Y Loteri Genedlaethol yn cefnogi elusen Gymreig wrth iddi baratoi at gynnydd mewn achosion trais yn y cartref.
Mae elusen Gymreig sy’n darparu dodrefn a nwyddau trydan ail law i’r rhai mewn angen yn paratoi ei hun ar gyfer cynnydd enfawr mewn galw oherwydd trais yn y cartref yn ystod y cyfnod clo. Mae toogoodtowaste - sy’n gweithredu ledled Rhondda Cynon Taf - wedi sicrhau grant o fwy na £31,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Prif Weithredwr yr elusen yw Shaun England. Mae’n egluro:
“Rydym yn clywed gan bobl sydd mewn sefyllfaoedd anodd iawn ac sy’n ei chael hi’n anodd iawn. Wrth i’r cyfyngiadau ar ymbellhau cymdeithasol a theithio, lacio ledled Cymru, rydym yn disgwyl gweld mwy o alw am ein gwasanaethau oherwydd trais yn y cartref, heb os nag oni bai.
“Nawr fod y cyfyngiad teithio o bum milltir wed ei godi, rydym yn disgwyl gweld cynnydd enfawr mewn pobl sydd wedi goroesi trais yn y cartref yn dod ymlaen sydd angen mynd i gartref diogel oddi wrth y rhai fu’n eu cam-drin a byddant angen amrywiaeth o eitemau ganddom ni ar gyfer eu cartrefi argyfwng.”
Mae’r elusen wedi bod yn gweithio fel lladd nadredd ers mis Chwefror i gyflenwi eitemau i bobl sydd wedi cael llif yn eu cartrefi yn y dilyw yn gynharach yn y flwyddyn ag yna eto ym mis Mehefin:
“Rydym wedi bod yn dosbarthu i bobl sydd wedi gorfod symud allan neu sydd wedi bod yn byw ar ail lawr eu cartrefi.”
Trwy’r argyfwng mae toogoodtowaste hefyd wedi bod yn cefnogi pobl sy’n delio â digartrefedd a thlodi.
Mae’r rhai sydd mewn angen yn cael eu cyfeirio at toogoodtowaste gan bartneriaid megis unedau trais yn y cartref, gwasanaethau plant, gwasanaethau cymdeithasol, cymdeithasau tai ag elusennau digartrefedd, mae’r elusen yn awr yn defnyddio’r grant cyflym gan y Loteri Genedlaethol i brynu offer cegin a dodrefn wedi’i ailgylchu.
Hyd yn hyn mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymateb i’r argyfwng Covid-19 gyda bron i £1.4 miliwn mewn grantiau, gan gefnogi unedau trais yn y cartref ag elusennau ledled Cymru. Ledled Prydain mae hyd at £600 miliwn wedi ei wneud ar gael i gefnogi cymunedau ledled Prydain yn ystod COVID-19 diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’n bosibl inni ariannu prosiectau fel toogoodtowaste sy’n helpu pobl trwy sefyllfaoedd anodd iawn. Rydym yn parhau i dderbyn nifer o geisiadau am grantiau ledled Cymru ac mae’n galonogol gweld sut mae cymunedau yn cydweithio.”
Mae elusennau ledled Cymru wedi adrodd cynnydd mewn galwadau i linellau Cymorth yn adrodd trais yn y cartref ers mis Mawrth*.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru