Mae'r cyhoedd wedi penderfynu! Tair cymuned yng Nghymru yn ennill hyd at £50,000 gan Y Loteri Genedlaethol yn sgil pleidlais bwysig
Mae tri grŵp cymunedol lleol yng Nghymru wedi ennill pleidlais gyhoeddus i fachu hyd at £50,000 gan y Loteri Genedlaethol fel rhan o Brosiectau'r Bobl eleni. Dyfarnwyd y grantiau ar ôl i Starlings Aberyswyth, Dal Dy Dir ym Mhowys, a Keep Wales Tidy yn Abertawe a Rhondda Cynon Taf, ennyn hyder y cyhoedd gyda'u cynlluniau.
Roedd y prosiectau yn dri o bump o grwpiau yng Nghymru i gystadlu am gyfran o'r swm trawsnewidiol o £3 miliwn. Dangoswyd prosiectau pob un o'r grwpiau ar deledu oriau brig, gan roi cyfle i'r cyhoedd weld eu gwaith anhygoel ac wedyn gwneud y penderfyniad anodd am ble y dylai'r arian fynd.
Bydd Dal Dy Dir yn gweithio gyda'u gwirfoddolwyr i greu fferm weithredol fach ym Mhowys lle gall pobl gyrchu hyfforddiant a chyfleoedd hunangyflogaeth. Bydd y prosiect yn cynnwys datblygu coetir bach, padogau a bythynnod i rywle y gall pobl roi cynnig ar sgiliau newydd a'u datblygu, a darparu cefnogaeth wrth gyrchu cyflogaeth. Bydd y prosiect yn agored i bawb ond gyda ffocws penodol ar weithio gyda phobl sydd ag anableddau a phobl sy'n wynebu allgau.
Bydd Keep Wales Tidy yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol i drawsnewid ardaloedd segur a heb eu defnydd ar dir ysbytai i fannau gwyrdd bywiog. Byddant yn gweithio gyda thri ysbyty yn Ne Cymru i greu gerddi â seddau a gwelyau blodau, ar gyfer cleifion, gweithwyr gofal iechyd ac ymwelwyr. Byddant yn creu mannau agored hygyrch a gaiff eu defnyddio ar gyfer ymlacio, cymdeithasu ac ymadfer, ac ar yr un pryd yn gwella bioamrywiaeth amgylchedd yr ysbyty.
Bydd Starlings Aberystwyth yn rhedeg prosiect beicio cymunedol hollol gynhwysol yn Aberystwyth a'r cyffiniau. Bydd y grŵp yn gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl, cyflyrau iechyd corfforol ac anableddau trwy ddarparu amrywiaeth o feiciau gan gynnwys beiciau llaw, tandemau a threiciau. Bydd mynediad i ymarfer corff hwyliog yn yr awyr agored yn creu cyfleoedd newydd i'r cyfranogwyr wella'u hiechyd a chymdeithasu.
Mae Prosiectau'r Bobl yn bartneriaeth rhwng Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y Loteri Genedlaethol ac ITV. Ers 2005 mae wedi rhoi cyfle unigryw i'r cyhoedd ddweud eu dweud am y ffordd orau o ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol yn eu hardal leol.
Mae Prosiectau'r Bobl yn dathlu rhai o'r prosiectau rhyfeddol a gefnogir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol - ariannwr gweithgareddau cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig. Eleni, roedd 95 o grwpiau cymunedol ar y rhestr fer ar draws y Deyrnas Unedig, gyda phum grŵp yn mynd benben â'i gilydd ym mhob rhanbarth.
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru: “Mae Prosiectau'r Bobl yn amlygu'r pethau anhygoel y mae cymunedau'n ei wneud ar draws y Deyrnas Unedig i alluogi pobl i ffynnu. Ym mhob pentref, tref a dinas, mae grwpiau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i wireddu eu syniadau gwych a chyflwyno'r newid y mae pobl eisiau ei weld yn eu hardal.
“Rydym yn gyffrous iawn i weld enillwyr eleni'n defnyddio'r grant gan y Loteri Genedlaethol i gryfhau eu cymuned leol a chefnogi pobl i fyw bywydau mwy iach a hapus.”
Mae Prosiectau'r Bobl wedi dyfarnu tua £45 miliwn i dros 1,000 o achosion da ar draws y Deyrnas Unedig ers iddo ddechrau yn 2005.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru