£8m gan y Loteri Genedlaethol i ddathlu cymunedau DU trwy'r Cinio Mawr a digwyddiadau gwib
Mae'r Cinio Mawr yn cynnal chwe digwyddiad gwib ar draws y Deyrnas Unedig i godi ymwybyddiaeth o sut y gallai dathlu eich cymuned gyda chymdogion yn ystod y digwyddiad ar 1 a 2 Mehefin drawsnewid bywydau.
Canolbwynt y digwyddiadau gwib yw model rhyngweithiol o drefi a dinasoedd ble mae Ciniawau Mawr go iawn wedi'u cynnal. Gall ymwelwyr wrando ar glipiau sain o bobl sydd wedi cymryd rhan i ddeall mwy am y digwyddiad.
Cynhelir digwyddiadau gwib yn Llundain, Lerpwl, Nottingham, Glasgow, Belfast a Chaerdydd ym mis Ebrill a mis Mai eleni.
Ewch i www.edenprojectcommunities.com/cy/y-cinio-mawr-ar-daith am leoliadau a dyddiadau.
- Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi menter 4 blynedd ar y cyd gyda Phrosiect Eden i ddod â phobl ynghyd a helpu adeiladu cymunedau cryfach ar draws y Deyrnas Unedig
- Mae ariannu'n dilyn ymchwil[1] gan ddangos tra bod 65% o bobl yn adrodd am ysbryd cymunedol cryfion yn eu hardal leol, ychydig iawn sy'n dweud yr un peth ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, ac mae hyn yn oed yn llai'n cymryd rhan yn weithredol.
- Bydd y Daith Fawr a'r Cinio Mawr yn dod â phobl ynghyd mewn trefi, pentrefi a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig i adeiladu cysylltiadau rhwng cymunedau
- Bydd arian gan y Loteri Genedlaethol yn helpu lleihau cost cymunedau datgysylltiedig, yr amcangyfrifir ei fod yn £32 biliwn bob blwyddyn[2]
- Cyhoeddir chwe digwyddiad gwib rhyngweithiol ar draws y Deyrnas Unedig i godi ymwybyddiaeth o'r Cinio Mawr
Ar 23 Chwefror 2018 ymrwymodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (sef yr hen Gronfa Loteri Fawr) bron £8 miliwn gan y Loteri Genedlaethol i fenter pedair blynedd ar y cyd gyda Phrosiect Eden. Bydd y grant newydd, sydd wedi'i ddylunio i ddod â phobl ynghyd a thaflu goleuni ar gryfderau cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig, yn cefnogi dau ddigwyddiad pwysig - Y Daith Fawr a'r Cinio Mawr - a fydd yn cysylltu dros 10 miliwn o bobl â'u cymunedau lleol.
Nod y Cinio Mawr, sef ymgynulliad cymdogion mwyaf y Deyrnas Unedig, a'r Daith Fawr, yw gwella hapusrwydd a lles pobl ar draws y Deyrnas Unedig trwy helpu adeiladu cymunedau cryfach sydd â chysylltiadau gwell.
Mae'r buddsoddiad yn dilyn ymchwil[1] gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr gweithgareddau cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig, sy'n codi'r to ar sut mae pobl yn teimlo am gymunedau yn y Deyrnas Unedig heddiw. Yn ôl y canfyddiadau, er bod ysbryd cymunedol yn gryf, wedi'i werthfawrogi'n fawr ac i'w weld ym mhob rhanbarth o'r Deyrnas Unedig, mae angen gwneud mwy i herio canfyddiadau negyddol ac annog mwy o bobl i gymryd rhan yn weithredol yn eu cymunedau.
Yn yr un modd, bydd y mentrau'n helpu mwy o bobl i gymryd rhan yn eu cymunedau. Dywed tri chwarter (74%) fod bod yn rhan o'u cymuned yn bwysig iddynt, ond ar yr un pryd mae llai na thraean (31%) yn cymryd rhan neu gyfranogi'n weithredol. Trwy gysylltu pobl â'u cymunedau, bydd Y Daith Fawr a'r Cinio Mawr yn helpu nhw i ddatgloi manteision pwysig. Mae ymatebwyr yr arolwg yn adnabod y rhain fel cyfeillgarwch (65%), ymdeimlad o berthyn (55%) a chyd-gefnogaeth (49%).
Tra bod bron saith o bob deg (65%) o bobl yn adrodd am ymdeimlad cryf o gymuned yn eu hardal leol, dim ond pedwar o bob deg (41%) sy'n meddwl yr un peth am y Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Mae traean (33%) yn meddwl bod ysbryd cymunedol y Deyrnas Unedig yn marw allan, tra bod 29% yn dweud y daw i'r amlwg dim ond mewn argyfwng - canfyddiadau y mae'r Daith Fawr a'r Cinio Mawr yn helpu i'w goresgyn.
Yn ôl amcangyfrifon Eden Project Communities, mae cymunedau datgysylltiedig yn costio £32 biliwn y flwyddyn i'r Deyrnas Unedig[2], trwy ystod o ffactorau fel yr effaith ar iechyd a lles, a lefelau cynhyrchedd is.
Bydd Y Daith Fawr a'r Cinio Mawr yn ceisio taclo rhai o'r problemau hyn. Byddant yn taflu goleuni ar gryfderau cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig, gan ddarparu cyfleoedd i bobl ddod i nabod ei gilydd ac, yn bwysicach, annog nhw i gymryd rhan.
Am fwy o wybodaeth ac i gynllunio eich Cinio Mawr ewch i
Meddai Dawn Austwick, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd Y Daith Fawr yn arddangos gwaith anhygoel cymunedau ar hyd a lled y wlad, a bydd Y Cinio Mawr yn ymgynulliad cymdogion mwyaf y Deyrnas Unedig. Bydd y dathliadau hyn yn helpu cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cymunedau cryfion ac yn ysbrydoli llawer mwy ohonom i gymryd rhan yn weithredol.
“Dyma pam rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda Phrosiect Eden i greu cyfleoedd newydd i bobl adeiladu cysylltiadau, gwneud ffrindiau a gosod sylfeini sy'n helpu cymunedau i ffynnu.”
Meddai Peter Stewart MVO, Cyfarwyddwr Gweithredol Prosiect Eden: “Rydym yn gwybod y gallai cymunedau datgysylltiedig fod yn costio £32 biliwn i economi'r Deyrnas Unedig bob blwyddyn trwy ystod o ffactorau fel yr effaith ar iechyd a lles, cynhyrchedd is a mwy o droseddu. Er ei fod yn amlwg bod pobl yn gwerthfawrogi bod yn rhan o gymuned gref, mae'n bryderus nad yw llawer yn cymryd rhan yn weithredol o hyd, er gwaetha'r buddion economaidd a chymdeithasol y byddai'n eu creu.
“Rydym eisiau i fwy o bobl deimlo bod ganddynt gyswllt â'u cymuned, ond hefyd i fwy o gymunedau greu cysylltiadau ac adeiladu cyd-ddealltwriaeth a chyd-gefnogaeth. Dyma beth yw nod Y Daith Fawr a'r Cinio Mawr ac mae'n wych gweld arian y Loteri Genedlaethol yn chwarae rôl mor allweddol wrth ddod â phobl ynghyd mewn ffordd mor gadarnhaol a phwrpasol."
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig