Sut i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy weithredu cymunedol
Heddiw [17 Medi] mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad newydd yn rhannu dysgu a mewnwelediad o brosiectau amgylcheddol diweddar a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gan ganolbwyntio ar awgrymiadau ymarferol ar sut i sbarduno, ysgogi a chynnal camau amgylcheddol cymunedol lleol.
Mae'r adroddiad, Gweithredu cymunedol ar gyfer yr amgylchedd: Digon bach i ofalu, digon mawr i wneud gwahaniaeth , yn edrych ar sut y gall gweithredu ar lefel unigol a chymunedol fod yn rymus ac yn effeithiol wrth wneud gwahaniaeth i'r amgylchedd. Mae hefyd yn tynnu sylw at sut y gall gweithredu cymunedol yn yr hinsawdd sicrhau effaith amgylcheddol wirioneddol, gan gynnwys lleihau allyriadau CO2, lleihau gwastraff ac ailddosbarthu bwyd, dodrefn a deunyddiau eraill, yn ogystal â chreu cyd-fanteision ehangach pwysig, megis gwell iechyd a lles, cynyddu balchder cymunedol a chefnogi sgiliau, hyfforddiant a swyddi.
Mae'r adroddiad – sydd wedi'i ysgrifennu gan dîm Gwybodaeth a Dysgu arobryn y Gronfa – yn cael ei lansio mewn digwyddiad ar-lein heddiw. Bydd yn gweld mwy na chant o bobl o bob rhan o'r DU sydd â diddordeb mewn cymdeithas sifil a gweithredu cymunedol, gan gynnwys elusennau, cynghorau lleol a grwpiau amgylcheddol yn chwilio am ysbrydoliaeth ar sut i leihau eu hôl troed carbon, clywed gan brosiectau amgylcheddol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol megis Partneriaeth Cyfalaf Gwyrdd Bryste a Dref Werdd, Blaenau Ffestiniog, Cymru, sy'n rhan o'r adroddiad , gan sôn am y camau amgylcheddol y maent yn eu cymryd yn eu cymunedau.
Beth all weithrediad cymunedol ei wneud i’r amgylchedd?
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y 7 ffordd ymarferol y gall gweithredu cymunedol helpu'r amgylchedd. Drwy waith sefydliadau cymunedol ac elusennol lleol, gellir sbarduno a chynnal gweithredu yn yr hinsawdd drwy gamau bach a phendant gan gynnwys: gwneud newidiadau bach i ymddygiad, harneisio awydd pobl i gysylltu â'u cymunedau, defnyddio enghreifftiau da i ddangos beth sy'n bosibl, mesur a dangos y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud, creu rhwydwaith o eiriolwyr a phobl brwdfrydig, cymryd camau gweithredol i fod yn amrywiol ac yn gynhwysol ac i fod yn onest am yr hyn sy'n effeithiol ac nad yw'n effeithiol.
Beth all arianwyr ei wneud i gefnogi gweithrediad gymunedol yn yr hinsawdd?
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bum ffordd y mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu cymunedau i fynd i'r afael â newid amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys helpu pobl i arbed arian a lleihau eu hallyriadau carbon, lleihau gwastraff bwyd, dillad a dodrefn, meithrin gwybodaeth a sgiliau, meithrin perthyn a balchder cymunedol a chefnogi lles unigolion a chymunedol.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr ac arweinydd yr amgylchedd yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "O 25 mlynedd o ariannu prosiectau amgylcheddol ledled y DU rydym wedi dysgu bod pobl a chymunedau yn allweddol i leihau ein hôl troed carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd – ac mae'r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd dysg a mewnwelediad ar sut mae cymunedau'n defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i gymryd camau amgylcheddol.
"Yn bwysig, mae'r adroddiad hwn yn pwysleisio'r cysylltiadau sefydledig rhwng yr amgylchedd a lles corfforol a meddyliol, yn ogystal â'r manteision y gall gweithredu amgylcheddol ar y cyd eu cynnig i gymunedau ac unigolion. O arbed arian a lleihau allyriadau CO2, ennill sgiliau a gwybodaeth newydd a chael mwy o ymdeimlad o berthyn – gall cymunedau ddysgu oddi wrth ei gilydd a chael effaith o fewn a thu hwnt i'w cymunedau."
Dywedodd Sandra Gordon, Cyfarwyddwr Radio Ujima, sy'n bartneriaid yn y prosiect Llysgenhadon Black and Green, dan arweiniad Bristol Green Capital:
"Rydym wrth ein bodd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ein bod yn buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o arweinwyr y bydd eu gwaith yn arddangos gwaith ysbrydoledig cymunedau Pobl Dduon, Affricanaidd, Caribïaidd, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Bryste yn ogystal â sbarduno mentrau a syniadau newydd dan arweiniad y gymuned.
"Gan adeiladu ar y gwaith gwych a wnaed gan ein Llysgenhadon prosiect peilot, a amlygwyd yn adroddiad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae gan ein rhaglen newydd botensial enfawr i feithrin mwy o gysylltedd, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar draws ac o fewn cymunedau Bryste, gan arwain at gymuned amgylcheddol fwy amrywiol a chynrychioliadol sy'n dathlu ac yn cydnabod gwybodaeth, safbwyntiau ac ymdrechion pawb."
Bydd y digwyddiad rhithwir heddiw hefyd yn trafod cynllun peilot Ychwanegiad Gweithredu hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru; prosiect prawf a lansiwyd y llynedd a oedd yn dyfarnu hyd at £10,000 o arian ychwanegol gan y Loteri Genedlaethol i sefydliadau nad ydynt yn canolbwyntio ar yr amgylchedd ac a ddarparodd fynediad at gynghorwyr profiadol i'w helpu i nodi camau ymarferol i weithredu ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio.
Yn ogystal â bod yn gyfle i gefnogi cymunedau ledled Cymru i leihau eu hôl troed amgylcheddol, roedd yn gyfle i'r Gronfa brofi a dysgu sut y gallant gefnogi sefydliadau y maent yn eu hariannu i fod yn fwy ecogyfeillgar. Mae arwyddion cynnar yn dangos y bydd prosiectau sy'n cymryd rhan yn arbed 56 tunnell o CO2 ac yn gwneud arbedion cost. Nodwyd hefyd bod mwy o wybodaeth am yr hinsawdd, meithrin hyder amgylcheddol a bod yn gatalydd ar gyfer syniadau eraill am arbed carbon, yn fanteision cymunedol ychwanegol a ddarperir gan y peilot hwn.
Mae'r adroddiad newydd heddiw yn dilyn cyhoeddiad y mis diwethaf am ddyfarnu £14 miliwn i gymunedau ledled y DU fel rhan o'r Gronfa Gweithredu hinsawdd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, cronfa ddeng mlynedd o £100 miliwn a fydd yn lleihau ôl troed carbon cymunedau ac yn cefnogi symudiadau a arweinir gan y gymuned a all ddangos yr hyn sy'n bosibl pan fydd pobl yn arwain y gwaith o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Bydd arian grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi'r prosiectau hyn i gydweithio, rhannu dysgu a bod yn gatalyddion ar gyfer newid ehangach a thrawsnewidiol. Ers mis Ebrill 2013, mae'r Gronfa wedi dyfarnu mwy na £340 miliwn i brosiectau amgylcheddol, drwy ychydig o dan 4,800 o grantiau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £41 biliwn wedi'i godi ar gyfer mwy na 565,000 o achosion da ledled y DU ers 1994. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da yn y DU. Mae'r Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi pobl, prosiectau a chymunedau yn ystod y cyfnod heriol hwn.
I ddarganfod mwy ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig