Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon yn dathlu arian y Loteri Genedlaethol i fynd i’r afael â materion cymdeithasol
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi heddiw fod 20 o brosiectau led led y DU wedi derbyn cyfran o £800,000 fel rhan o’i Raglen Beilot Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon.
Bydd y grantiau newydd yn galluogi sefydliadau i roi pobl sydd â phrofiad ymarferol o faterion cymdeithasol i arwain. Bydd sefydliadau gan gynnwys The Care Leavers, Muslim Women’s Council a Comics Youth yn meithrin capasiti a gallu yn awr ar gyfer y sawl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon i ddod yn arweinwyr o fewn eu cymuned, er enghraifft trwy gynnig hyfforddiant i arweinwyr sy’n dod i’r amlwg neu wella strwythurau llywodraethu.
Mae’r Rhaglen Beilot Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon, a ddatblygwyd trwy weithdai led led y DU sy’n cynnwys mwy na 70 o arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon, yn rhan graidd o ‘strategaeth pobl yn arwain’ Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Nod y Rhaglen Beilot yw sefydlu arbenigwyr â phrofiad yn well ym mhob agwedd ar y ffordd mae sefydliad yn gweithredu - a galluogi’r Gronfa a’r sector ehangach i barhau i ddysgu am sut mae pobl sydd â phrofiad ymarferol o lygad y ffynnon yn gallu dod yn arweinwyr, a sut y gall arianwyr eu cefnogi.
Dywedodd Joe Ferns, Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Phortffolio'r DU o fewn Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd pobl â phrofiad o lygad y ffynnon yn defnyddio eu harbenigedd unigryw i arwain newid cymdeithasol a helpu eu cymunedau i ffynnu. Rydym yn gwybod fod cefnogi’r sawl sydd â phrofiad ymarferol o lygad y ffynnon i ddod yn arweinwyr yn alluogwr allweddol i gymdeithas ddinesig wneud mwy, helpu mwy o bobl ac i’n sector gael effaith fwy.”
Bydd un o’r prosiectau i dderbyn arian sef The Care Leavers, yng Nghaer – yn defnyddio ei grant o £50,000 i greu rhwydwaith gefnogi genedlaethol i arweinwyr ifanc sydd â phrofiad o ofal. Bydd y rhwydwaith yn cynnig cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth, mentora a fforwm i gysylltu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal gyda gwneuthurwr polisi lleol.
Dywedodd Luke Rodgers, Cyfarwyddwr The Care Leavers: “Fel rhywun sydd â phrofiad ymarferol o lygad y ffynnon o’r system ofal, rwyf wedi cwrdd ag ambell unigolyn anhygoel sydd heb unrhyw lwyfan i ddefnyddio eu profiad o lygad y ffynnon i ddatblygu i fod yn arweinwyr. Ond yr hyn a welwn pan fyddwn yn rhoi cyfrifoldeb a chyfleoedd i’r bobl ifanc y gweithiwn â hwy yw eu bod yn ffynnu’n wirioneddol. Dyna pam ein bod mor gyffrous am y grant hwn - os gallwch ddethol gwybodaeth go iawn am y system ofal, rydych yn mynd i’w gwella.”
Mae Muslim Women’s Council, yn Bradford, wedi derbyn £30,000 i gyflwyno hyfforddiant arweinyddiaeth i wragedd Mwslemaidd â phrofiad o lygad y ffynnon o drais domestig, trosedd casineb, Islamoffobia, cam-fanteisio rhywiol ac amlwreiciaeth - gyda’r nod cyffredinol yn y pen draw o sefydlu melin drafod fechan i rymuso cyfranogwyr i ddylanwadu ar bolisïau a thrafodaethau ynghylch y materion hyn.
Dywedodd Bana Gora, Prif Weithredwr Muslim Women’s Council: “Mae yna synnwyr bob tro fod pobl yn parasiwtio i mewn i ddinasoedd fel Bradford, ac yna allan unwaith eto. Ychydig iawn o bobl gredadwy, wedi’u hyfforddi sydd ar gael ‘ar y ddaear’ - yn enwedig o fewn y gymuned Fwslemaidd. Felly pam ddim defnyddio’r profiad sydd gennym rhyngom, fel gwragedd Mwslemaidd yn Bradford, i ddynodi’r bylchau mewn gwasanaethau yr ydym wedi’u profi.”
Mae Comics Youth a leolir yn Lerpwl – sy’n defnyddio cynnal comigau a storïau i gefnogi pobl ifanc sydd wedi profi trawma, materion iechyd meddwl ac ymyleiddio – wedi derbyn grant o £39,000 i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth pobl ifanc, trwy greu a gweithredu tŷ cyhoeddi.
Dywedodd Rhiannon Griffiths, Cyfarwyddwr Comics Youth CIC: “Mae’r grant Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon yn mynd i’n galluogi i agor Marginal, y cyhoeddwr cyntaf o’i fath yn y DU dan arweiniad pobl ifanc, lle y byddwn yn cefnogi pobl ifanc 8 i 25 mlwydd oed i greu comigau gwych sy’n ymwneud â’u profiadau o gymdeithas heddiw.
“Bydd ein rhaglen yn recriwtio 15 i 20 o bobl ifanc gyda phrofiad o anawsterau iechyd meddwl cymhleth i ddod ynghyd a rhedeg grŵp golygyddol am yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy yng nghymdeithas heddiw – rydym yn mynd i fod yn eu cefnogi i ddod yn arweinwyr y dyfodol a chyhoeddwyr y dyfodol, sy’n rhywbeth gwirioneddol gyffrous i ni.”
Mae cyhoeddiad heddiw yn rhan allweddol hefyd o ymrwymiad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i alluogi cymdeithas ddinesig i fod yn addas at y dyfodol - gan helpu sefydliadau a’r sector cymdeithasol i greu cyfleoedd i bobl â phrofiad ymarferol o fod ar flaen y gad o ran y broses gwneud penderfyniadau.
I wybod mwy, edrychwch ar www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig