Argyfwng Hinsawdd: Traean o bobl yn y DU yn dweud bod gan gweithrediad cymunedol rôl i’w chwarae yn 2020
- Mae pobl ledled y DU yn dweud y byddent yn gwneud newidiadau yn 2020 i helpu’r amgylchedd
- Mae 1 ym mhob 3[1] yn dweud bod gan gymunedau rôl i’w chwarae wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd
- Mae nifer o bobl ledled y DU yn bwriadu ymuno mewn gweithgareddau amgylcheddol cymunedol
Mae tri chwarter o bobl[2] y DU (75%) yn dweud bydd yr amgylchedd yn bwysig iddynt yn 2020, mae arolwg newydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ei ddatgelu.
Wrth i bobl osod eu Haddunedau Blwyddyn Newydd, mae mwy na thri ym mhob pump (65%) [3] yn cytuno os yw pawb yn gwneud newidiadau bach, gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd. Yn 2020, mae pobl yn dweud y byddent yn; lleihau nifer y plastig a ddefnyddir (50%) [4], ailgylchu mwy (49%)[4] a’n torri lawr ar wastraff bwyd a’n cynyddu defnydd o rannu bwyd (37%) [4].
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: Mae pobl yn gwybod am newid hinsawdd a’r effaith mae eisoes yn ei gael yn y byd. Ond nawr rydym yn gweld bod pobl yn adnabod y rôl sydd gan gymunedau i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r her ar lefel lleol, gydag un ym mhob tri pherson [1] yn ein harolwg yn cadarnhau hyn.”
Yn ychwanegol i bobl yn gwneud newidiadau yn eu ffordd o fyw yn 2020, megis newid arferion bwyd (28%) [4] ac arferion prynu (25%) [4], mae mwy nag un ym mhob deg (15%) [4] yn bwriadu ymuno mewn gweithgareddau amgylcheddol cymunedol, megis pigo ysbwriel, plannu coed a glanhau traethau.
“Fel ariannwr mwyaf gweithgareddau cymunedol yn y DU” ychwanegodd John Rose, “rydym yn gwybod bod gweithrediad lleol nid yn unig yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd, ond mae hefyd yn cynnig digon o fuddion eraill gall pobl a chymunedau fedi i’w helpu i ffynnu. Dyna pam mae’n wych gweld bod pobl yn awyddus i gymryd rhan yn lleol yn 2020.”
Mae’r arolwg yn dangos fod rhai pobl eisoes yn ymwybodol o’r buddion sydd mewn cymryd rhan yn gymunedol, gan gynnwys dod â’r gymuned ynghyd (49%) [5], gwneud cyfeillgarwch a chysylltiadau newydd (42%) [5] a gwell lles meddyliol a chorfforol ymysg cyfranogwyr (40%) [5].
Mae’r holl fuddion yn cael ei weld yng Ngardd Gymunedol Wibsey yn Bradford.
Yn cael ei redeg gan Brosiect Amgylcheddol Cymunedol Bradford, mae’r gardd yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau cartref, yn ogystal â datblygu gofodau bywyd gwyllt a pherllan newydd, diolch i grant bach, ond hanfodol o £9,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd Leigham Harford, gwirfoddolwr yng Ngardd Gymunedol Wibsey: “Fy adduned ar gyfer 2020 yw i geisio cael mwy o bobl ifanc fel fi o’r ardal i ddod a gwirfoddoli yn y gerddi. Mae gwirfoddoli yn gwneud imi deimlo’n dda a’n gwneud i mi deimlo fel fy mod yn rhoi rhywbeth yn ôl i fy nghymuned.”
Mae Our Bright Future, sy’n rhaglen £33 miliwn a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac arweinir gan The Wildlife Trusts, yn enghraifft arall o arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi gweithrediad amgylcheddol mewn cymunedau ledled y DU. Wedi’i ffurfio o 31 prosiect ledled y DU, gan gynnwys BBE You in Liverpool a From Farm to Fork, mae wedi ymgysylltu dros 100,000 o bobl ifanc yn y tair blynedd diwethaf i helpu eu hamgylchedd lleol.
Fel rhan o Strategaeth Amgylcheddol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, fe lansiodd y Gronfa Cronfa Gweithredu Hinsawdd £100 miliwn a fydd yn galluogi pobl a chymunedau i arwain wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hefyd yn archwilio ffyrdd o gefnogi mudiadau gwirfoddol a chymunedol i leddfu eu heffaith ar yr hinsawdd, er enghraifft drwy ei gynllun Ychwanegiad Gweithredu Hinsawdd sy’n cael ei dreialu yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth ac arweiniad newydd.
Mae Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych yn un o’r grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y cynllun Ychwanegiad Gweithredu Hinsawdd.
Dywedodd Margaret Sutherland o’r bartneriaeth gymunedol: “Rydym yn falch o fod yn rhan o fenter Ychwanegiad Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sydd wedi ein galluogi i osod 24 panel solar ar ein canolfan gymunedol. Mae hyn yn ein helpu i leihau ein allyriadau carbon, ond hefyd yn ein harbed ar filiau ynni, sy’n ei wneud yn dda i fusnes.”
Mae cymunedau ledled y DU yn cael eu hannog i ddarganfod mwy a chael eu hysbrydoli i weithredu’n amgylcheddol trwy ymweld â
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig