Mae 55 o gymunedau ar draws Cymru' yn dweud diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol y mis yma
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £787,296 mewn grantiau i 55 o gymunedau ledled Cymru y mis yma.
Bachodd Gerddi Bro Ddyfi ym Machynlleth y dyfarniad mwyaf o £99,603. Gan groesawu'r grant meddai'r Uwch Gydlynydd Gwirfoddolwyr, Angela Paxton
Dyma newyddion gwych i bawb sy'n gysylltiedig â'r gerddi, ac rydym i gyd mor gyffrous am yr hyn y bydd modd i ni ei gyflawni gyda'r grant hwn, gan helpu mwy o bobl a theuluoedd lleol trwy ein sesiwn galw heibio a digwyddiadau, a chan wella'r ardd gymunedol gyda mwy o seddau, planhigion newydd a mynediad gwell er mwynhad pawb. Bydd gwirfoddolwyr yn creu cromen chwarae helyg newydd ar gyfer plant yn y gerddi yr wythnos nesaf, sy'n cael ei rhoddi gan Steve Pickup, arbenigwr helyg lleol.”
Roedd gwirfoddolwyr o Cyfle Newydd, y ganolfan ddydd ym Machynlleth yn y gerddi ar ddydd Mawrth, gan esbonio pam y maent yn hoffi dod i sesiynau galw heibio'r Gerddi,
“Rydym mor falch bod y Gerddi yma oherwydd bod y mynediad yn hwylus, gallwn gerdded iddynt, mae'n therapiwtig ac yn hwyl i weithio yn y gerddi.”
Mae Gwasanaethau Hamdden Halo ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio eu grant i helpu pobl sydd â dementia a'u gofalwyr i fynd allan a chadw'n heini. Cyflwynwyd cais llwyddiannus am £58,858 i'w wario dros y tair blynedd nesaf. Meddai Cydlynydd Cymunedol Halo Leisure Active, Ryan Statton
“Rydym wrth ein boddau â derbyn y dyfarniad hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru. Rydym wedi bod yn rhedeg sesiynau nofio sy'n llesol i dementia yn ein pwll ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers mis Ionawr 2018. Mae'r grant hwn yn galluogi ni i gefnogi hyd yn oed yn fwy o bobl leol sydd â dementia a'u gofalwyr i fod yn fwy actif yn gorfforol nid dim ond yn y pwll ond mewn amrywiaeth o weithgareddau eraill Mae'rgofalwyr yn elwa cymaint â'r person sydd â dementia. Mae'r paned a sgwrs yn y caffi ar ôl y sesiwn yr un mor bwysig â'r hyn sy'n digwydd yn y pwll neu'r neuadd chwaraeon.”
Mwy o wybodaeth am sut fydd y cymunedau'n gwario eu grantiau (PDF, 527KB)
Os hoffech dderbyn hwn mewn fformat arall, cysylltwch âwales@tnlcommunityfund.org.uk
Mwy o wybodaeth am sut fydd y cymunedau'n gwario eu grantiau
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru