Pot arbennig o £7.5 miliwn i ddathlu pen-blwydd 25ain y Loteri Genedlaethol
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi heddiw ei fod am wneud pot arbennig o arian werth £7.5 miliwn ar gael i nodi pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25.
Bydd y Gronfa #Dathlu25LoteriGenedlaethol yn helpu cymunedau ddathlu'r effaith anhygoel mae'r Loteri Genedlaethol wedi'i gael ers ei lansiad ym mis Tachwedd 1994. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £40 biliwn wedi ei godi ar gyfer achosion da hyd yn hyn, gan ariannu dros hanner miliwn (565,000) o brosiectau ledled y DU.
Bydd y grantiau #Dathlu25LoteriGenedlaethol yn cefnogi gweithgaredd wedi'i ddylunio at ddod â phobl a chymunedau ynghyd ar draws y DU. Bydd hyd at £2 miliwn yn cael ei wneud ar gael eleni mewn grantiau bach hyd at £1,000. Bydd y gweddill yn cael ei ryddhau i'r sector trwy raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol y Gronfa.
Bydd yn agored i geisiadau yn Tachwedd, gyda manylion pellach ar sut i ymgeisio i ddilyn.
Dywedodd Dawn Austwick, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Am 25 mlynedd, mae'r Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod yn helpu cymunedau i ffynnu. Rydym yn lansio #Dathlu25LoteriGenedlaethol i ddweud pen-blwydd hapus a diolch enfawr i bawb sydd wedi helpu ei wneud yn llwyddiant ysgubol. Mae pobl bob amser wedi bod yn angerddol am eu cymunedau ac mae'r gronfa pen-blwydd arbennig hon yn golygu y gallant ddod â hyd yn oed mwy o syniadau a phrosiectau gwych yn fyw.”
Am fwy o wybodaeth ewch i www.CronfaGymunedolYLG.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig