Y Gronfa Loteri Fawr yn gwneud penodiadau uwch i rolau newydd
Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi cyhoeddi pedwar penodiad newydd heddiw. Mae'r rhain yn cynnwys tair rôl newydd i ymuno a thimau dylunio gwasanaeth a digidol y Gronfa a Phennaeth Cyfreithiol newydd - Eleanor Boddington – sydd wedi ymuno â'r Gronfa gan y Gronfa Buddsoddi Plant.
Cassie Robinson fydd Pennaeth Gwneud Grantiau Digidol newydd y Gronfa. Bydd hi'n bennaeth ar Gronfa Ddigidol £15 miliwn newydd i gefnogi'r sector elusennol a gwirfoddol. Bydd lansio'r Gronfa hon yn hollbwysig o ran helpu'r Gronfa i gyflawni ei nod strategol o helpu adeiladu galluoedd digidol mewn elusennau a mudiadau cymunedol.
Bydd y Gronfa Ddigidol yn rhan o Bortffolio Deyrnas Unedig presennol y Gronfa. Daw Cassie o Doteveryone - melin drafod sy'n eirioli dros dechnoleg gyfrifol er budd pawb mewn cymdeithas - lle yr arweiniodd edefyn Cymdeithas Ddigidol eu gwaith, gan ymchwilio i sut mae technoleg yn newid cymdeithas a dangos sut y gall technoleg sy'n ystyried ei heffaith ddigidol edrych.
Mae Stuart Hollands ac Angela Murray yn ymuno â'r Gronfa Loteri Fawr fel rhan o'r tîm dylunio a ffurfiwyd o'r newydd. Nhw fydd yn gyfrifol am helpu'r Gronfa Loteri Fawr i weithredu dull dylunio gwasanaeth o ddatblygu rhaglenni ariannu a chydweithio â mudiadau elusennol a chymunedol.
Mae dylunio gwasanaeth yn anelu at gynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn ei ddyluniad o'r cychwyn cyntaf. Dyma gam pwysig mewn grymuso cymunedau, gan sicrhau bod profiad byw yn chwarae rôl gynyddol mewn dylunio gwasanaethau, ac wrth wireddu strategaeth Pobl yn Arwain y Gronfa. Daw Stuart Hollands o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder lle bu'n gweithio ar draws asiantaethau a rolau amrywiol dros 17 mlynedd. Am y pedair blynedd ddiwethaf, roedd Stuart yn rheoli timau, cyflwyno gwasanaethau'n unol â safonau Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth, ac mae'n dod â chyfoeth o brofiad dylunio gwasanaeth ag ef. Bydd Stuart yn gyfrifol am reoli cyflwyniad system rheoli grantiau newydd y Gronfa.
Daw Angela Murray o Laureus Sport for Good lle bu'n Bennaeth Rhaglenni. Roedd Angela yn gyfrifol am ddylunio a gweithredu rhaglenni lluosog yn ogystal â chyflwyno system rheoli grantiau newydd yn y mudiad. Mae ganddi brofiad blaenorol gyda Comic Relief, The Toybox Charity a The Consortium for Street Children a bydd hi'n dod â'i phrofiad at ddylunio a gweithredu cynnyrch ariannu craidd ar draws y Gronfa.
Daw Eleanor Boddington gyda thros 20 mlynedd o brofiad yn y sector elusennau. Yn fwyaf diweddar bu'n gweithio yn Sefydliad y Gronfa Buddsoddi Plant, lle gweithiodd fel Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cwmni, yn dilyn 16 mlynedd fel Uwch Gwnsler Cyfreithiol yn Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr Royal Museums Greenwich ers wyth mlynedd.
Meddai Dawn Austwick, Prif Weithredwr y Gronfa Loteri Fawr: “Mae'r penodiadau newydd hyn yn gam arall ar ein taith i gyflwyno Pobl yn Arwain, gan adeiladu ein gallu mewn dylunio gwasanaethau, materion cyfreithiol a digidol. Ar y naill law byddwn yn cymhwyso egwyddorion rhoi cwsmeriaid a defnyddwyr wrth wraidd sut rydym yn gweithio - trwy ddylunio gwasanaethau. Ar y llaw arall, bydd ein Cronfa Ddigidol Deyrnas Unedig gyfan newydd, y bydd Cassie yn bennaeth arni, yn helpu adeiladu galluoedd digidol mewn elusennau a mudiadau cymunedol - cydran hanfodol ar gyfer llwyddiant yn yr oes ddigidol.
“Rydym wrth ein boddau â chroesawu grŵp mor ddawnus o bobl i'r Gronfa.”
Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da. Y llynedd, dyfarnodd dros hanner miliwn o bunnoedd (£508.5 miliwn) a chefnogodd dros 11,000 o brosiectau ar draws y Deyrnas Unedig at ddibenion, iechyd, addysg, amgylcheddol ac elusennol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.cronfaloterifawr.org.uk/
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig