Prif Swyddog Gweithredol i roi'r gorau i'w swydd ar ddiwedd y flwyddyn
Heddiw mae ein Prif Swyddog Gweithredol, Dawn Austwick, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y sefydliad ddiwedd y flwyddyn hon.
Daw ei chyhoeddiad yn dilyn saith mlynedd yn arwain ein gwaith fel ariannwr gweithgaredd cymunedol mwyaf y DU, gan ddosbarthu arian achos da a godwyd diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Mae Dawn wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod pobl a chymunedau wrth wraidd ein penderfyniadau ac mae wedi arwain y gwaith o greu a gweithredu ein Fframwaith Strategol: Pobl yn arwain, dros y saith mlynedd diwethaf.
Penderfynodd Dawn roi'r gorau i'w swydd yn gynharach eleni, ond gohiriodd ei chynlluniau i lywio'r Gronfa trwy ddechrau COVID-19. Nawr gydag arian y Loteri Genedlaethol yn llifo'n llwyddiannus i gymunedau i helpu i liniaru effaith COVID a chyda £200m o arian gan y llywodraeth yn weithredol, mae hi wedi nodi ei bwriad i'r Bwrdd fel y gallant ddechrau'r broses recriwtio i benodi olynydd.
Dywed Tony Burton, Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ein rhan i gyd wrth gydnabod gwasanaeth aruthrol Dawn wrth gryfhau'r Gronfa dros ei saith mlynedd. Mae ei hangerdd a'i hymrwymiad wedi talu ar ei ganfed a byth yn fwy na yn y ffordd rydym wedi gallu ymateb i gymunedau yng nghanol argyfwng cenedlaethol. Heb os, bydd ei harweinyddiaeth yn gadael marc cadarnhaol ar gymunedau ledled y DU wrth i'r wlad adfer ac ailadeiladu. "
Dywed Dawn Austwick, Prif Swyddog Gweithredol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Ar ôl saith mlynedd wrth y llyw, a chyda phen-blwydd sylweddol yn agosáu, mae’n bryd imi chwilio am anturiaethau newydd a ffordd o fyw wahanol. Gwneuthum y penderfyniad hwn yn gynharach yn y flwyddyn ond gohiriais fy nghynlluniau pan darodd Covid-19.
“Byddaf yn gadael y Gronfa ar ddiwedd y flwyddyn mewn siâp rhagorol a byddaf yn drist iawn gadael fy nghydweithwyr a'r Bwrdd rhyfeddol, ond yn gyffrous am yr hyn a allai fod o'n blaenau. Rwy'n parhau i fod yn angerddol am y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn helpu pobl a chymunedau i ffynnu ac wedi ymrwymo'n llwyr ac yn egnïol i arwain y Gronfa trwy'r ychydig fisoedd nesaf."
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig