£2m o arian y Loteri Genedlaethol i weithwyr hŷn yng Ngogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru
£2m o arian y Loteri Genedlaethol i weithwyr hŷn yng Ngogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi dros £2m o arian y Loteri Genedlaethol ar brosiect i gefnogi pobl hŷn i aros, neu ddychwelyd i waith yng Ngogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.
Mae Age NI, mewn partneriaeth â Busnes yn y Gymuned Gogledd Iwerddon, wedi derbyn y grant o £2,244,942 ar gyfer y prosiect pum mlwydd oed Age at Work, sy'n codi ymwybyddiaeth o weithlu sy'n heneiddio a busnesau cefnogol i fod yn fwy cynhwysol o ran oedran.
Drwy gefnogi pobl hŷn i aros, neu ddychwelyd i'w gwaith, mae'r prosiect yn eu helpu i gael digon o incwm, aros yn gysylltiedig, datblygu sgiliau newydd, arwain bywyd gwaith llawn a lleihau unigrwydd ac unigedd.
Mae cyfateb Age NI a Busnes yn y Gymuned Gogledd Iwerddon yng Nghymru ac Yr Alban hefyd yn darparu'r prosiect yn eu gwledydd.
Mae'r prosiect yn annog busnesau i recriwtio, ailhyfforddi a dal gafael ar weithwyr hŷn. Mae'n cynnig adnoddau, cyngor a chefnogaeth gan gynnwys hyfforddiant a lleoliad gwaith. Mae'r prosiect hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr i gefnogi polisïau mwy cynhwysol o ran oedran.
Mae ymchwil diweddar hefyd yn dangos byddai 90% o bobl yn eu 40au a 50au sydd mewn gwaith yn hoffi cael mwy o hyblygrwydd yn eu patrwm gwaith yn y dyfodol, mae 81% â diddordeb mewn datblygu sgiliau newydd, a 47% â diddordeb mewn cael dyrchafiad. (Ffynhonnell: Arolwg Adolygu Canol-Gyrfa, Age NI, Busnes yn y Gymuned Gogledd Iwerddon ac Adran dros Gymunedau, 2019)
Dywedodd Siobhan Casey, cyfarwyddwr datblygiad a marchnata cwmni Age NI :
"Rydym i gyd yn byw am hirach, sy'n golygu i lawer ohonom, byddwn hefyd yn gweithio am hirach. Mae hyn yn darparu sialensiau a chyfleoedd i weithwyr hŷn a chyflogwyr.
"Mae ein hymchwil wedi dangos fod pobl hŷn eisiau parhau mewn gwaith am nifer o resymau. Gall y rhain gynnwys eu bod eisiau aros yn gysylltiedig i eraill (30%), neu i eraill gall fod am resymau ariannol - mae 47% yn debygol o weithio wedi oedran pensiwn y wladwriaeth er mwyn gallu fforddio eu ffordd o fyw dymunol. Er hynny, fel mae cyfrifoldebau gofal, problemau iechyd a pethau eraill yn codi, mae'r angen i weithwyr addasu i'r senarios hyn drwy gynnig opsiynau fwy hyblyg yn allweddol i gadw a gwerthfawrogi arbenigedd a chyfraniad gweithwyr hŷn.
"Fel rhan o brosiect Age at Work, dros y pum mlynedd nesaf, bydd Age NI yn cefnogi dros fil o bobl i chwilio am adnewyddiad i'w rôl presennol, eu sgiliau a'u rhagolygon drwy ddarparu Adolygiad Canol-Gyrfa wedi'i deilwra iddyn nhw. Nod y fenter hwn yw i gynyddu hyder, sgiliau a chyfleoedd i'r rhai sy'n dymuno, a'r rhai sydd angen aros yn eu gwaith am hirach."
Dywedodd Kieran Harding, Rheolwr Gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned Gogledd Iwerddon:
"Mae Age at Work wedi bod yn cael ei gynllunio ers sawl blwyddyn, a rydym wrth ein boddau i gydweithio ag Age NI yn narpariaeth prosiect mor bwysig, amserol a pherthnasol.
"Mae'r gefnogaeth amhrisiadwy gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn sicrhau ein bod yn gallu darparu'r fenter gydweithredol, a fydd yn cyfrannu i ddatblygiad Gogledd Iwerddon fel cymdeithas ddatblygedig wedi ei seilio ar wybodaeth. Drwy helpu sefydliadau i weithredu polisïau ac arferion newydd sy'n ystyriol o oedran, byddant yn gallu manteisio ar sgiliau, gwybodaeth a galluoedd gweithwyr hŷn.
"Rwy'n edrych ymlaen i weld y rhaglen yn symud yn ei flaen a'n datblygu dros y pum mlynedd nesaf, ac i gasglu'r dysgu a'r wybodaeth y bydd yn eu cyflwyno i'r agenda bwysig hon.”
Dywedodd Michele Doran (50), sy’n gweithio fel rhan o dîm Sianeli Digidol First Trust Bank: “Dwi wir yn mwynhau gweithio, a dwi wedi cael y cyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau drwy gydol fy ngyrfa, gan weithio mewn amryw o swyddi, yn y gangen ac ar brosiectau digidol diweddar.
“Un o’r pethau dwi’n ei fwynhau fwyaf yw cael y cyfle i adeiladu cysylltiadau a siarad â phobl gwahanol. Dwi hefyd yn lwcus bod fy nghyflogwr wedi bod yn gefnogol iawn o’m newidiadau yn fy ffordd o fyw a fy anghenion, gan gynnwys fy ngalluogi i weithio’n agosach i gartref wedi rhai problemau iechyd yn ddiweddar.
“Dwi wir yn cymeradwyo Age NI a Busnes yn y Gymuned ar y lansiad o’r prosiect gyffrous hwn. Dwi’n meddwl bod y gefnogaeth sy’n cael ei gynnig i weithwyr hŷn i’w cadw’n gysylltiedig a chael bywyd gwaith fwy llawn mor werthfawr. “
Dywedodd Kate Beggs, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Gogledd Iwerddon: "Rydym wrth ein boddau i ariannu prosiect Age at Work, sy'n canolbwyntio ar y cryfderau mae pobl hŷn yn cyfrannu i'r gweithlu.
"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd yn gweithio gyda phobl hŷn a chyflogwyr i helpu deall yn well, a goresgyn rhai o'r rhwystrau i ddarganfod neu aros mewn gwaith. Mae'r rhain yn cynnwys y galwadau o ofal anffurfiol, problemau iechyd a diffyg opsiynau gwaith hyblyg. Yn gyffredinol, bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth a'n datgloi'r potensial o weithwyr medrus yng Ngogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar brosiect Age at Work ar wefan Age at Work www.ageni.org/ageatwork
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Gogledd Iwerddon , Yr Alban , Cymru