'Tea Tyne': Scarlett Moffatt Yn Cynnal Parti Record Byd Te A Sgon I Ddathlu Pen-Blwydd 25ain Y Loteri Genedlaethol
Heddiw, cynhaliodd y bersonoliaeth teledu, Scarlett Moffatt, ymgais record byd blasus (Dydd Mercher 23 Hydref). Ymunodd â 1,054 o bobl o bob rhan o'r DU wrth iddynt geisio gwneud eu ffordd i enwogrwydd Guinness World RecordsTM trwy gymryd rhan yn y parti te hufen mwyaf.
Gwelodd Scarlett yn dychwelyd i'w gwreiddiau yn y Gogledd Ddwyrain, lle roedd amryw o bobl yn ymuno â hi gyda'r bwriad o dorri record a chael hwyl.
Roedd hyn yn cynnwys bws llawn o bobl hŷn o Glasgow a wnaeth y siwrne i gefnogi'r ymgais a chyfarfod ffrindiau newydd.
Roeddent wedi eu hymuno â phobl o Gymru a Gogledd Iwerddon, ynghyd â nifer o rai eraill o grwpiau cymunedol a phrosiectau sydd wedi derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol dros y blynyddoedd.
Roedd yr arbenigedd moesau William Hanson wrth law i helpu datrys y ddadl fawr ynglŷn te a sgon - jam cyn hufen, llaeth cyn y te neu fel arall?
Cafodd y record byd blaenorol ei osod mis Gorffennaf llynedd, gyda 978 o bobl yn mynychu.
Dywedodd Scarlett Moffatt: “Yma yn y Gogledd Ddwyrain rydyn ni'n adnabyddus am ein hysbryd cymunedol - ac rydyn ni wrth ein boddau a pharti - ond yr hyn a ddangosodd i mi heddiw yw pan fydd pobl yn dod at ei gilydd, mae pethau gwych yn digwydd.
"Mae gan bawb yma heddiw stori i'w ddweud am y pethau gwych maen nhw ac eraill yn ei wneud yn eu cymunedau gyda help arian y Loteri Genedlaethol, ac roedd yn bleser bod yn rhan ohono."
Un o'r gwesteion oedd Betty McDonald, 82 o'r Ganolfan Hŷn, Castlemilk, Glasgow. Meddai: Rydym wedi derbyn cefnogaeth wych gan y Loteri Genedlaethol, felly pan glywsom am yr ymgais torri record byd roeddem yn awyddus i gymryd rhan. Roedd dros 50 o bobl o fy ngrŵp cymunedol wedi dod gyda mi heddiw ac fe gawsom amser gwych. Nid ydym eisiau cael ar y bws i fynd adref!"
Mae'r Ganolfan Hŷn yng Nglasgow wedi derbyn dros £245,000 o arian y Loteri Genedlaethol, ac mae Betty yn mynychu o leiaf tair gwaith yr wythnos. Mae hi'n cymryd mantais lwyr o'r dosbarthiadau celf ac ymarfer corff sy'n cael ei gynnig, yn ogystal â'r prydau a weinir yn y caffi.
Ond yn bwysicach oll, mae hi'n dweud fod y Ganolfan Hŷn yn le i gyfarfod ffrindiau a mwynhau ei hun. Ychwanegai Betty:
"Wedi i'm gŵr farw, mi faswn wedi bod yn enciliwr oni bai am y Ganolfan yma. Mae'n wych. Mae rhywbeth i bawb - unrhyw ddosbarth rydych chi eisiau, byddent yn ei drefnu.”
Dywedodd Dawn Austwick, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: Roedd y parti te a sgon heddiw am ddod â phobl a chymunedau ynghyd - rhywbeth mae'r Loteri Genedlaethol wedi bod yn ei wneud am 25 mlynedd. Rydym wrth ein boddau bod pobl wedi ymuno gyda ni o ledled y DU i eistedd gyda'n gilydd, siarad a gwneud ffrindiau dros baned o de a sgon. Mae'n weithred syml, ond gall wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl."
Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae'r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi £1.1 biliwn mewn i leoedd sy'n dod â phobl ynghyd megis parciau lleolo, neuaddau pentref, canolfannau cymunedol a llawer mwy. Blwyddyn ddiwethaf yn unig, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, cafodd £52.5 miliwn ei rannu gyda 1,445 o ofodau cymunedol.
Mae'r Loteri Genedlaethol hefyd yn ariannu'r Cinio Mawr, sy'n ddigwyddiad blynyddol ar draws y DU sy'n dod a phobl a chymunedau ynghyd dros y penwythnos cyntaf ym Mehefin. Mae oddeutu 6 miliwn o bobl yn cymryd rhan yn y Cinio Mawr bob blwyddyn.
Trwy ariannu mudiadau llawr gwlad, neuaddau pentref, clybiau ieuenctid a chanolfannau cymunedol, mae'r Loteri Genedlaethol wedi bod yn sylfaen i fywyd cymunedol yn y DU. Mae'r rhan fwyaf o grantiau Loteri Genedlaethol (70 y cant) am £10,000 neu lai, gan helpu prosiectau bach wneud gwahaniaeth mawr yn eu cymuned.
Mae awgrymiadau William ar gyfer y parti te a sgon gorau yn cynnwys1:
- Yn draddodiadol, mae sgons wedi'u torri'n ofalus mewn dau gyda'r dwylo, yn hytrach na defnyddio cyllell i dorri i mewn iddynt.
- Bysedd bach mewn! Nid yfed gyda'ch bys lleiaf yn estynedig yw’r 'peth i’w wneud' mewn gwirionedd, ac nid yw'n gyffyrddus iawn!
- Rhaid cynnig te a sgon i'ch cymdogion wrth y bwrdd bwyd cyn i chi helpu eich hunain. Mae moesau da yn ymwneud â rhoi eraill o flaen ein hunain.
Wrth sôn am awgrymiadau moesau te prynhawn, dywedodd Scarlett:
“Mae wedi bod yn ddoniol iawn i ddysgu am foesau te prynhawn a rhannu ein quirks bach a'n traddodiadau ynglŷn â sut rydyn ni i gyd yn mwynhau te prynhawn o ble rydyn ni'n dod. Ond yn y pen draw, nid oes ots o le rydych yn dod neu sut rydych yn hoffi eich te a sgon, mae'n ymwneud â dod â phobl ynghyd!”
Darganfyddwch yr effaith gadarnhaol y mae chwarae'r Loteri Genedlaethol wedi'i chael ar eich cymuned dros y 25 mlynedd diwethaf trwy ymweld â https://www.lotterygoodcauses.... a chymryd rhan trwy ddefnyddio'r hashnod 25ain: #LoteriGenedlaethol25.
Ffeithiau moesau te a sgon - gan yr arbenigwr moesau blaenllaw William Hanson
- Yfed te ar fwrdd bwyd arferol? Nid oes angen pigo'r soser, oni bai eich bod gwirioneddol eisiau. Bydd y cwpan yn unig yn iawn. Ond yfed te ar fwrdd coffi isel neu'n sefyll fyny? Gall helpu dal y soser ar uchder y frest.
- Llaeth ac yna te neu de ac yna llaeth? Mae'n well i dywallt ychydig o de i gwpan gwag gyntaf i chi gael gweld pa mor gryf(neu ddim) yw'r te. Byddai gwesteiwyr fel arfer yn caniatáu i'w gwesteion ychwanegu llaeth, siwgr neu lemwn at eu dewis eu hunain.
- Os ydych wedi ychwanegu siwgr, nid y ffordd orau o droi'r te yw mewn cylch, ond yn hytrach yn ôl ac ymlaen. Mae hyn yn toddi'r siwgr yn gyflymach na mynd rownd mewn cylchoedd.
- Yn draddodiadol, mae sgons wedi'u torri'n ofalus mewn dau gyda'r dwylo, yn hytrach na defnyddio cyllell i dorri i mewn iddynt.
- Pa un yn gyntaf? Hufen neu jam? Yr ateb yw.. oni bai eich bod.
- Bysedd bach mewn! Nid yfed gyda'ch bys lleiaf yn estynedig yw’r 'peth i’w wneud’ mewn gwirionedd, ac nid yw'n gyffyrddus iawn!
- Roedd sgonau arfer a bod yn faterion sawrus, wedi'u griddlo a'u torri'n drionglau - yn wahanol iawn i'r cynhyrchion crwn, melys ac wedi'u phobi sydd gennym heddiw. Nid oes unrhyw un yn gwybod ai’r Saeson, yr Albanwyr neu’r Gwyddelod a’u dyfeisiodd ond mae’r sôn printiedig cyntaf amdanynt yn dyddio’n ôl i gerdd Albanaidd o 1513.
- Rhaid cynnig te a sgon i'ch cymdogion wrth y bwrdd bwyd cyn i chi helpu eich hunain. Mae moesau da yn ymwneud â rhoi eraill o flaen ein hunain.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig