Daw Chwefror ag enw newydd a thros £3.2m mewn grantiau ar gyfer Cymunedau yng Nghymru
Efallai bod yr enw wedi newid, ond mae'n fusnes fel arfer yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, a ddosbarthodd fwy na £3.2 miliwn mewn grantiau a rannwyd rhwng 37 o fudiadau.
Rhoddodd y brand ar ei newydd wedd a welodd y Gronfa Loteri Fawr yn newid ei henw i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hwb i flwyddyn pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25 oed. Cynhaliwyd y gêm gyntaf ym mis Tachwedd 1994 ac ers hynny, mae mwy na £30 miliwn wedi'i godi ar gyfer amrywiaeth o achosion da.
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru: Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da'n newid bywydau. Y llynedd yn unig dyfarnwyd £35 miliwn gan y Loteri Genedlaethol i fwy na 1,000 o brosiectau cymunedol yng Nghymru. Mae'r arian yn galluogi pobl i wireddu eu syniadau, mae cymunedau'n ffynnu diolch i'r Loteri Genedlaethol.”
Croesawodd cymunedau ar draws Cymru eu cyfran o'r £3,285,785 mewn grantiau y mis yma gan gynnwys:
Ymgeisiodd Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr ym Môn am ychydig o dan chwarter miliwn o bunnoedd (£249,734), meddai Mark Gahan, y Cadeirydd:
"Mae derbyn y grant hwn yn deyrnged go iawn i'r ymdrech enfawr gan wirfoddolwyr o'r gymuned dros y pum mlynedd ddiwethaf i wella'r coetir cymunedol 50 erw yng Ngwarchodfa Natur Niwbwrch, trwy blannu miloedd o goed a chynnal llawer o weithgareddau a digwyddiadau gwahanol. Bydd y grant hwn yn creu tair swydd newydd ynghyd â chyfleoedd cyffrous ar gyfer dysgu a fforio trwy ddosbarth awyr agored a chuddfannau gwylio adar. Rydym eisiau diolch i chwaraewyr y loteri, na fyddai'r prosiect hwn yn bosib hebddynt."
Gwnaeth Bracken Trust Ltd yn Llandrindod, Powys gais llwyddiannus am ychydig o dan hanner miliwn o bunnoedd i'w wario dros y pum mlynedd nesaf (£499,964) Disgrifiodd Reg Cawthorne, y Cadeirydd, eu prosiect:
‘Byddwn yn datblygu gwasanaethau lles a chefnogi cymunedol o fothau yn Nhrefyclawdd a Llanidloes; gwasanaeth cefnogaeth gartref cadarn a system cefnogaeth dros y ffôn pum niwrnod yr wythnos. Byddwn hefyd yn datblygu strategaeth recriwtio a chadw gadarn ar gyfer gwirfoddolwyr; gan recriwtio gwirfoddolwyr ychwanegol i helpu yn y bothau a gwella ein technoleg gwybodaeth i'w gwneud yn haws ei defnyddio, rhyngweithiol ac yn ddwyieithog. Dyma amser cyffrous iawn ar gyfer Yr Ymddiriedolaeth ac rydym yn edrych ymlaen at roi'r gwasanaethau hyn ar waith o fewn y misoedd nesaf.’
Derbyniodd Solva Care yn Sir Benfro £281,783, nododd Mollie Roach, y Cadeirydd,
‘Rydym wrth ein boddau bod Solfach a Solva Care wedi eu cydnabod trwy hyn. Mae ein cymuned eisiau aros yn gysylltiedig, gan helpu ein gilydd a chanolbwyntio ar bobl hŷn yn benodol. Rydym wedi cychwyn arni ac yn edrych ymlaen at ddatblygu ein syniadau ymhellach gyda'r grant, a chefnogi cymunedau eraill sydd eisiau gwneud yr un peth.'
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru