Dechrau llewyrchus yn 2019 i 47 o gymunedau
Mae 47 o gymunedau yn dechrau 2019 trwy ddathlu eu gwobrau gan y Gronfa Loteri Fawr. Dros y mis diwethaf mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dosbarthu grantiau gwerth cyfanswm o £846,593.
Mae'r grantiau ar gael diolch i bobl sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol a gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn yma
Dyfarnwyd pum grant o bron £100,000 yr un, a fydd yn annog cymunedau lleol i gadw rhai o'u haddewidion blwyddyn newydd gyda chyfleoedd i wella iechyd corfforol a meddyliol:
Gweilch yn y Gymuned grant o £98,900
Croesawyd y grant o £97,530 gan Dorian Evans, Cydlynydd Cyflogadwyedd y Gweilch yn y Gymuned, a dywedodd:
Rydym wrth ein boddau â derbyn y dyfarniad hwn gan y Gronfa Loteri Fawr a fydd yn cael effaith enfawr ar ein prosiect. Gyda'r grant byddwn yn gallu datblygu ein rhaglen TACKLE i weithio gyda hyd yn oed yn fwy o bobl ifainc 12 - 16 oed ddifreintiedig sy'n byw yn ein rhanbarth.
Rydym wedi cael llawer o lwyddiant hyd yma gyda'n prosiect peilot ar gyfer TACKLE, ond mae'n wirioneddol gyffrous y bydd modd, oherwydd y grant hwn, i ni weithio gyda llawer mwy o ddisgyblion datgysylltiedig nag o'r blaen ac yn bwysicaf oll, am gyfnod hwy. Byddwn bellach yn cyflogi myfyrwyr mewn prosiect dwy flynedd newydd gan olygu y bydd yr effaith ar eu hunanhyder a'u sgiliau rhyngbersonol yn enfawr, ac y bydd gennym fwy o amser i'w cefnogi i ennill cymwysterau a phrofiad cyflogadwyedd."
Bydd y Gweilch yn y Gymuned yn cyflogi staff a gwirfoddolwyr i gyflwyno eu prosiect TACKLE i ysgolion amrywiol ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Anelir y prosiect at greu buddion ar gyfer pobl ifainc 12 - 16 oed y mae ysgolion wedi adnabod nad ydynt neu eu bod mewn perygl o beidio â bod mewn cyflogaeth nag addysg. Bydd pob un yn cymryd rhan mewn rhaglen 2 flynedd a fydd yn defnyddio rygbi fel offeryn gwella hyder, sgiliau rhyngbersonol, hunan-barch, sgiliau bywyd a chyfleoedd addysg/cyflogaeth.
Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg grant o £99,821
Paul Warren. Nododd Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS):
“Gall gwirfoddoli gael gwir effaith ar y bobl hynny sydd â phrofiad byw o salwch meddwl. Credaf fod y prosiect Re-Build yn cynnig cefnogaeth wirfoddoli a gefnogir fel cyfle go iawn i greu rhywbeth unigryw ac uchel ei ansawdd i wella bywydau pobl.”
Bydd y mudiad yn cyflwyno prosiect gwirfoddoli iechyd meddwl ar draws rhan orllewinol Bro Morgannwg. Gyda ffocws ar gefnogi cymheiriaid a rhyngweithio pwrpasol bydd y prosiect yn cyflwyno pobl i wirfoddoli ac yn darparu'r gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i lwyddo a gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Cyngor Tref Amlwch grant o £100,000
Mae Cyngor Tref Amlwch yn bwriadu trawsnewid cyfleoedd chwarae a llesiant yng nghanol y dref ac yn ardal y Porth. Bydd y prosiect, a sbardunir gan y grŵp gwirfoddol lleol Caru Amlwch o fudd i blant, pobl ifainc, teuluoedd, rhieni, ymwelwyr â'r ardal a grwpiau cymunedol, gan ennyn ymdeimlad o falchder, llesiant a chynhwysiad cymdeithasol.
Meddai'r Cyng. Gordon Warren, Cadeirydd Cyngor Tref Amlwch
"Mae'n bleser gennyf y bu'r cais hwn am grant gan y Gronfa Loteri Fawr yn llwyddiannus ac rwyf am ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r prosiect o'r cychwyn cyntaf. Mae'r Cyngor Tref yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â Charu Amlwch i wella cyfleusterau chwarae'r dref a bydd y grant Loteri hwn yn ei wneud yn bosib i drawsnewid ein parciau."
Bydd y prosiect yn darparu cyfarpar chwarae ar ddau safle yn Amlwch, Môn. Bydd gan Barc y Dref, Lôn Goch gyfarpar sy'n addas i 8-18 oed a bydd gan Barc y Porth gyfarpar i blant hyd at 8 oed.
Chooselife Cymru grant o £99,001
Croesawyd y grant gan Alan Andrews, rheolwr gyfarwyddwr Chooselife UK, gan ddweud “Rydym yn ddiolchgar i dderbyn y grant hwn gan y Loteri Genedlaethol a fydd yn galluogi ni i barhau i gefnogi pobl fregus yn ardal Llanelli, nid yn unig gyda'u problemau parhaus ond yn fwy uniongyrchol gyda'r effaith y mae Credyd Cynhwysol yn ei chael arnynt a thrwy ddarparu cyfrifiaduron a chefnogaeth ymarferol i wneud unrhyw geisiadau a newidiadau angenrheidiol mor syml â phosib. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn ffordd gyfeillgar ac anfarnol sy'n goresgyn rhwystrau neu ofidion sydd gan bobl wrth gyrchu gwasanaethau gwahanol. Bydd cael y dyfarniad hwn yn galluogi ni i helpu goresgyn hyd yn oed yn fwy o rwystrau a sicrhau y cynigir llinell fywyd i bobl yn yr ardal sydd â phroblemau trwy'r gefnogaeth newydd sydd ar gael."
Bydd y prosiect yn cefnogi'r rhai sy'n dioddef o gamddefnyddio sylweddau, cyn-droseddwyr, pobl ddigartref a'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i gyrchu Credyd Cynhwysol, gan ymdrin â rhwystrau fel diffyg dealltwriaeth sylfaenol, sgiliau llythrennedd a rhifedd, cyfathrebu a TG. Bydd defnyddwyr gwasanaeth yn elwa o gyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i wella hyder a sgiliau, gan arwain at deimladau gostyngol o unigedd, tlodi a digartrefedd a gwelliant yn eu hiechyd a lles seicolegol.
11252 CIC
Bydd y prosiect yn darparu pobl ifainc ddifreintiedig a bregus 11-25 oed yn Sir y Fflint a Wrecsam gyda rhaglen wythnosol o weithgareddau ennyn diddordeb a fydd yn galluogi nhw i ddatblygu eu sgiliau i helpu codi hunanhyder, gwella dyheadau, cynyddu sgiliau cymdeithasol a chynnig cyfle i ddefnyddio eu profiadau bywyd i helpu eraill trwy fentora.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru