Hanner miliwn o bunnoedd o grantiau Loteri Genedlaethol i helpu gwneud Glannau Dyfrdwy yn ddi-blastig a chefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o gancr.
Hanner miliwn o bunnoedd o grantiau Loteri Genedlaethol i helpu gwneud Glannau Dyfrdwy yn ddi-blastig a chefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o gancr
Mae 24 o fudiadau yn dathlu ledled Cymru’r mis hwn wedi iddynt ymgeisio yn llwyddiannus am grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy'n gyfanswm o bron i hanner miliwn o bunnoedd (£496,942.00). Mae ein grantiau yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Derbyniwyd grantiau mwy gan bum grŵp - £99,348.00 i'r Old Mill Foundation i ddarparu cefnogaeth i bobl sydd â diagnosis o gancr yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Dywedodd eu Prif Swyddog Gweithredol a sylfaenydd y mudiad Sarah Clark:
"Rydym wrth ein boddau i dderbyn y grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gan y bydd yn ein galluogi i ddarparu cefnogaeth emosiynol a corfforol mawr ei angen i'r rhai sydd yn delio â chancr ar draws cymuned lawer mwy yn Ne Orllewin a Gorllewin Cymru. Bydd hyfforddiant i wirfoddolwyr yn cael ei wella a mynychir mwy o ddigwyddiadau i drosglwyddo gwybodaeth amhrisiadwy."
Fe ymgeisiodd Community Heart Productions am £99,624.00 i leihau plastig yng Nglannau Dyfrdwy yng Ngogledd Cymru. Dywedodd Rheolwr Community Heart Productions, Lyn Wakefield: "Roeddem wrth ein boddau i glywed ein bod wedi derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer ein prosiect 'Plastic Free Dee'. Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ddod â phobl ynghyd i ddysgu, tyfu a chyflawni. Bydd yn hybu gweithrediad uniongyrchol, dinasyddiaeth, dealltwriaeth a gwirfoddoli cymunedol i leihau llygredd plastig, helpu'r amgylchedd a gwarchod bywyd gwyllt yn ardal Glannau Dyfrdwy. Bydd yn dod a nifer o fanteision i'r gymuned, yn enwedig i bobl ifanc a'r rhai sy'n aml yn cael eu hymylu."
Fe ymgeisiodd Clwb Trotian Cwm Aman Cyf am £60,271.00. Dywedodd Adrian Howells ar ran y clwb: “O'r dyddiau pan gafodd y safle ei fflatio a'i lenwi â thomen a'i hetifeddwyd gan y Bwrdd Glo, mae gwirfoddolwyr preswyl wedi gweithio'n galed dros y blynyddoedd, ar eu pennau eu hunain a gyda chymorth partneriaid, i greu cyfleuster y gall yr holl gymuned ei fwynhau ac sy'n creu buddion ariannol i'r gymuned.
"Fel rhywun sydd wastad wedi byw ym mwrdeistref Castell-nedd Port Talbot, rwyf wedi profi a chefnogi datblygiad Clwb Trotian Cwm Aman Cyf yn nhermau cyfraniad a budd cymunedol, ac o ran y trawsnewidiad sydd wedi digwydd yn eu cyn safle cae brown.
“Cwblhau’r ysgubor digwyddiadau yw’r diweddaraf mewn llinell hir o welliannau a bydd yn cynnig nid yn unig buddion i breswylwyr ac ymwelwyr ar ddiwrnodau digwyddiadau, ond bydd hefyd yn caniatáu rhaglen o weithgareddau i breswylwyr yn yr ysgubor trwy gydol y flwyddyn. Bydd y ffitiadau mewnol yn cynnig y potensial ar gyfer gweithgaredd clwb a grŵp yn yr adeilad mewn amgylchedd cyfforddus a byddant yn cynhyrchu incwm mawr ei angen i'r gymuned yn ystod cyfnod ariannol sydd fel arall yn anodd."
Dwy neuadd gymunedol fawr eu hoffter wedi elwa: Fe ymgeisiodd Neuadd Goffa (Llangrallo) am £45,000 i drwsio to Canolfan Gymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Croesawodd Clerc yr Ymddiriedolwyr, Ms Mabyn Thomas, y grant drwy ddweud: "Mae Neuadd Goffa Williams yn Llangrallo bron yn 100 oed, ac er ei fod wedi gwasanaethu, ac yn parhau i wasanaethu’r gymuned leol yn dda; mae angen ei adnewyddu ar gyfer y dyfodol. Mae'r Ymddiriedolwyr, gyda'r gymuned leol, wedi gweithio'n galed i gael yr arian a bydd y grant hwn yn cael ei ddefnyddio i gwmpasu costau'r prosiect yn llawn, cynnal arolygon a chwiliadau, ymgynghori ymhellach â'r gymuned a bydd yn creu lluniadau a chynlluniau pensaernïol. Yna, gallwn ymgeisio am ganiatâd adeiladu gan y cyngor lleol.
"Bydd hyn yn ein cymryd gam yn nes i ddechrau ar y gwaith adeiladu ac rydym yn ddiolchgar iawn i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sydd wedi gwneud hyn yn bosib. Ar hyn o bryd mae'r neuadd yn cael ei ddefnyddio gan nifer o grwpiau lleol o bob oedran megis Brownies, clybiau crefftau ymladd, grwpiau dawnsio, grwpiau garddio, gweithgareddau eglwys a Sefydliad y Merched lleol, ac mae yna gaffi i breswylwyr hŷn. Rydym yn ymwybodol na ddarperir ar gyfer rhai grwpiau diddordeb ac oedrannau felly rydym am ddiweddaru ac ehangu ein cyfleusterau i'w cynnwys a gwneud defnydd llawn o'r Neuadd i gefnogi ein cymuned ymhellach."
Cafodd £42,300 ei ddyfarnu i Neuadd Gymunedol Merthyr Cynog ger Aberhonddu, maen nhw hefyd yn trwsio'r to. Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, Mrs G Morgan: “Bydd y datblygiad gwych hwn trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn caniatáu inni wneud rhai atgyweiriadau radical hir-ddisgwyliedig i’n canolfan gymunedol. Adnewyddu ein to yw'r man cychwyn a fydd yn ein galluogi i wneud gwelliannau pellach a phrofi ein neuadd yn y dyfodol am genedlaethau i ddod."
Gallwch lawrlwytho ein rhestr lawn o grantiau yma.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru