£850,000 o arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi plant wedi’u heffeithio gan drawma
Mae elusen iechyd meddwl plant, Sefydliad Anna Freud, wedi derbyn £850,000 o arian y Loteri Genedlaethol i helpu gwella sut mae sectorau a chymunedau yn deall ac yn ymateb i effaith trawma ar blant.
Bydd yr arian yn mynd tuag at ddatblygu Cyngor Trawma'r DU, a fydd yn awdurdodi gweithwyr proffesiynol a chymunedau lleol i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n agored i wahanol fathau o ddigwyddiadau trawmatig - gan gynnwys digwyddiadau unigol yn ogystal â ffyrdd mwy cymhleth, cronig o drawma megis camdriniaeth ac esgeulustod. Bydd yn blatfform i gydweithio a rhannu arfer gorau, ymgorffori dysgu, hyfforddi ac ymarfer i o bosibl drawsnewid yr help y mae plant yn ei gael yn dilyn trawma.
Bydd y grant newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol - ariannwr gweithgareddau cymunedol mwyaf y DU - yn galluogi'r datblygiad o'r cyfleusterau ac arweiniad gall helpu teuluoedd, ysgolion a gweithwyr proffesiynol; darparu canolfan ar gyfer hyfforddiant, dysgu ac arweiniad polisi; ac ymgynnull Cyngor Trawma Pobl Ifanc.
Bydd Cyngor Trawma’r DU yn cael ei gadeirio gan y cyd-gyfarwyddwyr, yr Athro Eamon McCrory a David Trickey, sy'n arbenigwyr ar drawma plentyndod a'i effaith drwy oes.
Dywedodd David Trickey, sydd hefyd yn Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol sy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth Trawma a Cham-drin Arbenigol yng Nghanolfan Anna Freud: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi penderfynu ariannu Cyngor Trawma’r DU.
“Mae dros hanner y bobl ifanc yn profi digwyddiadau a allai fod yn drawmatig yn ystod plentyndod, a all gael effaith ddinistriol ar ganlyniadau iechyd a chymdeithasol tymor hir.
“Gyda’r arian hyn, byddwn yn gallu awdurdodi gweithwyr proffesiynol a chymunedau lleol trwy ddarparu adnoddau, arweiniad a hyfforddiant i ddeall pob math o drawma yn well, adnabod yr arwyddion a’r symptomau, a lleihau’r effaith negyddol ar iechyd meddwl tymor hir. Bydd Cyngor Trawma'r DU yn trawsnewid ansawdd y gefnogaeth sydd ar gael i gannoedd o filoedd o blant a phobl ifanc pe byddent yn profi trawma."
Er gwaethaf y rôl hanfodol y mae trawma yn ei chwarae yn natblygiad problemau iechyd meddwl, ar hyn o bryd nid oes platfform i hwyluso cydweithredu, cyfathrebu a dysgu ar draws cymunedau, mudiadau ac unigolion sy'n meddu ar arbenigedd yn y maes hwn neu sydd â dysg i'w rannu trwy brofiad.
Gwnaeth ymchwil annibynnol a gomisiynwyd gan Ganolfan Anna Freud arolwg o dros 1000 o weithwyr proffesiynol a chanfod bod mwy na 90% yn 'gefnogol' neu'n 'gefnogol iawn' i greu rhwydwaith ledled y DU sy'n gysylltiedig â thrawma mewn plant a phobl ifanc, a dywedodd mwy na 90% y byddent yn 'debygol' neu'n 'debygol iawn' o ddefnyddio rhwydwaith o'r fath.
Tynnodd yr ymchwil hon sylw hefyd at alw gan weithwyr addysg broffesiynol a nododd eu bod yn dod i gysylltiad yn rheolaidd â phlant a brofodd drawma ond nad ydynt yn derbyn llawer o hyfforddiant a chefnogaeth.
Dywedodd Joe Ferns, Cyfarwyddwr y DU yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl plant yn gallu cydweithredu’n fwy effeithiol â gwahanol sectorau a chymunedau - gan harneisio arbenigedd a phrofiad ar y cyd i wella’r ddealltwriaeth a’r rheolaeth o drawma plentyndod. ”
Y llynedd, dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros hanner biliwn o bunnoedd (£511.1 miliwn) o arian newid bywyd i gymunedau ledled y DU a chefnogodd dros 12,000 o brosiectau i droi eu syniadau gwych yn realiti.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig