a helpu eu cymunedau i ffynnu. Rydym eisiau sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn deall pwy ydym, beth rydym yn ei wneud, a sut y gallai grantiau'r Loteri Genedlaethol eu helpu gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.
“Dyna pam rydym yn edrych ymlaen at ddechrau 2019 – pan fyddwn hefyd yn dathlu Pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25 Oed – fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.”
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig