Neges gan Dawn Austwick, Prif Swyddog Gweithredol, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: COVID-19
Rydym yn cydnabod bod llawer o elusennau a mudiadau cymunedol ledled y DU am wynebu heriau cynyddol o ganlyniad o COVID-19. Rydym eisiau cefnogi’r rhai rydym yn ei ariannu cyn belled ag sy’n bosibl ar yr adeg anodd hon.
Rydym yn cynghori pawb rydym yn gweithio â nhw i gadw llygad allan ar unrhyw ddatblygiadau ac i ddilyn cyngor gan yr awdurdodau iechyd perthnasol, os ydych yn ystyried gohirio gweithgareddau.
Gallwch weld y ddolen hon i wefan y GIG o gymorth wrth arwain eich ymateb.
Ar hyn o bryd mae ein holl swyddfeydd yn parhau i fod yn agored a’n timau yn gweithio fel yr arfer. Rydym yn cydnabod y gall hyn newid, ond gyda’n holl dimau bellach yn gallu gweithio o gartref, rydym yn gobeithio ni fyddai unrhyw newidiadau yn effeithio’n sylweddol ar ein gallu i barhau i ddarparu ein gwasanaethau i ymgeiswyr, deiliaid grant a chymunedau ledled y DU.
Yn ogystal â bod yn amser o bwysau cynyddol, mae hefyd yn amser i ddangos y gorau o ysbryd ein cymuned a’n cymdogaeth.
Gall meddwl am sut y gallwn gefnogi ein gilydd, bod yn garedig a chynnig arweinyddiaeth mewn cyfnod anodd helpu pawb, ac fel y gwyddom yw nodweddion parhaus ein cymdeithas sifil werthfawr. Byddwn yn ceisio adlewyrchu'r gwerthoedd hyn yn ein hymateb ein hunain.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig