Grwpiau cymunedol yng Nghymru yn derbyn dros filiwn o bunnoedd, wrth i’r Loteri Genedlaethol barhau i gefnogi cymunedau
Mae 95 o gymunedau ledled Cymru yn derbyn cyfran o £1,242,453 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Wrth i effaith mesurau i reoli COVID-19 gynyddu, mae’r Gronfa’n parhau i ddyfarnu grantiau a chefnogi cymunedau lleol i ddelio â’r heriau o bobl yn aros yn eu cartrefi. Mae staff yn gweithio o gartref a blaenoriaeth y mudiad yw sicrhau bod arian yn dal i lifo mewn i gymunedau.
Tri o’r 95 mudiad a ariennir mis yma yw:
- Kidcare4U yng Nghasnewydd a dderbyniodd £9,994 i gefnogi newyn i oresgyn rhwystrau iaith i aros yn gysylltiedig yn eu cymunedau.
- Gwnaeth Mind Ltd yn yr Wyddgrug gais am £9,750 i barhau ac ehangu eu Hwb Llesiant yn Wrecsam.
- Derbyniodd Resolven Building Blocks £99,885 i ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl dros dair blynedd i deuluoedd â phlant a phobl ifanc ag anableddau. Maent yn bwriadu cynnig sesiynau cwnsela wedi'u teilwra, grwpiau cymorth cymheiriaid a gweithdai ar gyfer rhieni a chynlluniau gweithredu teuluol.
Mae manylion llawn yr holl grantiau a ddyfarnwyd ar gael o'r ddolen hon, mae dyfarniadau'n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
“Fel yr ariannwr mwyaf o weithgaredd cymunedol yn y DU, ein blaenoriaeth gyntaf yw cefnogi pobl a chymunedau trwy ein harian grant yn y ffordd orau y gallwn.
“Rydyn ni eisiau sicrhau’r sector gwirfoddol, cymunedol a menter gymdeithasol ein bod ni yma o hyd ac yn dal i ddyfarnu gwobrau. Rydym wedi ymrwymo hyd at £300 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau i ddelio â'r argyfwng presennol
. Nid arian newydd mo hwn, ond bydd yn cael ei lifo’n gyflym i mewn i gymunedau.
“Rydym yn gwerthfawrogi y gallai fod angen i lawer o’r mudiadau sydd newydd glywed eu bod wedi derbyn arian grant ohirio cyflawni eu prosiect. Byddwn yn hyblyg ac yn ymddiried bod ein holl ddeiliaid grantiau yn gwybod beth sydd orau wrth iddynt reoli effaith yr amseroedd heriol hyn. "
Cyhoeddodd y Gronfa yr wythnos diwethaf y bydd, dros y chwe mis nesaf, (hyd at £300m o arian y Loteri Genedlaethol ledled y DU) yn cael ei ddyfarnu i fynd i’r afael â’r argyfwng presennol.
Mae rhai o'r mudiadau sydd eisoes wedi cael grantiau eisoes yn addasu'r gefnogaeth maen nhw'n ei chynnig, wrth iddyn nhw ymateb i ganllawiau'r llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol. Er enghraifft:
- Mae Same But Different, sydd fel arfer wedi’i leoli yn yr Wyddgrug Gogledd Cymru, wedi symud ei grŵp wythnosol ‘Coffee and Share’ ar-lein fel y gallant ddal i ddod at ei gilydd fwy neu lai i gefnogi ei gilydd yn ystod yr amseroedd heriol hyn.
- Mae theatr Mess up the Mess yn Sir Gaerfyrddin wedi symud ei sesiynau theatr ar-lein fel y gall y bobl ifanc, sydd fel arfer yn dod draw yn bersonol, barhau i gwrdd yn rheolaidd
- Mae New Pathways, sy'n cynnig cwnsela i oroeswyr trais rhywiol a cham-drin rhywiol, yn parhau i ddarparu gwasanaethau cwnsela, dros y ffôn.
Dim ond tri o'r grwpiau anhygoel ledled Cymru yw rhain sy'n ymateb i anghenion eu cymunedau.
Gellir gweld diweddariadau llawn o ymateb Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i'r mesurau i fynd i'manylion cyswllt cyffredinol ar ein gwefan.r afael â COVID-19 a
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru