Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwsiant mewn pandemig Byd-Eang
Bydd cysyniadau a diffiniadau amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl yn seiliedig ar brofiadau personol iawn. Fel aelodau o Gydweithrediad Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant Arianwyr, rydym wedi defnyddio'r derminoleg sy'n cael ei defnyddio gan bartneriaid eraill yn y gofod hwn, er mwyn cysondeb ac eglurder.
Amrywiaeth - Diffiniwyd hyn yn fras i gwmpasu cymysgedd demograffig casgliad penodol o bobl, gan ystyried elfennau o wahaniaeth dynol.
Tegwch - Gwella tegwch yw hyrwyddo cyfiawnder, didueddrwydd a thegwch o fewn gweithdrefnau, prosesau a dosbarthiad adnoddau gan fudiadau neu systemau. Mae mynd i'r afael â materion tegwch yn gofyn am ddealltwriaeth o achosion sylfaenol neu wraidd gwahaniaethau canlyniadau yn ein cymdeithas.
Cynhwysiant - Yn cyfeirio at y graddau y gall unigolion amrywiol gymryd rhan lawn mewn proses, gwasanaeth neu fudiad, er enghraifft. Bydd y cyd-destun yn bwysig wrth bennu lefelau cynhwysiant.
Ein hymrwymiadau presennol fel ariannwr
Rydym wedi ymrwymo'n gryf i'r agenda hon. Rydym wedi ariannu a gweithredu mewn ffordd sy'n ceisio lefelu'r cae chwarae. Er enghraifft, mae ein harian yn ymateb i lefelau amddifadedd mewn cymunedau, mae ein cynhyrchion ariannu yn caniatáu i bobl yn ogystal ag elusennau mawr gael gafael ar gymorth i fynd i'r afael â'r materion y maent yn gwybod sydd bwysicaf, ac rydym wedi archwilio yn fwy diweddar sut y gallwn gefnogi'r rheini sydd â phrofiad o lygad y ffynnon a dod â llais phobl ifanc i mewn i'n mudiad. Dyma rai o'r ffyrdd ymarferol yr ydym yn gweithredu ein hymrwymiadau bob dydd.
Rydym yn defnyddio ein cyllid a'n perthnasoedd i helpu i greu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig.
Fodd bynnag, mae'r Cynllun Corfforaethol yn dal i weithredu ac yn monitro ein perfformiad i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau y gallwn. Dyma ychydig o'r ymrwymiadau yr ydym eisoes wedi'u gwneud:
Mae ein harian yn fwy hyblyg a hygyrch
- Mae 90% o gwsmeriaid yn cytuno bod ein prosesau'n syml ac nid yw grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol dan anfantais gan unrhyw un o'n prosesau rhoi grantiau.
- Erbyn 2023 mae gennym ddata cadarn, sy'n galluogi pob portffolio i ddeall lledaeniad ac effaith arian ar draws cymunedau amrywiol, nodi meysydd o dan-gynrychiolaeth a gweithredu cynlluniau i fynd i'r afael â hyn.
Rydym yn creu diwylliant cynhwysol ac ymdeimlad o berthyn i weithlu amrywiol
- Mae 80% o gydweithwyr yn teimlo'n falch o weithio yn y Gronfa.
- Rydym yn rhagori ar feincnodau'r Gwasanaeth Sifil a dosbarthwyr ar gyfer y gweithlu cynrychioliadol.
Fel arweinydd a chatalydd, rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn cymdeithas sifil
- Rydym yn rhannu arfer ac yn dysgu o gymryd rhan yn y Glymblaid Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant ac yn datblygu fframweithiau i ni'n hunain ac i eraill yn y sector.
- Rydym yn cyflwyno rhaglen flynyddol o gyfathrebu ac ymgysylltu mewnol ac allanol rheolaidd ar ein huchelgeisiau amrywiaeth a chynhwysiant.
Ariannu mewn argyfwng
Rydym wedi ymrwymo i degwch ac rydym am sicrhau ein bod yn cadw hyn ar flaen ein meddyliau wrth inni wneud penderfyniadau anodd ynghylch y ffordd orau o dargedu adnoddau.
Rydym am sicrhau bod ein cyllid ymateb Covid-19 yn hygyrch i bobl o bob cymuned, a'r rhai sy'n gweithio, yn benodol, i gefnogi grwpiau sy'n profi her ac anhawster anghymesur o ganlyniad i'r argyfwng. Rydym hefyd eisiau sicrhau bod ein harian yn cael ei ddefnyddio i leihau anghydraddoldeb a, lle bo hynny'n bosibl, cyfrannu at fyd ôl-firaol mwy teg.
Yr hyn yr ydym wedi'i wneud hyd yn hyn i ymgorffori tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein hymateb Ariannu Covid-19
- Mae tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygu ein cynlluniau i gefnogi mudiadau. Mae hyn wedi llywio tacsonomeg yr ydym yn ei ddefnyddio wrth i ni weithredu ein hymateb.
- Rydym yn bwriadu cefnogi cymunedau sy'n profi anghydraddoldebau iechyd, yn seiliedig ar yr hyn yr ydym yn ei glywed gan y sector, ein deallusrwydd mewnwelediad a'n dadansoddiad presennol ein hunain gan ymchwilwyr ynghylch sut mae Covid-19 yn effeithio'n arbennig ar rai cymunedau.
- Rydym wedi defnyddio'r tacsonomeg honno i ddadansoddi ein rhestr bresennol o ddeiliaid grantiau a deall pa fathau o fudiadau a fyddai'n allweddol i'w cefnogi o safbwynt tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant - gan sicrhau nad ydym yn ymateb i'r mudiadau sydd â chysylltiad da yn unig ac yn fwyaf amlwg i’w gweld.
- Rydyn ni wedi profi'r mecanweithiau riannu, y deunyddiau a'r wybodaeth rydyn ni'n eu defnyddio er mwyn sicrhau eu bod nhw'n hygyrch i bob cymuned ac wedi profi ein hymateb ariannu yn erbyn rhai o'r cynigion penodol rydyn ni'n eu derbyn gan fudiadau cymunedol pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i wirio bod yr hyn rydym yn ei gynllunio yn berthnasol i'r hyn sydd ei angen arnynt.
- Rydym wedi dadansoddi argymhellion adroddiad CharitySoWhite yn erbyn ein hymateb ariannu arfaethedig ac wedi datblygu rhywfaint o ganllawiau drafft ar gyfer staff yn seiliedig ar yr argymhellion hynny.
Camau nesaf
Byddwn yn tynnu ar y cryfderau a'r mewnwelediadau ymhlith ein rhwydweithiau staff a budd-ddeiliaid allanol er mwyn datblygu a gweithredu ein harian ymateb Covid-19.
Ymgysylltu â budd-ddeiliaid
Rydym yn croesawu a byddwn yn mynd ati i geisio cael adborth gan fudd-ddeiliaid sydd â'r arbenigedd, y profiad a'r ymddiriedaeth gydag ystod o gymunedau i helpu i arwain ein hymateb datblygol.
Rydym eisoes wedi nodi rhestr o fudd-ddeiliaid allweddol sydd ag arbenigedd mewn lleihau anghydraddoldebau o ran ethnigrwydd, anabledd, oedran, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Byddwn yn rhannu ein cynlluniau gyda nhw ac yn gofyn iddynt wneud sylwadau ar y rhain a sut y gellir eu gwella. Bydd y rhain yn cynnwys mudiadau megis Voice 4 Change, Black Thrive, Ubele, Stonewall, Disability Rights UK. Bydd eu hadborth, ochr yn ochr â llawer mwy, yn parhau i lywio ein hymateb ariannu a sut rydym yn cyfleu'r hyn yr ydym yn ei wneud.
Fel rhan o'n hymateb ariannu, byddwn yn archwilio ai ni yn uniongyrchol sydd orau i ddarparu arian penodol ar gyfer grwpiau penodol mewn cymunedau, neu fel rhan o'n prif gynnig arian, neu mewn partneriaeth ag eraill.
Arweiniad ac asesiad staff
Byddwn yn defnyddio ein rhwydweithiau staff pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, anabledd a LHDT+ + i adolygu canllawiau staff a deunyddiau asesu, ac yn gweithredu fel rhwydwaith o hyrwyddwyr fel ein bod yn lleihau'r risg o ragfarn anymwybodol wrth asesu cymwysiadau sydd o fudd i'r cymunedau hyn.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig