Lansio Cronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol gwerth £100 miliwn ar gyfer cymunedau ledled y DU
Heddiw , mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi lansio Cronfa Gweithredu Hinsawdd gwerth £100 miliwn a fydd yn galluogi pobl a chymunedau i arwain wrth fynd i'r afael a'r argyfwng hinsawdd.
Bydd y gronfa newydd, gan ariannwr mwyaf gweithgareddau cymunedol yn y DU, yn adeiladu rhwydwaith o bobl a chymunedau, mewn sefyllfa dda i ysgogi newid o fewn, rhwng a thu hwnt i'w cymuned.
Mae'r ariannwr wedi dweud y bydd mathau o weithgareddau yn amrywio o le i le, ond bydd un peth yn gyffredin rhyngddynt: y gallu i ddarparu gweithrediad hinsawdd effaith fawr sy'n cael ei arwain gan y gymuned. Mae hyn yn cynnwys mewn meysydd fel ynni cynaliadwy, trafnidiaeth gynaliadwy, defnydd, bwyd a diogelu ac adfywio mannau a chynefinoedd.
Mae'r gronfa newydd yn cael ei lansio gan fod lefel y pryder ynghylch newid yn yr hinsawdd yn parhau i gynyddu, gyda 80% o'r cyhoedd yn dweud eu bod yn bryderus iawn neu'n weddol bryderus am newid yn yr hinsawdd1).
Dywedodd Dawn Austwick, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Gall pawb chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael a newid hinsawdd. Bydd yr effaith yn fwy os ydym yn dod ynghyd o fewn ac ar draws cymunedau. Dyma pam, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ein bod yn lansio'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd i greu momentwm ar lawr gwlad wedi'i adeiladu ar ddysgu a rhannu o fewn, rhwng a thu hwnt cymunedau - er mwyn cyflawni gweithredu hinsawdd ystyrlon a chyson.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eisoes wedi buddsoddi miliynau mewn prosiectau amgylcheddol ledled y DU, rhai bach a mawr. Mae un prosiect yn cynnwys 'Croeso i'n Coedwig', sydd yn bartneriaeth gymunedol yn y Rhondda Fawr Uchaf, Cymoedd De Cymru. Trwy'r prosiect, mae'n gweithio gyda'r gymuned i ddatblygu ffyrdd newydd o gysylltu pobl a'u hamgylchedd naturiol. Mae'n defnyddio ystod eang o weithgareddau a mentrau gan gynnwys teithiau cerdded iechyd, campfeydd gwyrdd a thanau gwersylla iach, tyfu bwyd yn y gymuned a bwyta'n iach, yn ogystal â thyfu cynnyrch yn lleol mewn rhandiroedd segur i leihau ardaloedd gwastraff .
Mae Twipes yn un arall - llieiniau toiled ecogyfeillgar y mae modd eu fflysio ac sydd yn gwasgaru mewn dŵr mewn tair awr. Dyma’r rhai cyntaf o’i math yn y byd. Cafodd ei ddatblygu gan Ellenor McIntosh ac Alborz Bozorgi, a derbyniodd y prosiect arian gan y Loteri Genedlaethol drwy’r rhaglen Our Bright Future i fynd â'u llieiniau bioddiraddadwy yn ddigidol. Helpodd y grant arweinyddiaeth amgylcheddol ifanc i El ac Al ddatblygu synwyryddion digidol ar lieiniau llaw mewn adeiladau a gwestai sy'n anfon rhybuddion pan fyddant yn rhedeg yn isel er mwyn arbed costau a gwastraff - gan liniaru'r effaith ar yr hinsawdd ymhellach a lleihau llygredd morol.
Cynhaliwyd y lansiad yng ngardd y Global Generation Skip, sy'n ardd drefol gynaliadwy yn Llundain. Fe glywodd sefydliadau amgylcheddol, elusennau a grwpiau cymunedol gan Ummi Hoque, sy'n fyfyrwraig 18 oed a dderbyniodd arian gan y Loteri Genedlaethol drwy Our Bright Future(2) i ysgogi gweithredu am yr hinsawdd yn ei chymuned leol, ac yn ddiweddar ymunodd â channoedd o filoedd o bobl ifanc ledled y byd i gyd-weithredu dros yr hinsawdd.
Dywedodd Ummi: “Rhaid i bobl ifanc fod ar flaen y gâd yn yr ymdrech i ddatrys yr argyfwng hinsawdd - ein planed a'n dyfodol ni yw hi, ac fel aelod o'r fforwm ieuenctid yn Our Bright Future, byddaf yn parhau i ymladd drosto. Er bod arnom angen busnes, y Llywodraeth a llunwyr polisi i ymateb yn effeithiol i'r argyfwng, mae'n bwysig bod cymunedau lleol yn cael eu hannog i chwarae eu rôl. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y gall cymunedau weithio gyda'i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd, wrth i ni ddod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â'r argyfwng gyda'n gilydd.”
Heddiw, datgelodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei bod yn edrych ar ffyrdd o gefnogi'r sector ehangach a'i grantïon i'w helpu i liniaru eu heffaith ar yr hinsawdd, er enghraifft drwy ei gynllun Atodol Gweithredu Hinsawdd - a fydd yn cael ei dreialu cyn hir yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth ewch i Cronfa Gweithredu Hinsawdd
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig