Yr arlunydd byd-enwog, David Mach, yn dadorchuddio gwaith celf newydd i ddathlu effaith y Loteri Genedlaethol dros 25 mlynedd
I nodi dechrau dathliadau pen-blwydd 25ain y Loteri Genedlaethol, mae'r arlunydd byd enwog, David Mach, wedi dadorchuddio ei ddarn o waith celf ddiweddaraf yn y lleoedd mwyaf annhebygol, siop bapurau ym Manceinion.
Mae'r darn o'r enw, United by Numbers: The National Lottery at 25 yn cynnwys cymysgedd o drysorau cenedlaethol enwog a llai adnabyddus gan gynnwys pobl, lleoedd, prosiectau ac eiconau sydd wedi bod yn rhan o bethau rhyfeddol a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol. Fe'u dygwyd ynghyd mewn un ddelwedd eiconig i gynrychioli effaith anhygoel y Loteri Genedlaethol ar fywydau yn y DU dros y 25 mlynedd diwethaf - ar draws prosiectau chwaraeon, ffilm, treftadaeth, y celfyddydau a chymuned.
O Fand Pres Morecambe, un o'r prosiectau cyntaf erioed i dderbyn arian y Loteri Genedlaethol; i Idris Elba, Llywodraethwr Sefydliad Ffilm Prydain a ariennir gan y Loteri Genedlaethol; i Tracey Emin, Rio Ferdinand, y Fonesig Tanni Grey-Thompson, Betty Webb, torrwr còd o'r Ail Ryfel Byd o Barc Bletchley a mwy.
Mae'r lein-yp trawiadol hefyd yn ymddangos yn erbyn cefndir o leoliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys Y Kelpies, Jodrell Bank, Stadiwm y Principality a Giant’s Causeway, a gyfansoddwyd yn arddull llofnod David Mach. Mae gan yr holl unigolion a lleoedd hyn un peth yn gyffredin: Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cael effaith gadarnhaol ar bob un ohonynt dros y 25 mlynedd diwethaf. Gellir cyrchu fersiwn ryngweithiol yma: www.unitedbynumbers.co.uk
Dros y chwe wythnos nesaf (14eg Hydref - 6ed Rhagfyr), bydd y Loteri Genedlaethol yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed. Bydd y dathliadau pen-blwydd yn arddangos yr effaith gadarnhaol y mae arian y Loteri Genedlaethol wedi'i chael ar gymunedau ledled y DU. O adeiladu cymunedau lleol i ddiogelu'r amgylchedd a gofalu am yr henoed yn ogystal â chefnogi prosiectau ieuenctid, mae arian y Loteri Genedlaethol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ledled y DU.
Dywedodd Dawn Austwick, Cadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol: “Ers i’r Loteri Genedlaethol lansio yn 1994 mae wedi newid bywydau ledled y DU, gan helpu pobl a lleoedd i ffynnu. Mae'r ystod o bobl - o'r celfyddydau, treftadaeth, elusennau, cymuned a chwaraeon - sydd i'w gweld yn y ddelwedd eiconig hon yn dangos pa mor fawr yw rhan o wead bywyd Y Loteri Genedlaethol.”
Darganfyddwch yr effaith gadarnhaol y mae chwarae'r Loteri Genedlaethol wedi'i chael ar eich cymuned dros y 25 mlynedd diwethaf trwy ymweld â https://www.lotterygoodcauses.org.uk/cy a chymryd rhan trwy ddefnyddio'r hashnod 25ain: #LoteriGenedlaethol25
Allwedd i'r llun (o dop y chwith i waelod y dde)
1 | The Kelpies | Dyluniwyd cerfluniau ceffylau mwyaf y byd ym mharc Helix y Falkirk gan Alex Scott a'u hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. |
2 | Katerina Johnson-Thompson a Dina Asher Smith | Enillwyr medal Aur fel rhan o Dîm y DU i Bencampwriaethau Athletau 'r Byd, a gefnogir gan arian y Loteri Genedlaethol trwy UK SPORT. |
3 | Courtney Cooper | Mae Courtney o Glwb Bocsio Monkstown yng Ngogledd Iwerddon, lle mae eu prosiect #INYOURCORNER yn helpu gwella iechyd, lles a chyflogadwyedd pobl ifanc yn yr ardal, gydag arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. |
4 | Y Fonesig Tanni Grey-Thompson | Un o'r athletwyr gorau erioed, ac enillydd o 11 o fedalau Paralympaidd Aur, ac wedi derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol yn ystod ei gyrfa. |
5 | Prosiect Cŵn Dementia | Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi'r Prosiect Cŵn Dementia, sy'n helpu'r rheini sy'n gofalu am eu hanwyliaid gyda dementia cynnar gan ddarparu cŵn cymorth yn Yr Alban. |
6 | The Hendrix Flat | Roedd fflat y gitarydd roc arwrol yn 23 Brook Street, Llundain wedi'i adfer yn barhaol, diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2014. |
7 | James Nesbitt | Seren y ffilm Bloody Sunday, noddwr WAVE Trauma, Action Cancer a Big Telly Company; a Changhellor Prifysgol Ulster - oll yn dderbynwyr arian y Loteri Genedlaethol. |
8 | Syr Chris Hoy a Victoria Pendleton | Olympiaid a enillodd fedal aur, y daeth eu gyrfaoedd i ben yn Llundain 2012; y gemau na fyddai'n bosibl heb arian y Loteri Genedlaethol. |
9 | Band Pres Morecombe | Un o'r prosiectau cyntaf erioed i dderbyn grant gan y Loteri Genedlaethol yn ôl yn 1994. Cafodd y band ei sefydlu gan Bernard Vause ac mae'r band yn parhau i sefyll hyd heddiw. |
10 | Syr Tim Smit | Sefydlydd y poblogaidd Prosiect Eden a'r Cinio Mawr, lle mae'r ddau wedi'u gwneud yn bosibl diolch i arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. |
11 | Giant’s Causeway | Fe gefnogodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yr adeiladu o Ganolfan Ymweld yn Giant's Causeway, sy'n darparu golygfa anhygoel o dirlun a chyfleusterau’r Arfordir Gogleddol. |
12 | Ray a Barbara Wragg | Ar ôl ennill £7.6 miliwn ar y Loteri Genedlaethol, mae Ray a Barbara Wragg yn rhai o'r enillwyr mwyaf hael wedi iddynt roi £5.5 miliwn i ffwrdd, yn bennaf i elusennau yn Sheffield. |
13 | Milwyr ‘We’re Here Because We’re Here’ (hefyd ym mhen draw'r dde) | Gwelodd y gwaith celf hwn, wedi'i ddyfeisio gan Jeremy Deller ac wedi'i ariannu'n bennaf gan y Loteri Genedlaethol, 1,400 o wirfoddolwyr wedi gwisgo mewn gwisg Rhyfel Byd Cyntaf yn ymddangos mewn lleoliadau ledled y DU ar y 1af o Orffennaf 2016 i ddathlu 100 mlwydd ers Brwydr y Somme. |
14 | Tracey Emin | Mae gwaith celf Tracey Emin wedi ei arddangos mewn galerïau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ledled y wlad, gan gynnwys yng Ngaleri Turner Contemporary Art yn ei thref enedigol o Margate. |
15 | Gurinder Chadha | Cyfarwyddwr ffilm Saesneg, lle mae ei ffilm 'Bend it Like Beckham' wedi dod yn un o ffilmiau mwyaf poblogaidd y DU ac yn un enghraifft o'r ffilmiau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol drwy Sefydliad Ffilm Prydain. |
16 | Jodrell Bank | Wedi'i gefnogi gan Gronfa Treftadaeth Y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect First Light yn diogelu treftadaeth Jodrell Bank i genedlaethau'r dyfodol. |
17 | Edna Smith | Gwirfoddolwr am 15 mlynedd gyda'r elusen Home-start, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Mae Edna wedi helpu cannoedd o deuluoedd wella o iselder ôl-enedigol. |
18 | Ewan McGregor | Actor oedd yn Trainspotting 2, un o'r cynyrchiadau cyntaf i elwa o Gronfa Creative Scotland's Production Growth, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. |
19 | Rio Ferdinand | Pyndit a cyn pêl-droediwr Lloegr lle mae ei 'Rio Ferdinand Foundation' wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. |
20 | Suffragettes | Mae'r Loteri Genedlaethol wedi cefnogi prosiectau ledled y wlad yn archwilio'r hanes o'r symudiad swffragét, gan gynnwys y ffilm 2015, Suffragette; gwaith celf The Face of Suffrage a phrosiect East End Suffragettes. |
21 | Idris Elba | Actor gwobrwyedig, cyfarwyddwr a llywodraethwr i'r BFI. Gyda help arian y Loteri Genedlaethol, fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel cyfarwyddwr yn 2018 gydag Yardie. |
22 | Betty Webb | Mae Betty yn ddynes 96 oed o Bletchley Park. Yn 2011, fe helpodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol adfer y cytiau darfodus lle roedd Betty a thorwyr cod eraill yn gweithio. |
23 | Stadiwm Principality | Cyn Cwpan Rygbi'r Byd 1999, cafodd arian y Loteri Genedlaethol ei sicrhau i adeiladu stadiwm eiconig Caerdydd. |
24 | Paul Sinton-Hewitt | Sefydlydd parkrun, y rhediadau 5k wythnosol am ddim, sy'n cael ei fwynhau gan dros 2 filiwn o bobl ledled y DU. Mae parkrun yn derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol drwy Sport England, Chwaraeon Cymru, sportscotland, Sport Northern Ireland ac UK SPORT. |
25 | Krystal Lowe | Dawnswraig i Ballet Cymru, a dderbyniwyd arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru a alluogodd iddynt ehangu ei gyrhaeddiad i gymunedau lleol. |
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig