Cyfarfod agoriadol Panel Cynghori’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd
Yn dilyn lansiad diweddar y Gronfa £100m Gweithredu Hinsawdd, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dod â phanel ymgynghorol ynghyd i gefnogi a herio'r Gronfa wrth iddi ddatblygu'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.
Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal gan fod pobl ledled y byd yn ymuno trwy fentrau fel y Streiciau Hinsawdd Byd-eang, Diwrnod Iechyd yr Amgylchedd y Byd ar 26ain Medi ac wrth i'r DU nodi Wythnos Ailgylchu (23- 28 Medi).
Mae gan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd uchelgais feiddgar i adeiladu rhwydwaith o bobl a chymunedau i ysgogi newid a fydd yn y pen draw yn lleihau allyriadau carbon yn y cymunedau hyn a thu hwnt. Bydd y gronfa'n cefnogi pobl a chymunedau i weithredu, dod at ei gilydd fel bod gweithredu lleol yn cael ei gefnogi gan newid ehangach, ac yn ei dro yn ei orfodi.
Daw'r panel cynghori o etholaeth eang gan gynnwys gweithredwyr hinsawdd ifanc, academyddion, arianwyr, grwpiau cymunedol ac amgylcheddol. Byddent yn cefnogi Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol trwy rannu eu profiad a'u harbenigedd, ac archwilio ffyrdd i gysylltu ac adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd.
Dywedodd Dawn Austwick, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Dyma gam arall ymlaen yn ein taith gweithredu yn yr hinsawdd yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rydym yn falch iawn o allu galw ar unigolion talentog ymroddedig i'n helpu wrth i ni adeiladu ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd gwerth £100m i helpu cymunedau i weithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac i adeiladu momentwm cymunedol ledled y DU. Diolch i Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol rydym yn gobeithio gwneud cyfraniad parhaus i fynd i’r afael â bygythiad newid yn yr hinsawdd i gymunedau.”
Dyma Aelodau'r panel cynghori, a gafodd eu cyfarfod cyntaf yr wythnos diwethaf:
- Tony Burton, Cadeirydd Panel Cynghori’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd ac Is-gadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Maria Adebowale-Schwarte, Cyfarwyddwr Gweithredol Foundation for Future London
- Xavier Brice, Prif Swyddog Gweithredol Sustrans
- Sepi Golzari-Munro, Dirprwy Gyfarwyddwr yn yr Uned Ynni a Gwybodaeth Hinsawdd
- Ummi Hoque, myfyriwr actifydd hinsawdd
- Noga Levy-Rapoport, myfyriwr actifydd hinsawdd
- Caroline Mason, Prif Swyddog Gweithredol Esmee Fairbairn
- Dr Afsheen Rashid MBE, Prif Swyddog Gweithrediadau yn Repowering London
- Trewin Restorick, Prif Swyddog Gweithredol Hubub
- Derek Robertson, Prif Weithredwr Keep Scotland Beautiful
- Beccy Speight, Prif Swyddog Gweithredol RSPB
- Yr Athro Rebecca Willis, ffocws ymchwil polisi amgylchedd, hinsawdd ac ynni
Dywedodd Tony Burton, Cadeirydd Panel Cynghori’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd “Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn rhoi cyfle i gymunedau ledled y DU wneud gwahaniaeth ac adeiladu rhwydwaith i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rydym yn falch iawn o gael grŵp mor dalentog ac amrywiol o gynghorwyr i sicrhau ein bod yn cael effaith barhaol lle mae bwysicaf.”
Ar hyn o bryd mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr gweithgaredd cymunedol mwyaf y DU, yn casglu gwybodaeth am yr hyn y mae prosiectau gweithredu yn yr hinsawdd a arweinir gan y gymuned eisoes yn ei wneud neu'n cael ei ddatblygu ledled y DU, fel rhan o'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd. Bydd ceisiadau am y gronfa yn agor yn Hydref 2019.
Am fwy o wybodaeth, ewch i:
https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/programmes/climate-action-fund
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig