Mae cymunedau'n brwydro yn erbyn argyfwng hinsawdd diolch i £2.8 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol
Mae dau sefydliad yng Nghymru wedi derbyn grantiau gwerth cyfanswm o £2,738,621 gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi eu cymunedau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae'r grantiau ymhlith 14 grant ledled y DU sy'n dod i gyfanswm o dros £14 miliwn, sef y cyntaf sy'n cael eu dyfarnu o dan y Gronfa Gweithredu Hinsawdd gwerth £100 miliwn ac sy'n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Mae'r grantiau'n dilyn y £300,000 ar gyfer 29 o grantiau bach yn gynharach eleni i brosiectau presennol y Loteri Genedlaethol fel peilot i wella i wneud gwelliannau bach yn eu cymuned i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Hyd yn hyn mae'r peilot wedi arbed tua 56 tunnell o allyriadau CO2.
Mae Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn derbyn £2,499,871 i ddod â phob un o'r pum Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt leol yng Nghymru ynghyd a grymuso pobl ifanc ledled Cymru i arwain ar weithredu hinsawdd lleol yn eu cymunedau. Nod y bartneriaeth yw gweithio ym mhob rhan o Ynys Môn, Gogledd Powys, Ceredigion, Caerdydd a Chasnewydd.
Y weledigaeth ar y cyd ar gyfer yr ymddiriedolaethau yw meithrin Cymru sy'n ymwybodol o'r hinsawdd a chadwraeth, lle mae pobl ifanc wedi'u grymuso yn gyrru ymddygiadau sy'n newid.
Dywedodd Rachel Sharp, Prif Swyddog Gweithredol, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru: “Mae Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru wrth eu boddau o gael y cyfle hwn i weithio ochr yn ochr â phobl ifanc a’u cymunedau i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a gwrthdroi dirywiad natur yng Nghymru. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae gennym gyfle nawr i rymuso ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr amgylcheddol yng Nghymru, a pharatoi'r ffordd ar gyfer dyfodol lle mae iechyd ein cymunedau yn cael ei ystyried yn gysylltiedig yn annatod ag iechyd ein hamgylcheddau naturiol.”
Wrth groesawu’r grant, dywedodd Craig Bennett, Prif Weithredwr, Yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt: “Mae hwn yn brosiect hynod gyffrous sydd wedi’i ddatblygu law yn llaw gan bobl ifanc ledled Cymru a’r pum Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yng Nghymru sy’n gweithio ochr yn ochr â’u cymunedau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, trwy'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd, bydd y prosiect hwn yn gweld pobl ifanc nid yn unig yn cymryd rhan mewn prosiectau adfer natur a fydd yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ond bydd hefyd yn eu grymuso i ddylanwadu ar eu cyfoedion a'u cymunedau i wyrdroi'r argyfwng ecolegol sy'n ein hwynebu - mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth ddiogelu'r byd naturiol er budd cenedlaethau'r dyfodol a goroesiad ein planed. "
Dyfernir yr ail grant yng Nghymru i Croeso i’n Coedwig yn Rhondda Cynon Taf, sy'n derbyn £238,750 i ddatblygu gweledigaeth y gymuned leol o ddyffryn Rhondda ymhellach. Trwy ddefnyddio'r goedwig a phren leol i sefydlu nifer o brosiectau economi werdd. Byddant yn archwilio ffyrdd o fyw ac o weithio sy'n cyfrannu at effaith gadarnhaol ar yr hinsawdd ac yn lleihau'r ôl troed carbon ar raddfa gymunedol, yn creu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol i'r gymuned ffynnu.
Wrth groesawu’r grant, dywedodd Ian Thomas: “Rydyn ni wrth ein boddau o gael y Grant Cronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol hon. Bydd yn ein galluogi i adeiladu ar waith Croeso i’n Coedwig dros y 10 mlynedd diwethaf, a buddsoddi ymhellach mewn adeiladu stiwardiaeth gymunedol ar dirwedd Treherbert er budd y gymuned a’r hinsawdd”.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae pobl yn deall yr effaith y mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein cymunedau. Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn rhan o'n hymrwymiad i gefnogi pobl a chymunedau i arwain wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i wneud newidiadau lle maen nhw'n byw i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.
“Fel yr ariannwr mwyaf o weithgaredd cymunedol yn y DU rydym yn gwybod mai cymunedau sydd yn y sefyllfa orau i ddeall a gweithredu ar fynd i’r afael â newid hinsawdd. Dyna pam ei bod yn wych eu gweld yn arwain ar amddiffyn yr amgylchedd diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. ”
Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn rhan o Strategaeth Amgylcheddol y Gronfa sydd wedi gweld buddsoddiad sylweddol gan y Loteri Genedlaethol trwy brosiectau a arweinir gan y gymuned sy'n canolbwyntio ar weithgareddau sydd nid yn unig yn gwella'r amgylchedd ond yn ei ddefnyddio i wella bywydau pobl a chymunedau. Ers mis Ebrill 2013, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu mwy na £340 miliwn i brosiectau amgylcheddol, trwy 4,796 o grantiau.
Gall cymunedau ddarganfod mwy am strategaeth amgylcheddol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ogystal ag adnoddau ar gyfer sut y gallant wneud newidiadau yn eu cymuned trwy glicio yma.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru