Ariannu COVID-19 yn Lloegr: diweddariad
Mae'r canlynol yn rhoi diweddariad ar Gronfa Cymorth Cymunedol Coronafeirws yn Lloegr, a lansiwyd ar 22 Mai.
Hyd yma, rydym wedi derbyn dros 10,000 o geisiadau i'r Gronfa. O'r £200m a ddyrannwyd gan y Llywodraeth rydym bellach wedi dyfarnu grantiau o bron i £55 miliwn i dros 2,300 o sefydliadau yn Lloegr, gan helpu cymunedau yn ystod yr amser anodd hwn.
Wrth barhau i ariannu dyfarniadau, rydym hefyd wedi bod yn cadw llygad barcud ar lefel y galw, gyda cheisiadau gwerth bron i £130 miliwn yn cael eu hasesu ar hyn o bryd gan ein timau ariannu.
Er mwyn sicrhau y gallwn fodloni cymaint o'r ceisiadau hyn â phosibl, byddwn yn cau dyraniad y Llywodraeth o'r arian grant i geisiadau newydd am hanner dydd ar 17 Awst.
Byddwn yn parhau i asesu ceisiadau a gawsom cyn y dyddiad hwn. Tra bod yr arian pwysig hwn gan y Llywodraeth yn dod i ben, bydd arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau yn Lloegr yn parhau i fod ar gael.
Mae mwy o fanylion ar sut y gallwn barhau i'ch cefnogi trwy COVID i'w gweld yn www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/covid-19.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Lloegr