Cymru'n mynd yn wyrdd diolch i £300,000 gan y Loteri Genedlaethol
Mae 29 o grwpiau ledled Cymru wedi derbyn grantiau gwerth cyfanswm o £295,952 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i wneud gwelliannau bach yn eu cymunedau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae'r grantiau'n rhan o beilot yng Nghymru i gefnogi prosiectau presennol y Loteri Genedlaethol i weithredu yn eu cymunedau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Bydd y gwaith a fydd yn cael ei wneud gan gymunedau trwy'r peilot yn dylanwadu ar sut mae'r Gronfa'n gweithio'n ehangach ledled y DU yn y dyfodol.
Y llynedd, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei bod yn ymrwymo £100 miliwn dros 10 mlynedd i gefnogi cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae'r grantiau yn bosibl diolch i'r tocynnau a brynir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Am restr lawn o grantiau a ddyfarnwyd, cliciwch yma.
Derbyniodd grwpiau cymunedol gefnogaeth gan Adfywio Cymru a Chymunedau Cynaliadwy Cymru i nodi pa gamau newid hinsawdd y dylent eu cymryd a pha effaith gadarnhaol y gallai hyn ei chael. Mae Adfywio Cymru yn raglen sy'n helpu cymunedau yng Nghymru i leihau eu hôl troed carbon, addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd a byw'n fwy cynaliadwy. Mae Cymunedau Cynaliadwy Cymru yn helpu cymunedau ar draws y wlad i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy weithio gyda mudiadau cymunedol i wella effeithlonrwydd ynni eu hadeiladau.
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru: “Mae pobl yn deall yr effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael ar ein cymunedau. Mae'r peilot Ychwanegol Newid Hinsawdd yn rhan o'n hymrwymiad i gefnogi pobl a chymunedau i wneud y newidiadau bach lle maen nhw'n byw i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.
“Fel yr ariannwr mwyaf o weithgaredd cymunedol yn y DU rydym yn gwybod bod gweithredu lleol nid yn unig yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd, ond hefyd yn cynnig digon o fuddion eraill i bobl a chymunedau. Dyna pam ei bod yn wych eu gweld yn ffynnu diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. ”
Mae Siop Griffiths Cyf yng Ngwynedd yn un prosiect sy'n derbyn grant. Byddant yn defnyddio £10,000 tuag at osod paneli ffotofoltäig solar a monitor ynni gydag arddangosfa gyhoeddus i wella effeithlonrwydd ynni eu hadeilad.
Wrth groesawu’r grant, dywedodd Ben Gregory, Ysgifennydd Siop Griffiths Cyf: “Rydym yn credu ein bod un o'r mudiadau cymunedol gyntaf yng Ngogledd Cymru sydd wedi cael PVs a batris fel pecyn. Nid yn unig bydd y grant yn helpu lleihau ein defnydd trydan i fyny i 90 y cant yn ein Canolfan Ddigidol, ond bydd hi'n cyfle i fudiadau eraill i weld y buddion o ddefnyddio batris gyda PVs fel ffordd o leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, a gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd."
Bydd Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn defnyddio £10,000 tuag at weithio gyda Grŵp Gweithredu Cymunedol Lixwm i ddatblygu perllan gymunedol gyda'r nod o'i defnyddio i gynnal gweithgareddau a fydd yn annog ffyrdd o fyw mwy cynaliadwy ac eco-gyfeillgar.
Dywedodd Anna Prysor Jones o Menter Iaith Fflint a Wrecsam: "Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn yr ychwanegiad hyn fydd ein galluogi i gynnwys elfen arall yn y Prosiect Symud Gyda Tedi. Bydd yr elfen newydd hon yn canolbwyntio ar weithio gyda’r gymuned leol i’w cefnogi i fyw mewn ffordd mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar a diogelu a chynyddu bioamrywiaeth.
"Mae’n wych bod y Loteri Cenedlaethol yn buddsoddi yn y Gymraeg gan ariannu prosiectau gan fudiadau fel y Mentrau Iaith sydd yn cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein cymunedau ac yn ddiolchgar i chwaraewyr y Loteri sy’n galluogi datblygu prosiectau o’r fath."
Gall cymunedau ddarganfod mwy am ein strategaeth amgylcheddol, ynghyd ag adnoddau ar gyfer sut y gallant wneud newidiadau yn eu cymuned trwy glicio yma.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru