Ein hariannu yn ystod COVID-19
Beth rydych angen ei wybod
Yn gyntaf, rydym eisiau i chi wybod y byddwn yn parhau i anrhydeddu ein hymrwymiadau cyfredol ac yn parhau i fod yn hyblyg gyda'r grantiau presennol. Fodd bynnag, COVID-19 fydd ein blaenoriaeth.
Beth mae hyn yn ei olygu
Bydd yr holl benderfyniadau ariannu a wnawn am y chwe mis nesaf yn blaenoriaethu cael arian grant i grwpiau sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi eu cymunedau ar yr adeg hanfodol hon gan ganolbwyntio i ddechrau ar ddeiliaid grantiau ac ymgeiswyr presennol.
Byddwn yn blaenoriaethu:
- Mudiadau sy'n cefnogi pobl sydd â risg uchel o COVID-19
- Mudiadau sy'n cefnogi cymunedau sydd fwyaf tebygol o wynebu galw a heriau cynyddol o ganlyniad uniongyrchol o COVID-19
- Mudiadau sydd â photensial uchel i gefnogi cymunedau ag effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol COVID-19
Os hoffech chi gyflwyno cais nad yw'n gysylltiedig â COVID-19, mae croeso i chi wneud hynny o hyd. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol ei bod yn debygol y bydd mwy o gystadleuaeth am ein harian grant, ac oediad yn ein gallu i ymateb.
Os ydych eisoes wedi cyflwyno cais nad yw'n gysylltiedig â COVID, byddwn mewn cysylltiad i drafod y cais penodol hwn gyda chi.
Sylwch y byddwn yn diweddaru canllawiau ar ein tudalennau rhaglen benodol ar ein gwefan ddydd Llun.
Ar gyfer y newyddion diweddaraf, ewch i’n tudalen wybodaeth COVID-19.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig