Datganiad wedi’i ddiweddaru gan Dawn Austwick, Prif Swyddog Weithredol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: COVID-19
Datganiad wedi’i ddiweddaru gan Dawn Austwick, Prif Swyddog Weithredol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: COVID-19
Rydym yn cydnabod bod llawer o elusennau a mudiadau cymunedol ledled y DU am wynebu heriau cynyddol o ganlyniad o COVID-19. Rydym eisiau cefnogi’r rhai rydym yn ei ariannu cyn belled ag sy’n bosibl ar yr adeg anodd hon.
Yn dilyn arweiniad diweddaraf y llywodraeth, rydym wedi gofyn i’n staff weithio o gartref ac maent oll gyda’r offer i wneud hynny. Ein cynllun yw i barhau i ddarparu ein gwasanaethau i ymgeiswyr, deiliaid grant a chymunedau ledled y DU mor arferol ag y gallwn.
Rydym eisoes wedi dechrau symud dyddiadau cau ceisiadau i rhai o’n cronfeydd oedd i fod i gau yn fuan. Rydym hefyd eisiau bod yn hyblyg lle bo deiliaid grant yn cael trafferth neu’n rhagweld problemau’n dod eu ffordd nhw.
Fodd bynnag, rydym mewn tiriogaeth ddigymar a bydd pethau'n digwydd nad oeddem wedi'u disgwyl a byddwn yn cael pethau'n anghywir. Byddwch yn amyneddgar gyda ni os gwnawn ni os gwelwch yn dda, rhowch wybod i ni, a byddwn ni mor gynorthwyol â phosib wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
Ar hyn o bryd ein blaenoriaeth yw cadw arian i lifo i gefnogi pobl, cymunedau a'r
Mudiadau.
Bod yn hyblyg
Byddwn yn eich cefnogi i gefnogi'ch cymunedau - rydym yn ymddiried ynoch chi i wybod beth sydd orau. Mae hyn yn golygu:
- Byddwn yn hyblyg o ran eich grant cyfredol, er enghraifft:
- darparu ar gyfer newidiadau i linellau amser
- darparu newid i weithgaredd i ymateb i’r hinsawdd bresennol a’r anghenion lleol critigol - Byddwn yn eich cefnogi chi a’ch timau trwy’r argyfwng hwn: er enghraifft,
- parhau i dalu cyflog staff er mwyn i chi allu cefnogi staff presennol sydd angen bod i ffwrdd yn sâl, hunan-ynysu neu sydd â chyfrifoldebau gofalu
- ystyried unrhyw ofynion am gefnogaeth os ydych yn profi unrhyw bwysau ariannol penodol o ganlyniad i’r sefyllfa - Nid ydym eisiau i chi bryderu am ddyddiadau cau ac adrodd: er enghraifft,
- byddwn yn hyblyg wrth ystyried adrodd
- Os ydych yn adrodd unrhyw newidiadau rydych yn ei wneud i’r prosiectau, gallwn gymodi popeth yn hwyrach ymlaen.
Cysylltu â ni
Gall ein swyddogion ariannu ateb cwestiynau a allai fod gennych, cysylltwch â nhw os bydd angen. Fodd bynnag, er mwyn osgoi oedi, hyderwn i chi ganolbwyntio ar gefnogi eich cymunedau.
Ar hyn o bryd rydym yn profi gallu newydd i wasanaethu ein llinellau cyngor fel y gallant weithredu o bell. Am y 24 awr nesaf gallwch ddefnyddio'r cyfeiriadau e-bost ar y dudalen hon i gysylltu â ni.
Yn dilyn hynny, bydd y llinellau cymorth yn agored unwaith eto.
Gall yr holl fanylion gael eu darganfod yma: www.tnlcommunityfund.org.uk/contact
Camau nesaf
O ystyried natur ddigynsail y sefyllfa, rydym wedi bod yn ystyried beth arall y gall y Gronfa ei wneud i gefnogi pobl a chymunedau.
Rydym yn estyn allan ar draws ein rhwydwaith o ddeiliaid grant, partneriaid a budd-ddeiliaid i ddeall sut y maent eisoes yn ymateb i COVID-19 a'r hyn y gallwn ei wneud i'w cefnogi yn y tymor byr a'r tymor hwy. Byddwn yn eich diweddaru wrth i'n hymateb barhau i ddatblygu.
Yn olaf, rwyf am ddweud ar yr adeg heriol iawn hon pa mor galonogol yw gweld pobl yn dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd.
Cofion
Dawn Austwick
Prif Weithredwr, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig