Syrpréis yn y Senedd i Dr M'z yn Nigwyddiad Dathlu 25ain y Loteri Genedlaethol
Syrpréis yn y Senedd i Dr M'z yn Nigwyddiad Dathlu 25ain y Loteri Genedlaethol
Cafodd Clwb Ieuenctid Dr M'z, sy'n cael ei redeg gan Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin, syrpréis mawr o flaen ACau. Roedd un o 25 prosiect a wahoddwyd i'r Senedd yr amser cinio hwn i ddathlu 25 mlynedd o grantiau'r Loteri Genedlaethol, Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin, wedi ymateb â syndod pan gawsant eu galw ar y llwyfan gan John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Fe gymeradwyodd ACau wrth i reolwr y prosiect, Gayle Harris, a'i thîm ymateb gyda syrpréis a hapusrwydd i'r newyddion bod eu cais am grant o £209,307 wedi'i gymeradwyo.
Bydd Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin yn defnyddio’r arian i adeiladu ar eu gwaith i ddatblygu’r ganolfan, a elwir yn Dr M’z, sydd yn helpu dros 400 o bobl ifanc bob blwyddyn. Byddent nawr yn creu gardd gymunedol ac yn rhoi gweithdai ar dyfu a choginio llysiau.
Wrth gyfarch y newyddion, dywedodd Gayle o Dr M’z
“Pan ddaethon ni yma heddiw doedd gennym ni ddim syniad bod syrpréis mawr ar y gweill i ni, roedden ni'n meddwl ein bod ni wedi dod draw i siarad am yr holl waith gwych rydyn ni wedi'i wneud ac i gyflwyno rhai o'r bobl ifanc o Gaerfyrddin. Mae'n wych eu bod wedi cael cyfle i fod yma a sylweddoli y byddant yn elwa'n uniongyrchol o'r grant hwn - ni allwn aros i ddechrau. ”
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru:
“Roedd yn fraint cael rhannu cyffro a llawenydd Dr M'z pan sylweddolon nhw fod eu holl waith caled wedi talu ar ei ganfed ac y byddan nhw'n cael y grant, rwy'n meddwl bod yr ACau yn eithaf emosiynol wrth weld faint roedd yn ei olygu iddyn nhw heddiw.
"Mae lansiad y Senedd heddiw 'n ddathliad o 25 mlynedd o ddosbarthu grantiau Loteri Genedlaethol i gymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae'r 25 prosiect a ddaeth yn gynrychiadol o filoedd o brosiectau eraill. Maent yn cynrychioli amrywiaeth a chreadigrwydd pobl a chymunedau ledled Cymru.
“Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ac ymrwymiad y llu o wirfoddolwyr sy’n gwneud ein cymunedau’n lle gwell i fyw.”
Daeth staff, gwirfoddolwyr a phobl a oedd wedi gwella eu bywydau o 25 sefydliad gwahanol i mewn o bob rhan o Gymru i adrodd eu stori, gydag un sefydliad ar gyfer pob blwyddyn er 1994. Rhoddodd arddangosfa ffotograffig flas ar yr hyn sy'n digwydd ym mhob un o'r prosiectau heddiw. Disgrifiodd Emily Hillier-Rees yr effaith a gafodd y grantiau yn Y Bont, y Ganolfan Adnoddau ar gyfer plant ag anableddau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac i gloi'r digwyddiad canodd Côr Cancr Tenovus gwpl o ganeuon. Ers 1995, mae 11,500 o grwpiau cymunedol yng Nghymru wedi derbyn £973.5 miliwn werth o grantiau y Loteri Genedlaethol
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wrth y cyfranogwyr a'r ACau:
"Mae'n bleser croesawu cynrychiolwyr o 25 prosiect o 25 etholaeth wahanol i ddangos effaith anhygoel buddsoddiad y Loteri Genedlaethol ar gymunedau ledled Cymru. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae'r Loteri Genedlaethol wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau pobl yng Nghymru. Mae felly yn addas iawn ein bod eleni yn dathlu'r cyfraniad gwych mae'r Loteri Genedlaethol wedi ei wneud, a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy'n cyfrannu miloedd o bunnoedd bob wythnos tuag at brosiectau anhygoel ledled Cymru."
Carmarthen Youth Project Dr M'z Celebrating the news of their grant
Dr M'z on stage with Director Wales and Tenovus choir
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru