Datganiad gan Dawn Austwick, Prif Weithredwr, Cronfa Gymuendol y Loteri Genedlaethol: Ein dull ariannu mewn ymateb i COVID-19
Ar yr amser hynod o anodd yma, rydym oll yn cael ein herio a’n symud mewn ffyrdd oedd yn anghredadwy ond rhai wythnosau yn ôl. Ein prif flaenoriaeth yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw cefnogi pobl a chymunedau trwy ein hariannu yn y ffordd orau y gallwn, gan hefyd gydnabod na allwn helpu pawb.
Fel mae nifer ohonoch yn gwybod rydym wedi bod yn siarad gyda deiliaid grant a phartneriaid i ddeall natur eu hymateb i COVID-19 ac i weld beth allwn ni ei wneud i’w cefnogi. Hyd yn hyn, rydym wrth gwrs wedi anrhydeddu ein hymrwymiadau presennol i ddeiliaid grant ac wedi cynnig hyblygrwydd iddynt fel y gallont ganolbwyntio ar gefnogi eu cymunedau.
Rydym nawr wedi gwneud dau benderfyniad pellach. Yn gyntaf, bydd pob penderfyniad ariannu a wnawn dros y chwe mis nesaf (hyd at £300m o arian y Loteri Genedlaethol) yn cael ei ymroi i annerch yr argyfwng presennol. Yn ychwanegol, byddwn yn cyflymu’r ariannu cymaint ag y medrwn, fel y gall yr arian gyrraedd ble mae ei angen fwyaf. Nid arian newydd yw hwn, ond bydd yn arian cyflymach ac rydym yn gwybod fod angen i ni weithredu yn gyflym a hyderus.
Wrth benderfynu sut i weithredu'r dull yma mae angen i ni wneud penderfyniadau anodd am sut y gall yr arian fod ar gael yn sydyn i’r cymunedau a sefydliadau hynny sydd ei angen fwyaf. Byddwn yn gwneud ein gorau i fod yn deg a ffyddlon yn ein hegwyddorion ag i chi.
Er mwyn cyrraedd y grwpiau hynny sydd mewn lle da i gefnogi eu cymunedau ar yr amser yma, byddwn yn blaenoriaethau taliadau ar gyfer deiliaid grant ac ymgeiswyr gan ddefnyddio'r meini prawf canlynol:
- Gweithgareddau sydd wedi ei dylunio yn benodol ar gyfer cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng yma
- Helpu sefydliadau i oresgyn unrhyw broblemau methdaliad o ganlyniad i COVID-19
Rydym yn gwneud hyn gan ein bod yn gwybod ei bod hi’n hollbwysig inni nawr i weithio yn galetach fel ariannwr i ddosbarthu arian a gobeithiwn y gallwn helpu sefydliadau sydd ar reng flaen yr argyfwng yma drwy weithio yn gyflym, pan fo angen cymorth fwy nag erioed. Os byddwn yn dod i ddiwedd y gefnogaeth gyntaf yma a bod arian ar ôl neu fod amgylchiadau yn newid, byddwn yn symud i osod blaenoriaethau newydd. Rydym yn gwybod fod hyn yn golygu na fydd hi’n bosibl i rai grwpiau gael mynediad at ein harian dros y misoedd nesaf, a byddwn yn ymdrechu i gynnig ein cefnogaeth arferol llawer mwy eang cyn gynted ag y medrwn.
Mae pethau yn newid yn gyflym a byddwn yn adolygu ein dull newydd yn barhaus Byddwn hefyd yn parhau i ymchwilio i sut mae’r argyfwng yma yn newid y ffordd rydym yn byw fel cymunedau ac sut mae’r trydydd sector ei hun wedi newid.
Parhewch i siarad â ni, rhannu eich storïau, a dweud wrthym beth allwn ei wneud yn wahanol i helpu. Os gallwn, mi fyddwn.
Yn gywir
Dawn Austwick
Prif Weithredwr, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Ar gyfer y newyddion diweddaraf, ewch i’n tudalen wybodaeth COVID-19.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig