Arianwyr 'achosion da' y Loteri Genedlaethol yn dadorchuddio brand newydd
Y Gronfa Loteri Fawr a Chronfa Dreftadaeth y Loteri i ymwreiddio'r Loteri Genedlaethol yn eu hunaniaeth
Mae'r ddau fudiad mwyaf sy'n dosbarthu arian a godir ar gyfer 'achosion da' trwy werthu tocynnau'r Loteri Genedlaethol wedi dadorchuddio brandiau ar eu newydd wedd heddiw sy'n creu cyswllt cliriach rhwng chwarae'r Loteri Genedlaethol a'r achosion da sydd ar eu hennill.
Heddiw, mae'r Gronfa Loteri Fawr, ariannwr cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig yn newid ei henw i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol - cam ymlaen a gyhoeddwyd ym mis Ionawr y llynedd. Ymunir â nhw gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a fydd o heddiw yn cael ei hadwaen fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae'r ddau fudiad wedi dadorchuddio hunaniaethau brand ar eu newydd wedd hefyd sy'n ymgorffori bysedd croes hynod adnabyddus y Loteri Genedlaethol.
Bob blwyddyn mae'r mudiadau'n buddsoddi cannoedd ar filiynau o bunnoedd a godir trwy werthu tocynnau'r Loteri Genedlaethol mewn amrywiaeth o brosiectau cymunedol a threftadaeth. Trwy alinio eu brandiau'n agosach â'r Loteri Genedlaethol, mae'r ddau fudiad yn gobeithio y bydd yn helpu chwaraewyr i ddeall y gwahaniaeth y maent yn ei wneud wrth iddynt brynu tocyn yn well. Mae cymryd y cam hwn yn tanlinellu uchelgeisiau i weld enillion ar gyfer achosion da'n tyfu.
Mae adnewyddu brand y ddau'n rhoi hwb i ben-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25 oed. Cynhaliwyd y gêm gyntaf ym mis Tachwedd 1994 ac ers hynny, mae mwy na £30 miliwn wedi'i godi bob wythnos ar gyfer amrywiaeth o achosion da.
Meddai'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Wright: “Dros y 25 mlynedd ddiwethaf, mae'r Loteri Genedlaethol wedi codi dros £39 biliwn ar gyfer achosion da. Mae wedi helpu gwella bywydau miliynau o bobl a diogelu a hyrwyddo ein treftadaeth hynod werthfawr.
“Mae achosion da bob amser wedi bod wrth wraidd y Loteri Genedlaethol a bydd y brand newydd hwn yn gwneud y cyswllt hwnnw hyd yn oed yn gliriach. Rwy'n gobeithio y bydd yn annog hyd yn oed yn fwy o bobl i chwarae a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.”
Meddai Dawn Austwick, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da'n newid bywydau. Fel ariannwr cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig, rydym yn gweld cyflawniadau anhygoel miloedd o brosiectau a arweinir gan bobl bob blwyddyn. O grwpiau cymdeithasol ar gyfer gofalwyr ifainc i ddosbarthiadau pobi ar gyfer y genhedlaeth hŷn, o weithdai crefftau mewn ardaloedd gwledig anghysbell i sesiynau cefnogi rhieni newydd, mae cymunedau'n ffynnu diolch i'r Loteri Genedlaethol. Trwy ddyfnhau'r cysylltiad rhwng chwaraewyr a'r prosiectau gwych y maent yn eu cefnogi, gallwn sicrhau bod mwy o bobl yn deall y gwahaniaeth rhyfeddol y maent yn ei wneud ar draws y Deyrnas Unedig.
Meddai Ros Kerslake, Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mewn 25 mlynedd mae'r Loteri Genedlaethol wedi trawsnewid y Deyrnas Unedig. Mae strydoedd mawr hanesyddol a pharciau cyhoeddus wedi eu hadfywio; mae bywyd gwyllt brodorol wedi ei ddiogelu; mae ein hamgueddfeydd ac atyniadau diwylliannol bellach ymysg y goreuon yn y byd; ac mae storïau ac atgofion wedi'u cadw. Ond y tu hwnt i'r miliynyddion y mae wedi'u creu, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o'i heffaith ar ein bywydau bob dydd. Trwy roi blaenoriaeth i frand y Loteri Genedlaethol ynghyd â'n brand ni, rydym yn gobeithio helpu newid hynny."
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (Y Gronfa Loteri Fawr yn flaenorol) wedi bod yn gweithio i roi pobl a chymunedau wrth wraidd ei grantiau ers cyflwyno ei Fframwaith Strategol Pobl yn Arwain yn 2015.
Y llynedd yn unig dosbarthodd dros hanner biliwn o bunnoedd (£508.5 miliwn) gan y Loteri Genedlaethol i brosiectau cymunedol ar draws y Deyrnas Unedig. Elwodd dros 11,000 o brosiectau o hyn, gan alluogi pobl a chymunedau i wireddu eu syniadau.
Er ei bod yn datgelu ei logo newydd heddiw, mae'r Gronfa'n disgwyl y bydd ei hen logo'n parhau i gael ei ddefnyddio am beth amser wrth i'r nifer mawr o brosiectau llawr gwlad newid drosodd wrth iddynt greu deunyddiau printiedig newydd. Mae'r Gronfa wedi cyfathrebu â grwpiau i'w cefnogi wrth ddiweddaru deunyddiau digidol a rhoi sicrwydd iddynt y gallant barhau i ddefnyddio deunyddiau printiedig neu nwyddau blaenorol hyd nes eu bod yn barod i archebu rhai newydd.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi bron £8 biliwn mewn prosiectau treftadaeth, rhai mawr a rhai bach. Mae'n credu bod deall, gwerthfawrogi a rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl ynghyd, ysbrydoli balchder mewn cymunedau ac yn rhoi hwb i fuddsoddiad mewn economïau lleol.
Daw cyhoeddi ei hunaniaeth newydd o flaen dadorchuddio ei Fframwaith Cyllid Loteri Genedlaethol strategol nesaf sy'n pennu ei blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Bydd y Gronfa'n parhau i fuddsoddi mewn amrywiaeth eang o brosiectau treftadaeth ar draws y Deyrnas Unedig, rhai mawr a rhai bach. Mae ganddi'r nod o ysbrydoli, arwain a darparu adnoddau ar gyfer treftadaeth y Deyrnas Unedig er mwyn creu newid cadarnhaol a pharhaus ar gyfer pobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.
Bydd mwy o wybodaeth am ei blaenoriaethau ariannu ar gael o 30 Ionawr 2019.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.CronfaGymunedolYLG.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig