Arian y Loteri Genedlaethol yn rhoi hwb i ymdrechion anhygoel cymunedau yn Ynys Môn
Mae cymunedau ledled Ynys Môn yn cydlynu rhwydwaith trawiadol o dros 850 o wirfoddolwyr, i gefnogi’r rhai sydd fwyaf agored i niwed trwy bandemig COVID-19, diolch i grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae Medrwn Môn, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Menter Môn wedi derbyn £59,995 o arian y Loteri Genedlaethol i helpu gyda chydlynu 36 o Dimau Cefnogi Ardal i gefnogi ymateb brys eu cymuned i COVID-19.
Mae'r grant yn darparu arian mawr ei angen i helpu i ateb y galw cynyddol am eu gwasanaethau ac mae'n galluogi grwpiau cymunedol, mudiadau trydydd sector a’r Awdurdod Lleol i weithio gyda'i gilydd i ddarparu cymuned gyd-gysylltiedig i ymateb i COVID-19.
Dywedodd Sian Purcell, Prif Swyddog Medrwn Môn: “Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu mewn ymateb i anghenion ac adborth gan wirfoddolwyr y Timau Cefnogi Ardal sydd mewn cysylltiad agos â’u cymunedau.”
“Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn y bobl sy’n dod i wirfoddoli, mewn gwirionedd mae’r pandemig hwn wedi agor y drws i genhedlaeth newydd o wirfoddolwyr sy’n chwa o awyr iach. Trwy'r prosiect hwn rydym am sicrhau ein bod yn darparu profiad cadarnhaol ar gyfer y derbyniad newydd hwn o wirfoddolwyr. "
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd yr arian hwn yn ein galluogi i gefnogi ein cymunedau ymhellach trwy ffordd gyd-gysylltiedig sy'n sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n dda a bod grwpiau ymhlith y cymunedau yn gallu cwrdd â'r galw am help."
Gyda'i gilydd, mae'r partneriaid wedi datblygu deunyddiau ac arweiniad ar gyfer pob Timau Cefnogi Ardal i gefnogi ei wirfoddolwyr. Yn ystod y pandemig mae dau Fanc Bwyd ychwanegol wedi agor yn Llangefni a Phorthaethwy i ateb y galw cynyddol am gyflenwad bwyd. Bydd y grant yn helpu i ariannu ‘Neges’, sy’n bartneriaeth ymateb i ddosbarthu parseli bwyd a phrydau bwyd wedi’u gwneud yn barod i’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae ‘Neges’ yn unig wedi cyflwyno 500 o becynnau bwyd yn ystod y pythefnos diwethaf i deuluoedd ar yr Ynys, ac yn mynd ochr yn ochr â’r ymdrechion rhyfeddol a wnaed gan y banciau bwyd a'r gwirfoddolwyr cymunedol.
Bydd y grant hefyd yn galluogi gwirfoddolwyr i aros yn gysylltiedig trwy ddeunyddiau ar-lein yn ogystal â deunyddiau printiedig ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu cyrchu'r Rhyngrwyd. Mae'r gwirfoddolwyr yn helpu'r rhai mwyaf agored i niwed gyda thasgau fel siopa, postio llythyrau a cherdded cŵn.
Dywedodd Ruth Bates, Pennaeth rhanbarth Gogledd Cymru ar gyfer Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Yn yr amser hwn o ansicrwydd, mae’r dull hwn a arweinir gan y gymuned yn enghraifft wych o sut mae grwpiau sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddarparu ymateb cymunedol cyd-gysylltiedig i COVID-19 yn helpu’r rheini sydd ei angen fwyaf. ”
“Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol am ei gwneud yn bosibl ariannu prosiectau fel hyn sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau llawer yn Ynys Môn.”
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru