Nid i ymwelwyr yn unig mae mynyddoedd, wrth i sefydliad Cymraeg ennill bron i £3 miliwn i brosiect awyr agored ar draws y Deyrnas Unedig
Yn arwain y llwybr yng Ngogledd Cymru am y pedair ar ddeg mlynedd ddiwethaf, mae'r Bartneriaeth Awyr Agored wedi bod yn hynod o lwyddiannus wrth annog pobl leol i ddod yn iachach ac i ddod o hyd i waith, drwy fwynhau’r tirlun. Er ei fod ar stepen ddrws cymunedau economaidd difreintiedig, nid oedd pobl leol yn cael budd o'r cyfleoedd roedd yn ei gynnig - dangosodd ymchwil gan Brifysgol Bangor mae'r farn gyffredin oedd bod "Mynyddoedd i Ymwelwyr". Bwriad y Bartneriaeth Awyr Agored oedd newid hyn.
Gan gychwyn gyda helpu cymunedau yng Ngogledd Orllewin Cymru i osod clybiau i wahanol ymlidiau awyr agored, gan gynnwys caiacio a dringo. Roeddent wedi annog teuluoedd lleol i gymryd rhan, ac wedi darparu offer a hyfforddiant. Mae'r cyfleoedd a'r cyfle i ennill cymwysterau hyfforddi wedi arwain at nifer mwy o bobl leol yn dod o hyd i waith yn y diwydiant awyr agored. Fe ddangosodd Prifysgol Bangor fod, yn 2003, dim ond 7% o'r nifer cynyddol o swyddi hyfforddwyr oedd wedi eu llenwi gan bobl leol, a phymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae'r canran wedi cynyddu i 20%.
Bydd y prosiect newydd wedi'i seilio ar y model llwyddiannus yng Ngogledd Cymru - Esboniodd Tracey Evans, Prif Weithredwr y Bartneriaeth Awyr Agored:
Fe sylweddolom fod gan ein sefyllfa llawer yn gyffredin gydag ardaloedd eraill y DU, lle roedd tirlun anhygoel yn denu ymwelwyr a'r bobl leol heb ymgysylltu, nid i ymwelwyr yn unig mae mynyddoedd.
"Mae'r llwyddiant rydym wedi ei gael yng Ngogledd Cymru wedi ei gyflawni drwy dorri rhai o'r rhwystrau oedd yn stopio'r gymuned leol rhag cymryd rhan. Pan ddechreuom yn Hydref 2005, dim ond 15 clwb oedd yn cael ei arwain gan y gymuned oedd yn bodoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, ac mae bellach dros 100. Mae'r Bartneriaeth wedi gosod 82 dros y blynyddoedd. Roeddem eisiau creu llwybrau clir felly os oedd rhywun a diddordeb mewn gweithgaredd penodol, gallent symud o fod yn ddechreuwr i fod yn hyfforddwr. Os byddent eisiau stopio ar lefel penodol ar y llwybr hwnnw, byddent er enghraifft, yn cael mynediad iddo ar gyfer adloniant o fewn eu cymuned. Rydym mor gyffrous i weithio gyda'r sefydliadau lleol ym mhob un o'r meysydd newydd i'w helpu i ddatblygu eu modelau eu hunain."
Mae'r ystadegau yn drawiadol. Rhwng 2006 a Mawrth 2019, mae'r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cyrraedd dros 120,000 o bobl, ac wedi buddsoddi £700,000 i hyfforddi dros 4,500 o wirfoddolwyr o gymunedau lleol. Mae arweinwyr gwirfoddol gweithredol y sefydliad werth £1.6m i'r economi leol bob blwyddyn, ac mae wedi cefnogi dros 500 o bobl ddi-waith lleol i ddatblygu i gyflogaeth barhaus ar enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad o £7.5m
Bydd y canolfannau newydd yn cael eu calonogi gan yr enghraifft a gynigiwyd yn Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru gan Antur Stiniog, sydd ers 2007 wedi bod yn ganolfan beicio mynydd ac yn fenter gymdeithasol gweithgareddau awyr agored.
Mae Ceri Cunnington wedi bod yn ymgysylltu ag Antur Stiniog ers y dechrau gan gynnwys cyfnod fel Rheolwr Cyffredinol, bellach fel Ymddiriedolwr Gwirfoddol. Esboniodd sut roedd y Bartneriaeth Awyr Agored wedi gweithio ochr yn ochr â'r gymuned leol, gan gynnig cyfle i bobl weld beth oedd ar stepen eu drws fel adnodd ar gyfer eu lles a'u potensial economaidd eu hunain:
“Dros y cyfnod rwyf wedi bod yn rhan rwyf wedi gweld 30 neu 40 o bobl leol - o gymuned o 5,000 - sydd wedi cael hyfforddiant sydd wedi eu symud i weithio yn y sector. Mae'r prosiect wedi rhoi hyder i'n cymuned ac wedi agor eu llygaid i'r posibiliadau y mae'r awyr agored yn eu cynnig. O'n dechreuadau gostyngedig fel clwb canŵio gyda chwe rhiant gwyliwr i hyfforddi fel hyfforddwyr, rydym bellach yn Fenter Gymdeithasol yn ennill contractau i ddarparu gweithgareddau awyr agored a seilwaith. Ers 2012 rydym wedi bod yn hunangynhaliol.”
Dywedodd Joe Ferns, Cyfarwyddwr Cyllid y DU yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y Bartneriaeth Awyr Agored, sydd eisoes wedi gweld llwyddiant mawr yng Nghymru, yn cyflwyno ei model ar draws y cenhedloedd eraill. Trwy helpu mwy o bobl i gyflawni eu potensial trwy weithgareddau awyr agored a thorri'r cylch diwylliannol lle mae adnoddau naturiol lleol yn cael eu hystyried yn rhywbeth i dwristiaid yn unig, mae'r prosiect hwn yn y pen draw yn helpu cymunedau ledled y DU i ffynnu. "
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da. Blwyddyn ddiwethaf, fe ddosbarthodd dros hanner biliwn (£508.5 miliwn) ac wedi cefnogi dros 11,000 o brosiectau ledled y DU ar gyfer iechyd, addysg, amgylchedd a dibenion elusennol.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig